Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 6

6
PEN. VI.
10 Iesu yn porthi pum mil o ddynion â phum torth, ac â dau byscodyn. 15 Efe yn myned ymmaith, rhag iddynt ei wneuthur ef yn frenyn. 26 Efe yn argyoeddi cnawdol wrandawyr ei air ef. 41 Bod y rhai cnawdol yn ymrwystro wrtho ef. 63 Nad yw y cnawd yn lessau dim.
1Wedi y pethau hyn yr aeth Iesu tros fôr Galilæa [hwnnw yw] Tiberias.
2A thyrfa fawr a’i canlynodd ef, o blegit hwynt a welsent ei arwyddion y rhai a wnaethe efe ar y cleifion.
3Yna Iesu a aeth i fynu i’r mynydd, ac efe a eisteddodd yno gyd â’i ddyscyblion.
4A’r #Lefit.23.5. Deut.16.1.Pasc, gŵyl yr Iddewō, oedd yn agos.
5 # 6.5-14 ☞ Yr Efengyl y xxv. Sul ar ol y Drindod. Yna Iesu #Math.14.16. Marc.6.37. Luc.9.13.a dderchafodd [ei] lygaid, ac a ganfu fod tyrfa fawr yn dyfod atto ef, efe a ddywedodd wrth Philip, o ba lê y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwytta?
6(Ac efe a ddywedase hyn iw brofi ef, canys efe a ŵydded beth a wnai efe)
7Philip ai hattebodd ef, gwerth dau cant ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob vn o honynt gymmeryd ychydig.
8Yna vn oi ddiscyblion a ddywedodd wrtho ef, Andreas brawd Simon Petr,
9Y mae ymma ryw fachgennyn, yr hwn sydd ganddo bump torth o haidd, a dau byscodyn: ond beth yw hyn rhwng cynnifer?
10A’r Iesu a ddywedodd, perwch i’r dynion eistedd i lawer: (ac yr oedd glas-wellt lawer yn y fann honno) yna ’r gwŷr a eisteddasant i lawr yng-hylch pum mil o nifer.
11Yna’r Iesu a gymmerth y bara ac a ddiolchodd, [ac] ai rhannodd i’r discybliō, a’r discyblion i’r rhai oeddynt yn eistedd: felly hefyd o’r pyscod cymmaint ac a fynnent.
12Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, cesclwch y briw-fwyd yr hwn sydd yng-weddill, fel na choller dim.
13Yna hwynt ai casclasant, ac a lawnasant ddeuddec basced o’r briw-fwyd o’r pump torth haidd, y rhai a weddillasid gan y sawl a fwytawsent.
14Yna y dynion pan welsant hwy yr arwydd a wnaethe ’r Iesu a ddywedasant, diau mai hwn yw’r prophwyd yr hwn oedd ar ddyfod i’r bŷd.
15Pan ŵybu ’r Iesu eu bod hwy ar fedr dyfod, ai gymmeryd ef, fel y gwnaent ef yn frenin, efe a giliodd eil-waith i’r mynydd ei hunan.
16A phan hwyrhaodd hi, ei ddiscyblion ef a aethant i wared at y môr,
17Ac a #Math.14.25. Marc.6.47.aethant i fynu i long, [ac] a ddaethant tros y môr i Capernaum: ac yn awr yr oedd hi wedi tywyllu, ac ni ddaethe ’r Iesu attynt hwy.
18A’r môr gan wynt mawr yn chwythu a ymgododd.
19Wedi iddynt rwyforio yng-hylch pump ar hugain, neu ddêc ar hugain o stadiau, hwynt a welsant yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nessau at y llong, yna hwynt a ofnasant.
20Ond efe a ddywedodd wrthynt, myfi ydwyf, nac ofnwch.
21Yna hwynt a fynnent ei dderbyn ef i’r llong, ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tîr i’r hwn yr oeddynt yn myned.
22Trannoeth y dyrfa yr hon oedd yn sefyll ar y tu hwnt i’r môr a welodd nad oedd yno long, onid yr vn honno i’r hon yr aethe ei ddiscyblion ef, ac nad aethe ’r Iesu gyd a’i ddiscyblion i’r llong, eithr darfod iw ddiscyblion ef fyned eu hunain.
23Eithr llongau eraill a ddaethent trosodd o Tiberias yn gyfagos i’r fann lle y bwytawsent hwy fara, wedi i’r Arglwydd roddi diolch.
24A phā welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno, nai ddiscyblion, hwy a gymmerasant longau, ac a ddaethant i Capernaum, dann geisio ’r Iesu.
25Pan gawsant hwy ef ar tu hwnt i’r môr, hwynt a ddywedasant wrtho ef, Rabbi, pa bryd y daethost ti ymma?
26Iesu a’u hattebodd hwynt, ac a ddywedodd, yn wîr, yn wir meddaf i chwi, yr ydych chwi yn fyng-heisio i, nid o herwydd i chwi wêled y gwrthiau, eithr bwyta o honoch o’r bara, a’ch digoni.
27Na lafuriwch am y bwyd ’r hwn a dderfydd, eithr am y bwyd yr hwn a bêru i fywyd tragywyddol, yr hwn a ddyru Mab y dŷn i chwi, canys #Pen.1.32. Math.3.17. & 17.5.hwn a seliodd Duw Tad.
28Yna y dywedasant wrtho ef, pa beth a wnawn ni, fel y gallom wneuthur gweithredoedd Duw?
29Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, dymma waith Duw, sef credu o honoch chwi yn yr hwn a anfonodd efe.
30Am hynny hwynt a ddywedasant wrtho ef, pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu?
31Ein tadau ni a fwytawsant Manna yn yr anialwch, fel y mae #1.Ioan.3 24. Exod.16.14. Num.11.7. Psal.78.25. Doeth.16.20.yn scrifennedic: efe a roddodd iddynt fara o’r nefoedd i fwytta.
32Yna Iesu a ddywedodd wrthynt, yn wir, yn wir meddaf i chwi, nid Moses a roddodd i chwi fara o’r nêf, eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi y gwîr fara o’r nêf.
33Canys bara Duw ydyw, yr hwn sydd yn dyfod i wared o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r bŷd.
34Yna hwynt a ddywedasant wrtho ef, Arglwydd, dyro di i ni y bara hwnnw yn oestadol.
35A’r Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, myfi ydwyf fara y bywyd, yr hwn sydd yn dyfod attafi ni newyna, a’r hwn sydd yn credu ynofi ni sycheda byth.
36Ond mi a ddywedais wrthych, i chwi fyng-weled i hefyd, ac na chredasoch.
37Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw attafi, a’r hwn a ddelo attafi ni fwriaf ymmaith.
38Canys myfi a ddescynnais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, onid ewyllys yr hwn a’m hanfonodd.
39Dymma ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd, sef na chollwn ddim o’r hyn oll a roddodd efe i mi, eithr ei adgyfodi ef yn y dydd diweddaf.
40Ac dymma ewyllys yr hwn a’m hanfonodd fi, sef cael o bawb a’r y sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef fywyd tragywyddol: ac myfi ai hadgyfodaf ef yn yn dydd diweddaf.
41Yr Iddewon a furmuriasant yna yn ei erbyn ef, o herwydd iddo ef ddywedyd, myfi ydwyf y bara yr hwn a ddaeth i wared o’r nef.
42Ac hwy a ddywedasant, ond hwn yw’r Iesu mab Ioseph, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae hwn yn dywedyd, o’r nef y descynnais?
43Yna’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt: na furmuriwch wrth ei gilydd.
44Ni ddichon neb ddyfod attafi, oddi eithr i’r Tad yr hwn a’m hanfonodd ei lusco ef: a minne a’i hadgyfodaf ef y dydd diweddaf.
45Y #Esay.54.13. Iere.31.33.mae yn scrifennedic yn y prophwydi, a phawb fyddant wedi eu dyscu gan Dduw: pawb gan hynny a’r a glywodd, ac a addysced gan y Tad sydd yn dyfod attafi,
46 # Math.11.27. Nid o herwydd i neb weled y Tad, eithr yr hwn sydd o Dduw: efe a welodd y Tad.
47Yn wîr, yn wîr meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu ynofi sydd ganddo fywyd tragywyddol.
48Myfi ydwyf bara y bywyd.
49 # Exod.16.15. Eich tadau chwi a fwytawsant y Manna yn yr anialwch, ac a fuant feirw.
50Hwn yw’r bara yr hwn sydd yn dyfod i wared o’r nef: os bwytu neb o honaw, ni bydd efe farw.
51Myfi ydwyf y bara bywiol yr hwn a ddaeth i wared o’r nef: os bwytu neb o’r bara hwn, efe fydd byw yn dragywydd: a’r bara yr hwn a roddafi yw, fyng-hnawd i yr hwn a roddaf tros fywyd y bŷd.
52Yna’r Iddewon a ymrysonasant bôb vn â’i gilydd gan ddywedyd: pa fodd y dichon hwn roddi i ni [ei] gnawd iw fwyta?
53Yna’r Iesu a ddywedodd wrthynt, yn wîr, yn wîr meddaf i chwi, oni fwytewch gnawd Mab y dŷn, ac [oni] yfwch ei waed ef, ni chewch fywyd ynoch.
54Yr hwn sydd yn bwyta fyng-hnawd, ac yn yfed fyng-waed a gaiff fywyd tragywyddol: ac myfi a’i hadgyfodaf ef y dydd diweddaf.
55Canys fyng-hnawd i sydd fwyd yn ddiau, a’m gwaed i sydd ddiod yn wir.
56Yr hwn sydd yn bwyta fyng-hnawd i, ac yn yfed fyng-waed, sydd yn aros ynofi, a minne ynddo yntef.
57Fel yr anfonodd y Tad byw fi, felly ’r ydwyf inne yn byw drwy ’r Tad: a’r hwn a’m bwytu fi, yntef fydd byw trwofi:
58Dymma’r bara ’r hwn sydd yn dyfod i wared o’r nefoedd: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi Manna, ac y buant feirw, y neb a fwyttu y bara hwn a fydd byw yn dragywydd.
59Hyn a ddywedodd efe yn y synagog wrth ddyscu yn Capernaum.
60Yna llawer o’i ddiscyblion ef y rhai oeddynt yn clywed a ddywedasant: caled yw’r ymadrodd hyn, pwy a ddichon wrando arno ef?
61Pan ŵybu ’r Iesu ynddo ei hunan iw ddiscyblion furmurio o herwydd y peth hyn, efe a ddywedodd wrthynt, a ydyw hyn yn eich rhwystro chwi?
62Beth os gwelwch #Ioan.3.13.Fab y dyn yn derchafu lle yr oedd efe o’r blaen?
63Yr Yspryd sydd yn bywhau, y cnawd nid yw yn llessau dim, y geiriau y rhai ’r ydwyfi yn eu llefaru wrthych ydynt yspryd, a bywyd.
64Ond y mae rhai o honoch y rhai nid ydynt yn credu, canys Iesu a ŵydded o’r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oeddynt yn credu, a phwy [oedd] yr hwn a’i bradyche ef.
65Ac efe a ddywedodd, am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod attafi, oddi eithr rhoddi iddo ef [hynny] oddi wrth fy Nhâd.
66Wedi hyn llawer o’i ddiscyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gyd ag ef.
67Am hynny ’r Iesu a ddywedodd wrth y deuddec, a fynnwch chwithau hefyd fyned ymmaith?
68Yna Simon Petr a’i hattebodd ef, ô Arglwydd at bwy ’r awn ni? gennit ti y mae geiriau bywyd tragywyddol.
69Ac yr ydym ni yn credu, #Mat16.16.ac yn gwybod mai tydi ydwyt Crist Mab y Duw byw.
70Iesu a’u hattebodd hwynt, onid chwychwi y deuddec a ddewisais, ac o honoch chwi y mae vn yn ddiafol?
71Ac efe a ddywedase am Iudas Iscariot [mab] Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, er ei fod efe yn vn o’r deuddec.

Dewis Presennol:

Ioan 6: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda