Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 10

10
PEN. X.
Cynnydd rhywogaeth dyn allan o Noah ai feibion. 10 Dechreuad dinasoedd, gwledydd, a chenhedlaethau wedi dwfr diluw.
1Ac dymma genhedlaethau meibion Noah, Sem, Cam, ac Iapheth, ganwyd hefyd meibion i’r rhai hyn wedi ’r diluw.
2Meibion Iapheth [oedynt] Gomer, a Magoc, a Madai, a Iafan, a Thubal, a Mesech a Thiras.
3Meibion Gomer hefyd: Ascenas, a Riphath, a Thogarma.
4A meibion Iafan, Elisa, a Tharsis, Cittim a Dodanim.
5O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd pawb wrth ei iaith ei hun trwy eu teuluodd, yn eu cenhedloedd.
6A meibion Cam [oeddynt] Cus, a Mizraim a Phut, a Chanaan.
7A meibion Cus: Seba, a Hafilah a Sabthah, a Raamah, a Sabthecah: a meibion Raamah [oeddynt] Saba, a Dedan.
8Cus hefyd a genhedlodd Nimrod, efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaiar.
9Efe oedd heliwr cadarn ger bron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, fel Nimrod gadarn o heliwriaeth ger bron yr Arglwydd.
10A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Acad, a Chalneh yng-wlad Sinar.
11O’r wlâd honno yr aeth Assur allan, ac a adailadodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chalah.
12A Resen rhwng Ninefe, a Chalah, honno [sydd] ddinas fawr.
13Mizraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nephthuim.
14Pathrusim hefyd, a Chassuhim, a’r Capthoriaid y rhai y daeth Philistiaid allan o honynt.
15Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntafanedic, a Heth,
16A’r Iebusiad a’r Amoriad, a’r Gergasiad
17A’r Hefiad a’r Arciad a’r Siniad.
18A’r Arfadiad a’r Semariad a’r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwascarodd teuluoedd, y Canaaneaid.
19Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon ffordd yr elych i Gerar hyd Azah: a ffordd yr elych i Sodoma, a Gomorra, ac Adama, a Seboiim, hyd Lesa.
20Dymma feibion Cam, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd yn eu gwledydd [ac] yn eu cenhedloedd.
21I Sem hefyd y ganwyd plant, yntef oedd dâd holl feibion Heber [a] brawd Iapheth yr hwn oedd hynaf.
22Meibion #1.Cron.1.17.Sem [oeddynt,] Elam, ac Assur, ac Arphaxad, a Lud, ac Aram.
23A meibion Aram, Us, a Hul, a Gether, a Mas.
24Ac Arphaxad a genhedlodd Selah, a Selah, a genhedlodd Heber.
25Ac i Heber y ganwyd dau o feibion, henw vn [oedd] Peleg: o herwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaiar, a henw ei frawd Iactan.
26Ac Iactan a genhedlodd Almadad, a Saleph, a Hazarmafeth, ac Ierah.
27Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla.
28Obal hefyd, ac Abimael, a Seba.
29Ophir hefyd, a Hafilah, a Iobab, yr holl rai hyn [oeddynt] feibion Iactan.
30Ai presswylfa, oedd o Mesa ffordd yr elych i Sapher mynydd y dwyrain.
31Dymma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ol eu hiaithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.
32Dymma deuluoedd meibion Noah, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu cenhedloedd, ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaiar wedi ’r diluw.

Dewis Presennol:

Genesis 10: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda