Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 5

5
PEN. V.
1 Moses ac Aaron yn dywedyd eu cennadwriaeth wrth Pharao. 6 Pharao yn gorthrymmu ’r bobl waeth waeth. 20 Y bobl yn digio wrth Moses ac Aaron.
1Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharao: fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, gollwng ymmaith fy mhobl fel y cadwant ŵyl i mi yn yr anialwch.
2A dywedodd Pharao, pwy [yw]’r Arglwydd, fell y gwrandawn i ar ei lais, i ollwng Israel ymmaith? yr Arglwydd nid adwen, ac Israel ni ollyngaf.
3A dywedasant hwythau, Duw’r Hebraaid a gyfarfu a ni: gad i ni fyned attolwg, daith tridiau yn yr anialwch fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw rhac iddo ein rhuthro a haint neu â chleddyf.
4Yna y dywedodd brenin yr Aipht wrthynt, Moses ac Aaron, pa ham y perwch i’r bobl beidio ai gwaith? ewch at eich clud.
5Pharo hefyd a ddywedodd, wele pobl lawer ydynt [sydd] yn y wlad: a pharasoch iddynt beideio ai llwythau.
6A’m hynny y gorchymynnodd Pharao y dydd hwnnw: i’r rhai oeddynt feistred gwaith ar y bobl ai goruchwil-wyr, gan ddywedyd,
7Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur pridd-feini megis o’r blaen: elont eu hun a chasclant wellt iddynt.
8Er hynny rhifedi y pridd-feini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o’r blaen a roddwch arnynt, na leihewch o hynny: canys segur ydynt, am hynny y maent yn gweiddi gan ddywedyd, gad i ni fyned ac aberthu i’n Duw.
9Trymhaer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo: fel nad edrychant am eiriau ofer.
10Yna meistred gwaith y bobl, ai goruchwyl-wyr a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl gan ddywedyd: fel hyn y dywedodd Pharao, ni roddaf wellt i chwi.
11Ewch chwi, a chymmerwch iwch wellt o’r lle y caffoch: er hynny ni leihair dim o’ch gwasanaeth.
12A’r bobl a ymwascarodd trwy holl wlad yr Aipht, i gasclu sofl yn lle gwellt.
13A’r meistred gwaith oedd yn eu pryssuro gan ddywedyd: gorphennnwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.
14A churwyd goruchwil-wyr meibion Israel y rhai a osodase meistred gwaith Pharao arnynt gan ddywedyd: pa ham na orphennasoch eich tasc ar wneuthur pridd-feini ddoe a heddyw: megis cyn hynny?
15Yna goruchwil-wyr meibion Israel a ddaethant, ac a lefasant ar Pharao gan ddywedyd: pa ham y gwnei fel hyn i’th weision?
16Gwellt ni roddir i’th weision, a gwnewch bridd-feini i ni meddant: ac wele dy weision a gurwyd a’th bobl di sydd ar y bai.
17Ac efe a ddywedodd segur segur ydych: am hynny ’r ydych chwi yn dywedyd, gad i ni fyned [fel] yr aberthom i’r Arglwydd.
18Am hynny ewch yn awr, gweithiwch ac ni roddir gwellt i chwi: etto chwi a roddwch yr [vn] cyfrif o’r priddfeini.
19A goruchwil-wyr meibion Israel ai gwelent eu hun mewn [lle] drwg pan ddywedyd: na leihewch [ddim] o’ch pridd-feini dogn dydd yn ei ddydd.
20A chyfarfuant a Moses a Aaron yn sefyll ar eu ffordd hwynt: pan ddaethant allan oddi wrth Pharao.
21A dywedasant wrthynt, edryched yr Arglwydd a barned arnoch chwi: y rhai a barasoch i’n sawyr ddrewi ger bron Pharao, a cher bron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n llâd ni.
22Yna y dychwelodd Moses at yr Arglwydd ac a dywedodd: ô Arglwydd pa ham y drygaist y bobl hynn? i ba beth i’m hanfonaist?
23Canys er pan ddaethum at Pharao i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hynn: a chan waredu ni waredaist dy bobl.

Dewis Presennol:

Exodus 5: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda