Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 8

8
PEN. VIII.
Y wraig a ddaliwyd mewn godineb yn cael barn drugarog gan Grist, yr hwn yw goleuad y byd. 14 O ba le yr oedd Crist, i ba le yr ae efe, a pha destiolaeth a barn oedd iddo ef. 32 Pwy sydd rydd, a phwy sydd gaeth, a pha beth a ddigwydd i bôb vn o’r ddau. 46 puredd a gwybodaeth Crist. 59 Yr hwn hefyd sydd yn cilio rhag niwed corphorol.
1A’R Iesu a aeth i fynydd yr Oliwydd:
2Ac a ddaeth trachefn y boreu i’r deml, a’r holl bobl a ddaethant atto ef: yntef gan eistedd a’u dyscodd hwynt.
3Yna’r scrifennyddion a’r Pharisæaid a ddugasant atto ef wraig yr hon a ddaliasid mewn godineb: ac wedi ei gosod hi yn y canol,
4Hwynt hwy a ddywedasant wrtho ef: ô Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu:
5A #Lefit.20.10.Moses yn y gyfraith a orchymynnodd i ni labyddio y cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd?
6A hyn a ddywedasant hwy gan ei demptio ef, fel y caent hwy [fodd] iw gyhuddo ef.
7Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo ef, efe gan yminiawnni a ddywedodd wrthynt hwy yr hwn sydd #Deut.17.6.yn ddibechod o honoch chwi tafled y garreg atti hi yn gyntaf.
8Ac efe a ymgrymmodd eilwaith, ac a scrifennodd ar y ddaiar.
9Hwythau pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyoeddu gan eu cydwybod, a aethant allan y naill ar ôl y llall, gan ddechreu o’r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn vnic a’r wraig yn sefyll yn y canol.
10A phan yminiawnodd yr Iesu, ac na welodd efe neb, ond y wraig, efe a ddywedodd wrthi hi: mae y rhai a’th gyhuddasant di? oni chondemnodd neb di?
11Hithe a ddywedodd, neb ô Arglwydd: a dywedodd yr Iesu wrthi hi: nid wyf finne yn dy gondemno di, dôs, ac na phecha mwyach.
12Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt trachefn gan ddywedyd, #Ioan.1.5. & 9.5.goleuni y hyd ydwyf fi, yr hwn, a’m dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni y bywyd.
13Am hynny y Pharisæaid a ddywedasant wrtho ef, tydi ydwyt yn testiolaethu am danat dy hun, nid gwir yw dy destiolaeth.
14Yr Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt hwy, er i mi destiolaethu am danaf fy hun gwir yw fy nhestiolaeth: o blegit mi a wn o ba le y daethym, ac i ba le yr ydwyf yn myned, chwithau ni’s gwyddoch o ba le yr wyfi yn dyfod, nac i ba le yr wyfi yn myned.
15Yr ydych chwi yn barnu yn ôl y cnawd nid ydwyfi yn barnu neb.
16Ac os wyfi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: o blegit nid wyfi yn vnic, ond myfi a’r Tad yr hwn a’m hanfonodd i.
17Y mae hefyd yn scrifennedig yn eich #Deut.17.6. & 19.15. Math.18.16. 2.cor.13.1. heb.10.28.cyfraith chwi, mai gwir yw testiolaeth dau ddŷn.
18Myfi yw yr hwn fydd yn testiolaethu am danafi, ac y mae y Tad yr hwn a’m hanfonodd i yn testiolaethu am danafi.
19Am hynny hwynt hwy a ddywedasant wrtho ef: pa le y mae dy Dad? yr Iesu a attebodd nid adwaenoch na myfi, na’m Tâd, ped adwaenech chwi fi, chwi a adwaenech fy Nhad hefyd.
20Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y tryssor-dŷ wrth athrawiaethu yn y Deml, ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethe ei awr ef etto.
21Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy trachefn, yr wyfi yn myned ymmaith, ac chwi am ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyfi yn myned ni ellwch chwi ddyfod.
22Am hynny y ddywedodd yr Iddewon a ladd efe ef ei hun? gan ei fod yn dywedyd, lle yr wyfi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.
23Yntef a ddywedodd wrthynt hwy, chwychwi ydych oddi isod, minne wyf oddi vchod, chwy-chwi ydych o’r byd hwn, minne nid wyf o’r byd hwn.
24Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: o blegit oni chredwch chwi mai myfi ydwyf [efe,] chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau.
25Yna y dywedasant wrtho ef, pwy wyt ti? a’r Iesu a ddywedodd wrthynt hwy: yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych o’r dechreuad.
26Y mae gennyfi lawer iw dywedyd a’i barnu am danoch chwi, eithr cywir yw yr hwn a’m hanfonodd i, a’r hyn a glywais inne ganddo ef, hynny yr wyfi yn eu mynegu i’r byd.
27Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy.
28Am hynny, dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, pan dderchafoch chwi Fab y dŷn, yna y cewch chwi wybod mai myfi ydwyf [efe,] ac nad wyfi yn gwneuthur dim o honof fy hun, ond megis i’m dyscodd fy Nhad, [felly] yr wyf yn llefaru.
29Ac y mae yr hwn a’m hanfonodd i gyd â’m fi, ni’m gadawodd y Tad fi yn vnic: o blegit yr wyfi yn gwneuthur bôb amser yr hyn sydd foddlon ganddo ef.
30Fel yr oedd efe yn llefaru hyn, llawer a gredasant ynddo ef.
31Yna dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewō, y rhai oeddynt yn credu ynddo ef: os arhoswch chwi yn fyng-air maufi, chwi a fyddwch yn wir ddyscyblion i mi:
32Ac chwi a gewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi:
33Hwythau a attebasant iddo ef, hâd Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb er ioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, chwi a wneir yn rhyddion?
34Yr Iesu a attebodd iddynt hwy, yn wîr, yn wir meddaf i chwi, pwy #Rom.6.16. 2.pet.2.19.bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn wâs i bechod.
35Ac nid yw y gwâs yn parhau yn ty byth, y mab sydd yn parhau byth.
36Os y mab gan hynny a’ch rhyddhâ chwi, gwir ryddion fyddwch chwi.
37Mi a wn mai hâd Abraham ydych chwi, ond yr ydych chwi yn ceisio fy llad i am nad yw fyng-air i yn genni ynoch chwi.
38Yr wyfi yn traethu yr hyn a welais gyd â’m Tad i, ac yr ydych chwithau yn gwneuthur yr hyn a welloch gyd â’ch tad chwi.
39Hwythau a attebasant, ac a ddywedasant wrtho ef: ein tad ni yw Abraham. Dywedodd yr Iesu wrthynt hwythau, pe plant Abraham fyddech chwi, gweithredoedd Abraham hefyd a wnaech chwi.
40Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedais i chwi y gwirionedd yr hwn a glywais i gan fy Nhad: hyn ni wnaeth Abraham.
41Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi, hwythau a ddywedasant wrtho ef: nid trwy butteindra y cenhedlwyd ni, vn Tad sydd gennyn [sef] Duw.
42Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, pe Duw fydde eich Tad, chwi a’m carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y daethym i: o blegit nid o honof fy hun y daethym i, ond efe a’m hanfonodd i.
43Pa ham nad adwaenoch fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i.
44O’r #1.Ioan.3.8.tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur: llofrudd oedd efe o’r dechreuad, ac ni safodd yn y gwirionedd: o blegit nid oes wirionedd ynddo ef: pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo hefyd.
45Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi.
46 # 8.46-59 ☞ Yr Efengyl y pummed Sul o’r grawys. Pwy o honoch chwi a’m argyoedda i o bechod, od wyfi yn dywedyd y gwir, pa ham nad ydych chwi yn credu i mi?
47Y #1.Ioan.4.6.mae yr hwn sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw, a’m hynny nid ydych chwi yn gwrando, am nad ydych o Dduw.
48Yna’r attebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, ond da yr ydym ni yn dywedyd mai Samaritan wyt ti, a bod gennit gythrael?
49Yr Iesu a attebodd, nid oes gennif gythrael, ond yr wyf yn perchi fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy amherchi inne.
50Ac nid wyfi yn ceisio fyng-ogoniant fy hun, y mae a gais, ac a farn.
51Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, os ceidw neb fy ymadrodd mau fi, ni wel efe farwolaeth byth.
52Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho ef, yr awron y gwybuom fod gennit gythrael: bu Abraham farw a’r prophwydi, ac meddi di os ceidw neb fy ymadrodd i nid ar chwaetha efe farwolaeth byth.
53A’i mwy wyt ti nâ’n tad Abraham? yr hwn fu farw, a’r prophwydi fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun?
54Attebodd yr Iesu, os myfi sydd yn fyng-ogoneddu fy hun nid yw fyng-ogoniant ddim: fy Nhad yw yr hwn sydd yn fyng-ogoneddu i yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd mai eich Duw chwi yw efe.
55Ond nid adnabuoch chwi ef, eithr myfi a’i hadwen ef, ac os dywedaf nad adwen ef, mi a fyddaf fel chwithau yn gelwyddog, ond mi a’i hadwen ef, ac yr wyfyn cadw ei air ef.
56Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd mau fi, ac efe a welodd, ac a lawenychodd.
57Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho ef, nid wyt ti ddêc a deugain etto, ac a welaist ti Abraham?
58Dywedodd yr Iesu wrthynt, yn wir yn wir meddaf i chwi, cyn bod Abraham yr wyfi.
59Yna hwynt hwy a godasant gerrig iw taflu atto ef, a’r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o’r Deml, gan ddyfod trwy eu canol hwynt, ac felly yr aeth efe heibio.

Dewis Presennol:

Ioan 8: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda