Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 20

20
PEN. XX.
Cyfraith yn erbyn y rhai a roddant eu plant i Moloch. 6 neu a ymgynghorant a dewiniaid. 19 am insest neu loscach. 27 cosbedigaeth y dewiniaid.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:
2Dywet hefyd wrth feibion Israel, pob vn o feibion Israel, neu o’r dieithr, a ymdeithio yn Israel yr hwn a #Lefit.18.21.roddo oi hâd i Moloch a leddir yn farw, pobl y tîr ai llabyddiant ef a cherric.
3A mi a roddaf fy wyneb yn erbyn y dŷn hwnnw, ac ai torraf o fysc ei bobl: am iddo roddi oi hâdi Moloch, i aflanhau fyng-hyssegr, ac i halogi fy enw sanctaidd.
4Ac os pobl y wlâd gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dŷn hwnnw (pan roddo efe ei hâd i Moloch) rhac ei ladd ef.
5Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dŷn hwnnw ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymmaith ef, a phawb a ddilynant ei butteindra ef, gan butteinio yn ol Moloch, o fysc eu pobl.
6A’r dŷn yr hwn a edrycho am ddewiniaid, ac am frud-wŷr, gan butteinio ar eu hol hwynt, rhoddaf fy wyneb yn erbyn y dŷn hwnnw hefyd, a thorraf ef ymmaith o fysc ei bobl.
7Ymsancteiddiwch chwithau, #Lefit.11.44. 1.Peter 1.16.a byddwch sanctaidd canys myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich Duw chwi.
8Cedwch hefyd fy-neddfau, a gwnewch hwynt, myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich sancteiddudd.
9 # Exod.21.17.|EXO 21:17. Diarch.20.20.|PRO 20:20. Math.15.4.|MAT 15:4. Ecclus.3.2. Os bydd neb a ddirmygo ei dâd neu ei fam lladder efe yn farw: ei dâd neu ei fam a ddirmygodd efe, ei waed [fydd] arno ei hun.
10A’r gŵr yr hwn a odinebo gyd a gwraig gŵr [arall] sef yr hwn a odinebo gyd a gwraig ei gymydog lladder yn farw y godinebwr a’r odineb-wraig.
11A’r gŵr yr hwn a orweddo gyd a gwraig ei dâd, #Deut.22.21.a noethodd noethni ei dâd, #Lefit.18.8.lladder yn feirw hwynt ill dau, eu gwaed [fydd] arnynt eu hunain.
12Am y gŵr yr hwn a orweddo yng-hyd ai waudd lladder yn feirw hwynt ill dau, #Lefit.18.15.cymyscedd a wnaethant, eu gwaed [fydd] arnynt eu hunain.
13A’m y gŵr yr hwn a orweddo gyd a gwr, #Lefit.18.22.fel gorwedd gyd a gwraig, ffieidd-dra a wnaethant ill dau, lladder hwynt yn feirw, ell gwaed [fydd] arnynt eu hunain.
14A’m y gŵr a gymmero wraig, ai mam, scelerder [yw] hynny: lloscant ef a hwyntau yn tân, ac na fydded scelerder yn eich mysc.
15 # Lefit.18.23. Deut.27.21. A lladder yn farw y gŵr yr hwn a ymgydio ag anifail, lladdant hefyd yr anifail.
16A’r wraig yr hon a êl at vn anifail i orwedd tano, lladd di y wraig a’r anifail hefyd, lladder hwynt yn feirw: eu gwaed [fydd] arnynt eu hunain.
17A’r gŵr yr hwn a gymmero ei chwaer, merch ei dâd, neu ferch ei fam, ac efe yn gweled ei noethni hi, a hethe’n gweled ei noethni yntef, gwradwydd [yw] hynny, torrer hwythau ymmaith yng-olwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe, efe a ddwg ei anwiredd.
18A’r #Lefit.18.19.gŵr yr hwn a orweddo gyd a gwraig glâf oi misglwyf, ac a noetha ei noethni hi, ei diferlif hi a ddadcuddiodd efe, a hithe a ddadcuddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysc eu pobl.
19Ac na noetha noethni chwaer dy fam, neu chwaer dy dad, o herwydd ei gyfnessaf ei hun y mae [y cyfryw] yn ei noethi: dygant eu hanwiredd.
20A’r gŵr a orweddo gyd a gwraig ei ewythr frawd ei dâd, a noetha noethni ei ewythr eu pechod a ddygant, byddant feirw yn ddi blant.
21A’r gŵr yr hwn a gymmero wraig ei frawd (yscariaeth [yw] hynny) a noethodd noethni ei frawd, diblant fyddant.
22Am hynny cedwch fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, #Lefit.18.28.a gwnewch hwynt, fel na chwdo y wlâd chwi yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i bresswylo ynddi.
23Ac na rodiwch yn neddfau y genedl yr hon yr ydwyf yn ei bwrw allan o’ch blaen chwi, o herwydd yr holl bethau hynn a wnaethant, #Deut.9.5.am hynny y ffieiddiais hwynt.
24Ac wrthych y dywedais, chwi a etifeddwch eu tir hwynt, mi ai rhoddaf i chwi iw etifeddu: gwlâd yn llifeirio o laeth a mêl: myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich Duw chwi yr hwn a’ch naillduais chwi oddi wrth y bobloedd.
25 # Lefit.11.2. Deut.14.4. Roddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a’r aflân, a rhwng yr aderyn aflân a’r glân, ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd, o herwydd anifail, neu o herwydd aderyn, neu o herwydd dim oll a sathro’r ddaiar, yr hwn a neillduais i chwi iw gyfrif yn aflân.
26Byddwch chwithau sanctaidd i mi: o herwydd myfi’r Arglwydd [ydwyf] sanctaidd, ac a’ch neillduais chwi oddi wrth y bobloedd i fod yn eiddo fi.
27Yn ŵr neu yn wraig os bydd ynddynt #Deut.18.10. 1.Sam.28.9.yspryd dewiniaeth neu frud hwynt a leddir yn farw, a cherric y llabyddiant hwynt, eu gwaed [fydd] arnynt eu hunain.

Dewis Presennol:

Lefiticus 20: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda