Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 25

25
PEN. XXV.
Abraham yn priodi Cetura, ac yn ennill plant lawer o honi. 5 Abraham yn rhoddi ei holl dda i Isaac, ac yn marw. 12 Hiliogaeth Ismael. 21 Rebecca yn beichiogi ac yn escor Esau, ac Iacob. 30 Esau yn gwerthu braint ei anedigaeth er ychydic gawl.
1Ac Abraham a gymmerodd eil-waith wraig, ai henw Cetura.
2A hi a escorodd iddo ef, Zimran, a Iocsan, a Medan, a Midian, ac Iesbac, a Suah.
3A #1.Cron.1.32.Iocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oeddynt, Assurim, a Letusim, a Leumim.
4A meibion Midian, [oeddynt,] Ephah, ac Epher, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaah, yr holl rai hynn [oeddynt] feibion Cetura.
5Ac Abraham a roddodd yr hynn oll [oedd] ganddo i Isaac.
6Ac i feibion y gordderch-wragedd y rhai [oeddynt] i Abraham y rhoddodd Abraham roddion, ac efe ai hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fâb, tu a’r dwyrain, i dîr y dwyrain, ac efe etto yn fyw.
7Ac dymma ddyddiau blynyddoedd enioes Abraham y rhai y bu ef fyw: can-mlhynedd, a phymtheng mlhynedd a thrugain.
8Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw, mewn oed têg, yn hên, ac yn ddigonawl [o ddyddiau,] ac efe a gasclwyd at ei bobl.
9Yna Isaac, ac Ismael ei feibion ai claddasant ef yn ogof Machpelah ym maes Ephron fab Zohar yr Hethiad, yr hwn [sydd] ar gyfer Mamre.
10Y maes yr hwn a brynase Abraham gan feibion Heth: yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.
11Ac wedi marw Abraham, darfu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fâb ef: ac Isaac a drigodd wrth #Gene.16.14. Gene.24.62.ffynnon Laharoi.
12Ac dymma genhedlaethau Ismael fab Abraham, yr hwn a ymddugase Agar yr Aiphtes morwyn Sara i Abraham.
13Ac dymma henwau #1.Cron.1.29.meibion Ismael, erbyn eu henwau: trwy eu cenhedlaethau: Nabaioth cyntaf-anedic Ismael, yna Cedar, ac Adbeel, a Mibsam,
14Misma hefyd, a Dumah, a Massa.
15Hadar, a Thema, Ietur, Naphis, a Chedemah.
16Dymma hwynt meibion Ismael, ac dymma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestill: yn ddeuddec o dywysogion ar eu pobl.
17Ac dymma flynyddoedd enioes Ismael, can-mlwydd, a dwy ar bymthec ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casclwyd ef at ei bobl.
18Presswyliasant hefyd o Hafilah hyd Sur, yr hon [sydd] ar gyfer yr Aipht, ffordd yr ei di i Assyria: ac o flaen ei holl frodyr y cyfanneddodd efe.
19Ac dymma genedlaethau Isaac fab Abraham, Abraham a genhedlodd Isaac.
20Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd, pan gymmerodd efe Rebecca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad yn wraig iddo.
21Ac Isaac a weddiodd ar yr Arglwydd dros ei wraig am ei bod hi’n amhlantadwy a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebecca ei wraig a feichiogodd.
22A’r meibion a ymgurasant yn ei chroth hi, yna y dywedodd hi, os felly, beth [a wnaf] fi fel hyn? a hi a aeth i ymofyn a’r Arglwydd.
23A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, dwy genhedlaeth [ydynt] yn dy grôth di, a dau [fath ar] bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill fydd cryfach na’r llall, #Rhuf.9.12.a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
24A phan gyflawnodd ei dyddiau hi i escor, yna wele gefellion [oeddynt] yn ei chrôth hi.
25A’r cyntaf a ddaeth allan yn gôch oll, fel cochl flewoc, a galwasant ei enw ef Esau.
26Ac wedi hynny y #Osea.12.3.|HOS 12:3. matth.1.2.daeth ei frawd ef allan, ai law yn ymaflyd yn sodl Esau: a galwyd ei enw ef Iacob. Ac Isaac oedd fab trugein mlwydd pan anwyd hwynt.
27A’r llangciau a gynnyddasant, ac Esau oedd wr yn medru hela [a] gwr gwyllt, ac Iacob, [oedd] wr perffaith yn cyfanneddu mewn pebyll.
28Isaac hefyd oedd hôff ganddo Esau, o herwydd helwriaeth [fydde] ŷn ei safn ef: a Rebecca a hoffe Iacob.
29Ac Iacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o’r maes, ac efe yn ddeffygiol.
30A dywedodd Esau wrth Iacob, gad ti i mi yfed attolwg o’r [cawl] côch ymma: o herwydd deffygiol [wyf] fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.
31Yna y dywedodd Iacob, gwerth di heddyw i mi dy anedîgaeth-fraint,
32A dywedodd Esau wele fi yn myned i farw, ac i ba beth [y cadwaf] y ganedigaeth-fraint hwn i mi?
33A dywedodd Iacob twng i mi heddyw, ac efe a dyngodd iddo, ac felly y gwerthodd efe ei anedigaeth fraint i Iacob.
34Ac #Hebr.12.16.Iacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys, ac efe a fwyttaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymmaith: felly y diystyrodd Esau ei anedigaeth-fraint.

Dewis Presennol:

Genesis 25: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda