Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 37

37
PEN. XXXVII.
1 Ioseph yn achwyn ar ei frodyr wrth ei dâd. 5 Efe yn breuddwydio, ai frodyr yn ei gasau. 28 Ac yn ei werthu ef i’r Ismaeliaid. 34 Galar Iacob am Ioseph.
1A Thrigodd Iacob yng-wlâd ymddaith ei dâd sef yng-wlâd Canaan.
2Dymma genhedlaethau Iacob: Ioseph yn fab dwy flwydd ar bymthec oedd fugail gyd ai frodyr ar y praidd: ac efe oedd yn llangc gyd a meibion Bilha, a chyd a meibion Zilpha gwragedd ei dâd ef: yna Ioseph a ddygodd eu drwg enllib hwynt at eu tâd hwynt.
3Ac Israel oedd hoffach ganddo Ioseph nai holl feibion, o blegit efe ai cawse ef yn ei henaint: ac efe a wnaeth siacced fraith iddo ef.
4Pan welodd ei frodyr, fod eu tâd yn ei garu ef yn fwy nai holl frodyr: yna hwy ai casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan [ag] ef yn heddychol.
5Ac Ioseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac ai mynegodd iw frodyr: am hynny y casasant ef etto yn ychwaneg.
6O blegit dywedase wrthynt, gwrandewch attolwg y breuddwyd hwn, yr hwn a freuddwydiais.
7Ac wele rhwymo ysgubau ’r oeddem ni yng-hanol y maes, ac wele fy yscub mau fi a gyfododd, ac a safodd hefyd, ac wele eich yscubau chwi a ddaethant o amgylch ac a ymgrymmasant i’m hysgub mau fi.
8Yna ei frodyr a ddywedasant wrtho ef, ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu’r arglwyddieithi arnom ni? etto am hynny y chawnegasant ei gasau ef, o blegit ei freuddwydion, ac o blegit ei eiriau ef.
9Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd arall, ac ai mynegodd iw frodyr, ac a ddywedodd: wele yr haul, a’r lleuad, ac vn ar ddec o sêr yn ymgrymmu i mi.
10Ac efe ai mynegodd iw dâd, ac iw frodyr, ai dâd a feiodd arno ef, ac a ddywedodd wrtho ef pa freuddwyd yw hwn, yr hwn a freuddwydiaist? ai gan ddyfod y deuwn ni, mi a’th fam a’th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti?
11Ai frodyr a genfigennasant wrtho ef, ond ei dâd a gadwodd y peth [mewn côf:]
12Yna ei frodyr ef a aethant i fugeilio praidd eu tâd yn Sichem.
13Ac Israel a ddywedodd wrth Ioseph, onid [yw] dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? tyret, a mi a’th anfonaf attynt: yntef a ddywedodd wrtho ef, wele fi.
14Yna y dywedodd ei [dâd] wrtho ef, dos weithian, edrych [pa] lwyddiant [sydd] i’th frodyr, a [pha] lwyddiant [sydd] ir praidd, a dŵg eilchwael air [i] mi: felly efe ai hanfonodd ef o lynn Hebron, ac efe a ddaeth i Sichem.
15Yna y cyfarfu gŵr ag ef: ac wele efe yn cyrwydro yn y maes, a’r gŵr a ymofynnodd [ag] ef, gan ddywedyd, pa beth yr ydwyt yn ei geisio?
16Yntef a ddywedodd ceisio fy-mrodyr yr ydwyf fi: mynega attolwg i mi pa le y maent hwy yn bugeilio?
17A’r gŵr a ddywedodd cychwnnasant oddi ymma, o blegit clywais hwynt yn dywedyd, awn i Dothan: yna Ioseph a aeth a’r ôl ei frodyr, ac ai cafodd hwynt o fewn Dothan.
18Hwythau ai canfuant ef o bell, a chyn ei ddynessu attynt hwy ’r ymfwriadasant hefyd [yn] ei [erbyn] ef, iw ladd ef.
19A dywedasant bôb vn ŵrth ei gilydd, wele accw y breuddwyd-wr yn dyfod.
20Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn vn o’r pydewau, a dywedwn, bwyst-fil drwg ai bwyttaodd ef: yna y cawn weled beth fydd ei freuddwydion ef.
21A #Gen.42.22.Ruben a glybu, ac ai hachubodd ef, oi llaw hwynt, ac a ddywedodd, na laddwn ef yn farw.
22Ruben a ddywedodd hefyd wrthynt, na thywelltwch waed: bwriwch ef i’r pydew hwn, yr hwn [sydd] yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno ef: fel yr achube ef oi llaw hwynt iw ddwyn eil-waith at ei dâd.
23A phan ddaeth Ioseph at ei frodyr, yna y gwnaethant i Ioseph ddiosc ei siacced [sef] y siacced fraith ’r hon [ydoedd] a’m dano ef.
24Yna y cymmerasant ef, a thaflasant ef i’r pydew, a’r pydew [oedd] wâg hêb ddwfr ynddo.
25Yna ’r eisteddasant i fwytta bwyd, ac a dderchafasāt eu llygaid, ac a edrychasant: ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead yn myned i wared i’r Aipht, ai camelod yn dwyn llyssiau, a balm, a myrr.
26Yna y dywedodd Iuda wrth ei frodyr, pa lesaad [a fydd,] ôs lladdwn ein brawd, a chêlu ei waed ef?
27Deuwch a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef: o blegit ein brawd ni a’n cnawd ni ydyw efe: ai frodyr a gytunasant.
28A phan ddaeth #Doeth.10.13.|WIS 10:13. psal.105.17.y marchnad-wyr o Midian heibio, y tynnasant, ac y cyfodasant Ioseph i fynu o’r pydew, ac a werthasant Ioseph i’r Ismaeliaid, er vgain darn o arian: hwyntau a ddygasant Ioseph i’r Aipht.
29Wedi hynny Ruben a ddaeth eil-waith i’r pydew, ac wele nid [ydoedd] Ioseph yn y pydew: ac yntef a rwygodd ei ddillad.
30Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, y llangc nid [ydyw] accw: a minne i ba le ’r âf fi?
31Yna hwy a gymmerasant siacced Ioseph, ac a laddasant lwdn gafr, ac a drochasant y siacced yn y gwaed.
32Ac a anfonasant y siacced fraith, ac ai dugasant at eu tâd hwynt, ac a ddywedasant, honn a gawsom, mynn ŵybod weithian ai siacced dy fâb [yw] hi, ai nad e.
33Yntef ai hadnabu hi, ac a ddywedodd, siacced fy mab [yw hi] #Genes.44.28.bwyst-fil drwg ai bwyttaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Ioseph.
34Ac Iacob a rwygodd ei ddillad, ac a ossododd sach-len am ei lwynau, ac a alarodd am ei fâb ddyddiau lawer.
35Ai holl feibion, ai holl ferched a godasant iw gyssuro ef, ond efe a wrthododd gymmeryd cyssur, ac a ddywedodd: yn ddiau descynnaf yn alarus at fy mâb i’r beddrod, ai dâd a wylodd [am dano] ef.
36A’r Madiniaid ai gwerthasant ef i’r Aipht i Putiphar tywysog Pharao, [a’r] distain.

Dewis Presennol:

Genesis 37: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda