Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 5

5
PEN. V.
Hanes Adda. 6 Ai hiliogaeth hyd ddwfr diluw.
1Dymma lyfr cenedlaethau Adda, yn y dydd y creawdd Duw ddŷn: #Gene.1.26.a’r lûn Duw y gwnaeth efe ef.
2Yn wryw, ac yn fanyw y creawdd efe hwynt, ac ai bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt dŷn ar y dydd y creuwyd hwynt.
3Ac Adda a fu fyw ddeng-mhlynedd ar hugain a chant ac a genhedlodd [fâb] ar ei lun ai ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.
4A dyddiau Adda wedi iddo genhedlu Seth oeddynt wythgan mlhynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.
5Felly holl ddyddiau Adda y rhai y bu efe fyw, oeddynt naw can mlhynedd, a deng-mlhynedd ar hugain, ac efe a fu farw.
6Seth hefyd a fu fyw bum-mhlynedd, a chan mhlynedd, ac a genhedlodd Enos.
7A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos saith mlynedd ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedloed feibion a merched.
8Felly holl ddyddiau Seth oeddynt ddeu-ddeng mhlynedd, a naw-can mhlynedd, ac efe a fu farw.
9Ac Enos a fu fyw, ddeng mlhynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan.
10Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan bymtheng mlhynedd, ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11Felly holl ddyddiau Enos oeddynt bum mlhynedd, a naw-can mlhynedd, ac efe a fu farw.
12Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd a thrugain, ac a genhedlodd Mahalaleel.
13A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlhynedd, ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
14Felly holl ddyddiau Cenan oeddynt ddeng mlhynedd, a naw can mlhynedd; ac efe a fu farw.
15A Mahalaleel a fu fyw bum mlhynedd, a thrugain mlhynedd, ac a genhedlodd Iered.
16A Mahalaleel a fu fyw, wedi iddo genhedlu Iered, ddeng mlhynedd ar hugain ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
17Felly holl ddyddiau Mahalaleel oddynt, bymtheng mlhynedd, a phedwar ugain ac wyth gan mlhynedd, ac efe a fû farw.
18Ac Iered a fu fyw ddwy flynedd a thrûgain, a chan mlhynedd ac a genhedlodd Henoc.
19Yna Iered a fu fyw wedi iddo genhedlu Henoch wyth gan-mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.
20Felly holl ddyddiau Iered oeddynt ddwy flynedd, a thrugain, a naw can mlhynedd, ac efe a fu farw.
21 # Eccles.44.14.|SIR 44:14. Ebr.11.5 Henoc hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrugain, ac a genhedlodd Methuselah.
22A Henoc a rodiodd gyd a Duw wedi iddo genhedlu Methuselah dry-chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.
23Felly holl ddyddiau Henoc oeddynt bum mlhynedd a thrugain, a thrychant o flynyddoedd.
24Ie rhodiodd Henoc gyd a Duw, ac ni [welwyd] efe: canys Duw ai cymmerase ef.
25Methuselah hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain, a chant, ac a genhedlodd Lamec.
26Methuselah a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamec, dwy flynedd, a phedwar ugain, a saith gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
27Felly holl ddyddiau Methuselah oeddynt, naw mlynedd a thrugain, a naw can mlynedd, ac efe a fu farw.
28Lamec hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlhynedd, ac a genhedlodd fâb,
29Ac a alwodd ei enw ef Noah, gan ddywedyd hwn a’n cyssura ni, am ein gwaith, a llafur ein dwylo, o herwydd y ddaiar yr hon a felltigodd yr Arglwydd.
30Yna Lamec a fu fyw wedi iddo genhedlu Noah, bymtheng mlhynedd, a phedwar ugain, a phum-can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
31Felly holl ddyddiau Lamec oeddynt, ddwy flynedd, ar bymthec, a thrugain, a saith gan mlhynedd, a efe a fu farw.
32A Noah ydoedd fab pum can mlwydd pan genhedlodd Noah, Sem, Cam, ac Iapheth.

Dewis Presennol:

Genesis 5: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda