Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 27

27
PEN. XXVII.
1 Allor y poeth offrwm. 9 Cynteddfa y tabernacl. 20 Goleuni gwastadol yn y babell.
1Gwna hefyd allor o goed Sittim o bump cufydd o hŷd, a phump cufydd o lêd, yn bedair-ongl y bydd yr allor, ai huchter o dri chufydd.
2A gwna ei chyrn ar ei phedair congl, o honi ei hun y bydd ei chyrn; a gwisc hi a phrês.
3Gwna hefyd iddi grochanau i dderbyn ei lludw, ai rhawiau, ai chawgiau, ai chigwennau, ai thusserau: ei holl lestri a wnei o brês.
4A gwna iddi alch o brês, ar waith rhwyd, a gwna ar yr rhwyd bedair modrwy o brês ar ei phedair congl.
5A dod hi dann amgylchiad yr allor oddi tannodd, fel y byddo y rhwyd hyd hanner yr allor.
6A gwna drosolion i’r allor [sef] trosolion o goed Sittim, a gwisc hwynt a phrês.
7A dod ei throssolion trwy y modrwyau, a bydded y trossolion ar ddau ystlys yr allor pan ddyger hi.
8Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangosodd [yr Arglwydd] i ti yn y mynydd, felly y gwnant.
9A gwna gynteddfa y tabernacl ar y tu dehau: troelloc lenni y cynteddfa fyddant sidan gwyn cyfrodedd, o gan cufydd o hŷd yn vn ystlys.
10Ai hugain colofn, ai hugain mortais [fyddant] o brês: pennau y colofnau, ai cylchau [fyddant] o arian.
11Felly o du’r gogledd [y bydd] ar hŷd, lenni troelloc, o gant [cufydd] o hŷd, ai hugain colofn gyd ai hugain mortais o brês: a phennau y colofnau, ai cylchau o arian.
12A llêd y cynteddfa tua’r gorllewin [a gaiff] droelloc lenni o ddêc cufydd a deugain: eu colofnau [fyddant] ddêc, ai morteisiau yn ddêc.
13A lled y cynteddfa tua’r dwyrain o godiad haul [a fydd] dêc cufydd, a deugain.
14Y troelloc lenni o’r [naill] du [a fyddant] bymthec cufydd, eu colofnau yn dair, ai morteisiau yn dair.
15Ac i’r ail tu [y bydd] pymthec troelloc lenn, eu tair colofn ai tair mortais.
16Ac i borth y cynteddfa [y gwneir] caead lenn o vgein cufydd o sidan glâs, porphor, ac scarlat, ac o sidan gwyn cyfrodedd o wniad-waith: eu pedair colofn, ai pedair mortais.
17Holl golofnau y cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian, ai pennau yn arian, ai morteisiau yn brês.
18Hŷd y cynteddfa [fydd] cant cufydd, ai lêd dêc a deugain o bob tu: a phump cufydd o vchter [fydd y troelloc lenni] o sidan gwyn cyfrodedd, ai morteisiau prês.
19Holl lestri y tabernacl yn eu holl wasanaeth, ai holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa fyddant o brês.
20A gorchymyn dithe i feibion Israel ddwyn o honynt attat bûr olew’r olewydden coethedic yn oleuni, i beri i’r lusernau ennyn yn oestad.
21Ym mhabell y cyfarfod o’r tu allan i r wahanlenn yr hon [a fydd] o flaen y destiolaeth y trefna Aaron, ai feibion hwnnw o’r hwyr hyd y borau, ger bron yr Arglwydd yn ddeddf dragwyddol trwy eu hoesoedd gan feibion Israel.

Dewis Presennol:

Exodus 27: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda