Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 16

16
PEN. XVI.
Am y Yspryd glân, a’i rinwedd mewn pregethwyr yn erbyn pechod. 17 Am dderchafiad Crist. 23 Am weddio yn enw Crist.
1Y Pethau hyn a ddywedais i chwi, rhag i chwi ymrwystro.
2Hwy a’ch bwriant chwi allan o’u synagogau, ac fe a ddaw ’r amser i bwy bynnac a’ch lladdo, dybied ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw.
3Hyn a wnant i chwi, am na’s adnabuant y Tâd, na mi.
4Eithr hyn a ddywedais wrthych, fel pan ddêl yr awr, y cofioch ddarfod i mi ddywedyd i chwi: hyn [o bethau] ni ddywedais i yn y dechreu, am fy mod gyd â chwi.
5 # 16.5-15 ☞ Yr Efengyl y pedwerydd Sul ar ol y Pasc. Ac yn awr yr wyf yn myned at y neb a’m anfonodd, ac nid yw neb o honoch yn gofyn i mi, I ba le yr aei di?
6Eithr am i mi ddywedyd hyn wrthych, tristwch a lanwodd eich calon.
7Ond yr wyfi yn dywedyd gwirionedd i chwi, buddiol yw i chwi fy myned i ymmaith. Canys onid âfi, ni ddaw y diddanudd hwnnw attoch, eithr os mi a âf, mi a’i hanfonaf ef attoch.
8A phan ddêl, efe a argyoedda y byd o bechod, o gyfiawnder a barn.
9O bechod: am nad ydynt yn credu ynofi.
10O gyfiawnder, am fy môd yn myned at y Tâd, ac ni’m gwelwch fi mwyach.
11O farn, am ddarfod barnu pennaeth y bŷd hwn.
12Y mae gennif etto lawer o bethau iw dywedyd wrthych, ond yn awr ni ellwch eu dwyn hwynt.
13Ond pan ddêl efe [sef] Yspryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd oll, canys ni lefara o honaw ei hun, ond pa bethau bynnac a glyw efe a lefara, ac a ddengys i chwi y pethau sydd i ddyfod.
14Efe a’m gogonedda i, canys efe a gymmer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi.
15Y pethau oll sy yn eiddo’r Tâd, ydynt eiddof finne, am hynny y dywedais: y cymmere o’r eiddof, ac a’i mynege i chwi.
16 # 16.16-22 ☞ Yr Efengyl y trydydd Sul ar ôl y Pasc. Ychydig o ennyd, ac ni’m gwelwch, ac eilwaith ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch, am fy mod yn myned at y Tâd.
17A rhai o’i ddiscyblion ef a ddywedasant wrth eu gilydd, beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym? ychydig o ennyd, ac ni’m gwelwch, ac eil-waith ychydig o ennyd, a chwi a’m gwelwch, ac, am fy mod i yn myned at y Tâd.
18Ac hwy a ddywedâsant, beth ydyw hyn, mae efe yn ei ddywedyd, ychydig o ennyd? Ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd.
19A gwybu yr Iesu fod yn eu bryd hwy ofyn iddo, ac efe a ddywedodd wrthynt: ymofyn yr ydych â’u gilydd, am ddywedyd o honof hyn, ychydig o ennyd, ac ni’m gwelwch, ac eilwaith ychydig o ennyd, a chwi a’m gwelwch?
20Yn wir yn wir meddaf i chwi, chwi a ŵylwch, ac a alêrwch, a’r bŷd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch drîstion, ond eich tristwch a droir yn llawenydd.
21Gwraig wrth escor plentyn a fydd mewn tristyd am ddyfod ei hawr, eithr wedi geni iddi y plentyn, ni chofia ei gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i’r byd.
22Chwithau hefyd ydych mewn tristwch yn awr, eithr mi a ymwelaf â chwi eil-waith, a’ch calon a lâwenycha, a’ch llawênydd ni ddŵg neb oddi arnoch.
23Y dydd hwnnw nid ymofynnwch ddim â myfi: #16.23-33 ☞ Yr Efengyl y pummed Sul ar ôl y Pasc.Yn wîr, yn wîr meddaf i chwi, #Math.7.7. & 21.22. marc.11.24. luc.11.9. ioan.14.13. iaco.1.15.pa bethau bynnac a ofynnoch i’m Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi.
24Ni ofynnasoch ddim hyd yn hyn yn fy enw i, gofynnwch a chwi a gewch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
25Y pethau hyn a draethais wrthych mewn damhegion, fe ddaw yr awr pan na adroddwyf mewn damhegion wrthych, eithr y mynegwyf yn eglur i chwi am y Tad.
26Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw, ac nid wyf yn dywedyd i chwi y gweddiaf ar y Tad trosoch.
27Canys y Tâd a’ch câr chwi, am i chwi fyng-haru i, a chredu fy #Ioan.17.8.nyfod oddi wrth Dduw.
28Daethum allan oddi wrth y Tad, a daethym i’r bŷd: trachefn yr wyf yn gadel y bŷd, ac yn myned at y Tâd.
29Ei ddiscyblion a ddywedasant wrtho wele, yr wyt yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid ydwyt yn dywedyd vn ddammeg.
30Yn awr y gwyddom, y gwyddost bôb peth oll, ac nad rhaid i ti, ymofyn o neb a thi: trwy hyn y credwn ddyfod o honot oddi wrth Dduw.
31A’r Iesu a’u hattebodd hwynt, a ydych chwi yn credu yn awr.
32Wele yr awr yn dyfod, ac hi a ddaeth eusus, pan i’ch gwascerir bawb at yr eiddo, ac chwi a’m gadewch fi yn vnic, ac etto nid vnic wyf, am fod y Tad gyd â mi.
33Y pethau hyn a ddywedais wrthych i gael o honoch dangneddyf ynof, gorthrymder a gewch yn y bŷd, eithr cymmerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.

Dewis Presennol:

Ioan 16: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda