Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 32

32
PEN. XXXII.
1 Y llô aur. 11 Moses ym ymbil a Duw ac yn gweddio tros y bobl. 15 Yn dyfod i wared o’r mynydd a’r llechau yn ei law. 19 Yn ei ddig yn torri y llechau, ac yn dryllio y llô ac yn rhoddi senn iw frawd. 27 Moses yn peri i’r Lefiaid ladd y delw-addol-wyr. 30 Yntef yn ceryddu y bobl, yn dychwelyd i’r mynydd, ac yn attolwg i dmnu ei hun o lyfr y bywyd, er cael maddeuaint i’r bobl.
1Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i wared o’r mynydd: yna yr ymgasclodd y bobl at Aaron ac y dywedasant wrtho, cyfot gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen ni, canys y Moses hwn y gwr a’n dûg ni i fynu o wlad yr Aipht ni wyddom beth a [ddarfu] iddo.
2Yna y dywedodd Aaron wrthynt, tynnwch y clust-dlysau o aur, y rhai [ydynt] wrth glustiau eich gwragedd, a’ch meibion, a’ch merched, a dygwch [hwynt] attafi.
3Yna yr holl bobl a dynnasant y clust-dlysau aur, y rhai [oeddynt] wrth eu clustiau: ac ai dugasant at Aaron.
4Ac efe ai cymmerodd oi dwylo, ac ai llunniodd mewn molt, ac ai gwnaeth yn llô tawdd: a hwy a ddywedasant, #Psol.106.19.dymma dy dduwiau di Israel y rhai a’th ddugasant di i fynu o wlad yr Aipht.
5A phan welodd Aaron [hynny] efe a adailadodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, [y mae] gŵyl i’r Arglwydd y foru.
6Felly hwynt a godasant yn forau drannoeth, ac a offrymmasant boeth offrwm, ac a ddugasant aberthau hedd: a’r #1.Cor.10.7.bobl a eisteddasant i fwytta, ac i yfed, ac a godasant i fynu i chware.
7Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses: cerdda, dos i wared, canys ymlygrodd dy bobl y rhai a ddygaist i fynu o dîr yr Aipht.
8Buan y ciliasant o’r ffordd yr honn a orchymynnais iddynt, #1.Bren.12.28. Exod.33.3. Deut.9.13.gwnaethant iddynt lô tawdd: ac addolasant ef, ac aberthasant iddo, dywedasant hefyd, dymma dy dduwiau di Israel y rhai a’th ddugasant i fynu o wlad yr Aipht.
9Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses: gwelais y bobl hynn, ac wele pobl war-galed ydynt.
10A’m hynny yn awr gad i’m lonydd fel yr enynno fy llid yn eu herbyn ac y difethwyf hwynt: ond mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr.
11A #Psal.106.23.Moses a ymbiliodd ger bronn yr Arglwydd ei Dduw: ac a ddywedodd pa ham Arglwydd yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl yr rhai #Num.14.13.a ddugaist i fynu o wlad yr Aipht drwy nerth mawr, a llaw gadarn?
12Pa ham y caiff yr Aiphtiaid lefaru gan ddywedyd? mewn malis y dygodd hwynt allan iw lladd yn y mynyddoedd, ac iw difetha oddi ar wyneb y ddaiar: trô oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennit y drwg [a amcenaist] i’th bobl.
13Cofia Abraham, Isaac, ac Israel dy weision y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt, mi a #Genes.12.7.|GEN 12:7. Genes.15.7.|GEN 15:7. Genes.48.16.amlhaf eich hâd chwi fel sêr y nefoedd: a’r holl wlad ymma yr hon a ddywedais a roddaf i’ch hâd chwi, a hwynt ai hetifeddant byth.
14Yna yr edifarhaodd gan yr Arglwydd: am y drwg yr hwn a ddywedase efe y gwnai iw bobl.
15A Moses a drôdd ac a ddaeth i wared o’r mynydd a dwy lêch y destiolaeth yn ei law: y llechau a scrifennasid oi dau tu, hwynt a scrifenasid o bob tu.
16A’r llechau hynny [oeddynt] o waith Duw: yr scrifen hefyd [oedd] scrifen Dduw yn scrifennedic ar y llechau.
17Pan glywodd Iosua sŵn y bobl yn bloeddio: yna efe a ddywedodd wrth Moses, [y mae] sŵn rhyfel yn y gwerssyll.
18Yntef a ddywedodd nid sŵn yn arwyddoccau goruchafiaeth, ac sŵn yn arwyddoccau llescder: [onid] swn canu a glywafi.
19Yna yr enynnodd digofaint Moses ac y taflodd efe y llechau oi law, ac ai torrodd hwynt is-law y mynydd: wedi dyfod o honaw ef yn agos at y gwerssyll, ia gweled y llô a’r dawnsiau.
20Ac efe a gymmerodd y llô yr hwn a wnaethent, ac ai lloscodd a thân, ac ai malodd yn llŵch: ac ai tanodd ar wyneb y dwfr, ac ai rhoddes iw yfed i feibion Israel.
21A dywedodd Moses wrth Aaron, beth a wnaeth y bobl hyn it: pan ddygaist arnynt bechod [morr] fawr?
22Yna y dywedodd Aaron, nac enynned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl mai ar ddrwg y maent.
23Pan dywedasant wrthif gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn y gŵr a’n dûg ni i fynu o wlad yr Aipht ni wyddom beth a [ddarfu] iddo.
24Yna y dywedais wrthynt, i’r neb [y mae] aur tynnwch ef: a hwynt ai rhoddasant i mi, a mi ai bwriais yn tân, a daeth y llô hwn allan.
25Moses gan hynny a welodd fod y bobl yn noeth: canys Aaron ai noethase hwynt yn wradwydd ym mysc eu gelynnion.
26A’m hynny y safodd Moses ym mhorth y gwerssyll, ac a ddywedodd, y neb [sydd] eiddo yr Arglwydd [deued] attafi, a holl feibion Lefi a ymgasclasant atto ef.
27Yna efe a ddywedodd wrthynt, fel hynn y dywed Arglwydd Dduw Israel, gosodwch bob vn ei gleddyf ar ei glun: ac ewch, cynniwerwch o borth i borth drwy y gwerssyll, a lleddwch bob vn ei frawd, a phob vn ei gyfell, a phob vn ei gymydog.
28Felly meibion Lefi a wnaethant yn ol gair Moses: a chwympodd o’r bobl y dydd hwnnw dair mîl o wŷr.
29Canys dywedase Moses, cyssegrwch eich llaw heddyw i’r Arglwydd, pob vn ar ei fab, ac ar ei frawd: fel y rhodder heddyw i chwi fendith.
30A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a âf i fynu at yr Arglwydd, ond odid mi a wnaf iawn am eich pechod.
31Yna Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd, ac a ddywedodd: yn awr y pechod y bobl hynn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.
32Ac yn awr y naill ai maddeu di iddynt eu pechod: neu os amgen crafa di fi o’th lyfr yr hwn a scrifennaist.
33Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses: pwy bynnac a bechodd i’m herbyn hwnnw a grafaf allan o’m llyfr.
34Am hynny dôs yn awr, arwein y bobl i’r [lle] a ddywedais wrthit: wele fy angel aiff o’th flaen di: a’r dydd yr ymwelwyf yr ymwelaf a hwynt am eu pechod.
35Felly y tarawodd yr Arglwydd y bobl: am yr hynn a wnaethent i’r llo yr hwn a wnelse Aaron.

Dewis Presennol:

Exodus 32: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda