Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 12

12
PEN. XII.
Mynediad Abram, a Lot i wlâd Canaan. 10 Ac oddi yno i’r Aipht. 13 Abram yn peri iw wraig ddywedyd mai ei chwaer ef ydoedd hi. 17 Cospedigaeth Pharao am chwenychu Sarai.
1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, #Act.7.3.dos di o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dâd, i’r wlad yr hon a ddangoswyf i ti.
2A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw, a thi a fyddi yn fendith.
3Bendithiaf hefyd dy fendith-wyr, a’th felldith-wyr a felldigaf, a holl deuluoedd y ddaiar a fendithir ynot ti.
4Yna’r aeth Abram, fel y llefarase’r Arglwydd wrtho ef, a Lot aeth gyd ag ef: ac Abram [oedd] fâb pymtheng-mlwydd a thrugain pan aeth efe allan o Haran.
5Ac Abram a gymmerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, ai holl olud hwynt, yr hyn a feddent: a’r dynion y rhai a gawsent yn Haran: ac aethant allan gan fyned i wlâd Canaan, ac a ddaethant i wlâd Canaan.
6Ac Abram a dramwyodd trwy’r tîr hyd y lle [a elwir] Sichem, hyd wastadedd Moreh: a’r Canaaneaid [oedd] yno yn y wlâd.
7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd: i’th hâd ti y rhoddaf y tîr hwn: yntef a adailadodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosase iddo.
8Ac efe a dynnodd o ddi yno i’r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell [gan adel] Bethel, tu a’r gorllewyn, a Hai tu a’r dwyrain: ac a adailadodd yno allor i’r Arglwydd, ac a alwodd ar enw’r Arglwydd.
9Yna y cychwynnodd Abraham gan fyned, a chychwyn tua’r dehau.
10Ac yr oedd newyn yn y tîr, ac Abram aeth i wared i’r Aipht, i ymdeithio yno, am drymhau o’r newyn yn y wlâd.
11A phan ddaeth efe yn agos i’r Aipht, yna y dywedodd efe wrth Sarai ei wraig, wele yn awr gwn mai gwraig lân yr olwg [wyt] ti.
12A phan welo’r Aiphtiaid dy di, yna y dywedant: dymma ei wraig ef, a hwynt a’m lladdant a thi a adawant yn fyw.
13Dywet ti attolwg, [mai] fy chwaer [wyt] ti, fel y bydder dâ wrthif er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegit ti.
14A phan ddaeth Abram i’r Aipht, yna yr Aiphtiaid a welsant y wraig, mai glân odieth [oedd] hi.
15A thywysogion Pharao ai gwelsant hi, ac ai canmolasant hi wrth Pharao, a’r wraig a gymmerwyd i dŷ Pharao.
16Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi fel yr oedd ganddo ef ddefaid, a gwarthec, ac assynnau, a gweision, a morwynion, ac assynnod, a chamêlod.
17Yna yr Arglwydd a darawodd Pharao, ai dŷ, a phlagau mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.
18A Pharao a alwodd Abram, ac a ddywedodd: pa ham y gwnaethost ti hyn i mi? pa ham na fynegaist i mi, mai dy wraig [oedd] hi?
19Pa ham y dywedaist fy chwaer [yw] hi? fel y cymmerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymmer [hi,] a dos ymmaith.
20A Pharao a roddes orchymmyn [iw] ddynion oi blegit ef: a hwynt ai gollyngasant ef, ai wraig, a’r hyn oedd eiddo ef.

Dewis Presennol:

Genesis 12: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda