Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 28

28
PEN. XXVIII.
Gwisc Aaron, ai feibion.
1A chymmer di Aaron dy frawd attat, ai feibion gyd ag ef o blith meibion Israel i offeiriadu i mi: [sef] Aaron, Nadab, ac Abihu, Eleazar ac Ithamar meibion Aaron.
2Gwna hefyd wiscoedd sanctaidd i Aaron dy frawd: er gogoniant a harddwch.
3A dywet wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag yspryd doethineb: am wneuthur o honynt ddillad Aaron iw sancteiddio ef i offeiriadu i mi.
4Ac dymma y gwiscoedd y rhai a wnant, dwyfronnec, ac Ephod, mantell hefyd, a phais o waith edef a nodwydd, meitr a gwregys: felly y gwnant wiscoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac iw feibion i offeiriadu i mi.
5Cymmerant gan hynny aur, a sidan glâs, a phorphor: ac scarlat, a sidan gwynn.
6A gwnant yr Ephod o aur, sidan glâs, a phorphor, ac scarlat, a sidan gwynn cyfrodedd o waith cywraint.
7Dwy yscwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwrr, fel y cydier hi yng-hyd.
8A gwregys ei Ephod ef yr hwn fydd arno sydd o honi hi, yn vn waith a hi; o aur, sidan glâs, a phorphor, scarlat hefyd, a sidan gwynn cyfrodedd.
9Cymmer hefyd ddau faen Onix, a nadd ynddynt enwau meibion Israel.
10Chwech o henwau ar y maen cyntaf: a’r chwe henw arall ar yr ail maen yn ol eu ganedigaeth.
11Ar waith saer maen [gwerthfawr,] fel naddu sêl y neddi di y ddau faen yn ol henwau meibion Israel: gwna hwynt o boglynnau o aur oi hamgylch.
12A gosot y ddau faen ar ysgwyddau yr Ephod yn feini coffadwriaeth i feibion Israel: canys Aaron a ddwg eu henwau hwynt ger bron yr Arglwydd ar ei ddwy yscwydd yn goffadwriaeth.
13Gwna hefyd foglynnau aur.
14A dwy gadwyn gyd-terfynol o aur coeth, o blethwaith y gwnei hwynt: a dod y cadwynau plethedic wrth y boglynnau.
15Gwna hefyd ddwyfronec barnedigaeth o waith cywraint, ar waith yr Ephod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorphor, ac scarlat, a sidan gwyn cyfrodedd y gwnei hi.
16Pedeir ongl fydd hi [a] dau ddyblyg: yn rhychwant ei hŷd, ac yn rhychwant ei llêd.
17Llawna hi yn llawn o feini [sef] pedair rhês o feini: rhês o Sardius, a Thopas, a Smaragdus fydd y rhês gyntaf.
18A’r ail rhês [fydd] Rubi, Saphir, ac Adamant.
19A’r drydedd rhês [fydd] Lyncur, ac Achat, ac Amethyst.
20Y bedwaredd rhês [fydd] Turcas, ac Onix, ac Iaspis: byddant wedi eu gwisco mewn aur yn eu lleoedd.
21A’r meini fyddant yn ol henwau meibion Israel, yn ddeuddec yn ol eu henwau hwynt: o naddiad sêl, bob vn wrth ei henw y byddant i’r deuddec llwyth.
22A gwna ar y ddwyfronec gadwynau cyd-terfynol yn bleth waith o aur coeth.
23Gwna hefyd ar y ddwyfronec ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwrr y ddwyfronec.
24A dod y ddwy (gadwyn) blethedic, o aur trwy y ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronnec.
25A dod ddau pen y ddwy gadwyn wrth y ddau foglyn: a dod ar yscwyddau yr Ephod o’r tu blaen.
26Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur a gosot hwynt wrth ddau gwrr y ddwyfronnec: o’r tu mewn ar yr ymmyl [sydd] ar ystlys yr Ephod.
27A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr Ephod oddi tanodd, oi thu blaen ar gyfer ei chydiad oddi ar wregys yr Ephod.
28A’r ddwyfronnec a rwymant ai modrwyau wrth fodrwyau’r Ephod a llinin o sidan glâs, i fod ar wregys yr Ephod: fell na ddatoder y ddwyfronnec oddi wrth yr Ephod.
29A dyged Aaron yn nwyfronnec y farnedigaeth henwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i’r cyssegr: yn goffadwriaeth ger bron yr Arglwydd yn oestadol.
30A dod ar ddwyfronnec y farnedigaeth yr Urim a Thummim i fod ar galon Aaron pan ddelo ger bron yr Arglwydd: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, ger bron yr Arglwydd yn oestadol.
31Gwna hefyd fantell yr Ephod oll o sidan glâs.
32A byddedd twll ei benn ef yn ei chanol: bydded eirionyn iw choler o amgylch o wauad-waith, megis coler lluric fydd iddi rhac rhwygo.
33A gwna ar ei godre hi [luniau] pomgranadau o sidan glâs, a phorphor, ac scarlat ar ei godrau o amgylch: a chlychau o aur rhyngddynt o amgylch.
34 # Pregeth.45.10. Clôch aur, a phom-granad [a] chlôch aur a phom-granad ar odre y fantell o amgylch.
35A hi a fydd am Aaron wrth weini: fel y clywer ei swn ef pan ddelo i’r cyssegr, ger bron yr Arglwydd, a phan elo allan, fel na byddo farw.
36Gwna hefyd ddalen o aur coeth: a nadd di arni fel naddiadau sêl, Sancteiddrwydd i’r Arglwydd.
37A gosot hi wrth linin o sidan glâs, a bydded ar y meitr: o’r tu blaen i’r meitr y bydd.
38A hi a fydd ar dalcen Aaron fel y dygo Aaron anwiredd yr offrymmau y rhai a gyssegro meibion Israel oi holl sanctaidd offrymmau hwynt, ac yn oestad y bydd ar dalcen Aaron i [beri] iddynt ffafor ger bron yr Arglwydd.
39Gweithia ag edef a nodwydd y bais o sidan gwynn: a gwna feitr o sidan gwyn, a gwregys o wniad-waith.
40I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau: gwna hefyd iddynt gappanau er gogoniant a harddwch.
41A gwisc hwynt am Aaron dy frawd ai feibion gyd ag ef: ac eneinia hwynt, cyssegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt i offeiriadu i mi.
42 # Leuit.6.10. Gwna hefyd iddynt lawdrau lliain i guddio eu cnawd noeth: o’r lwynau hyd y morddwydydd y byddant.
43A byddant am Aaron, ac am ei feibion pan ddelont i babell y cyfarfod, neu pan ddelont at yr Allor i weini yn y cyssegr, fel na ddygont anwiredd a marw: [hynn fydd] deddf dragywyddol iddo ef, ac iw hâd ar ei ol ef.

Dewis Presennol:

Exodus 28: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda