Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 21

21
PEN. XXI.
Cyfreithiau am weision caethion. 12 Am lofryddiaeth. 15 Am daro tad neu fam. 17 Am gablu tad neu fam. 18 Am daro cymmydog. 20 Am daro caeth-was. 22 Am beri i wraig feichiog niwed. 26 Am anaf caeth-was. 28 Am eidion a ruthro neu a syrthio mewn pwll.
1Dymma y barnedigaethau y rhai a osodi ger eu bron hwynt.
2Os prynni wâs o Hebræad, gwasanaethed chwe blynedd: a’r seithfed y caiff yn rhâd fyned ymmaith yn rhydd.
3Os ar ei benn ei hun y daeth, ar ei benn ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gyd ag ef.
4Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched: bydded y wraig ai phlant iw meistr, ac aed efe allan ar ei benn ei hun.
5Ac os gwâs gan ddywedyd a ddywed, hoff gennifi fy meistr, fyng-wraig a’m plant: nid afi allan yn rhydd.
6Yna dyged ei feistr ef at y swyddogion a dyged ef at y ddôr, neu at yr orsyn: a thylled ei feistr ei glust ef a mynawyd, a gwasanaethed ef byth.
7Ac os gwerth gŵr ei ferch yn forwyn gaeth: ni chaiff hi fyned allan fel yr el y gweision allan.
8Os heb ryglyddu bodd yng-olwg ei meistr y bydd fel na chymmero efe hi yn ddyweddi, yna gadawed ei hadbrynnu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi.
9Ond os iw fab y dyweddia efe hi: gwnaed iddi yn ol deddf y merched.
10Ac os arall a brioda efe: na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na’i hiawn.
11Ac os y trî hynn nis gwna efe iddi: yna aed hi allan yn rhad heb arian.
12Rhodder i farwolaeth y #Lefit.24.17.neb a darawo wr fel y byddo marw.
13Ond yr hwn ni chynllwynodd [y dŷn] onid rhoddi o Dduw achlysur iw law, mi a ossodaf it fann lle y caffo ffoi.
14A phan wnelo vn yn drahaus ai gymydog gan ei ladd ef trwy dwyll: cymmer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.
15Rhodder i farwolaeth yr hwn a darawo ei dad, neu ei fam.
16Rhodder i farwolaeth yr hwn a ledradhao ddŷn, ac ai gwertho, os ceir arno.
17Rhodder i farwolaeth yr hwn a felldithio ei dad neu ei fam.
18A phan ymryssono dynion a tharo o’r naill y llall a charrec, neu a dwrn: ac efe heb farw, onid gorfod iddo orwedd,
19Os cyfyd efe a rhodio allan wrth ei ffonn yna y tarawydd a fydd ddihawl: yn unic rhodded ei golled am ei waith, a chan feddiginiaethu meddiginiaethed ef.
20Ac os teru vn ei wasanaeth-wr, neu ei wasanaeth-ferch, a gwialen fel y byddo farw tann ei law ef: gan ddial dialer arno.
21Ond os erys ddiwrnod neu ddau ddiwrnod, na ddialer arno, canys [gwerth] ei arian ei hun ydoedd efe.
22Ac os ymrafaelia dynion, a tharo o honynt wraig feichiog fel yr el ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan ddirwyo dirwyer ef fel y gosodo perchen y wraig arno, a rhodded [hynny] trwy farn-wŷr.
23Ac os marwolaeth fydd: rhodder enioes am enioes.
24Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.
25Llosc am losc, archoll am archoll, a chlais am glais.
26Os teru vn lygad ei wasanaeth-wr, neu ei wasanaeth-ferch fel y llygro ef: gollynged ef yn rhydd am ei lygad.
27Ac os tyrr efe ddant ei wasanaeth-wr, neu ddant ei wasanaeth-ferch: gollynged ef yn rhydd am ei ddant.
28Ac os ŷch a gornia ŵr, neu wraig fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ŷch, ac na fwytaer ei gîg ef, ac aed perchen yr ŷch yn rhydd.
29Ond os yr ŷch oedd yn cornio o’r blaen, a [hynny] yn hyspys iw berchennog, ac efe heb ei gadw, ond lladd o honaw ŵr neu wraig: yr ŷch a labyddir, ai berchennog a roddir i farwolaeth.
30Os iawn a roddir arnaw, rhodded werth am ei enioes, yn ol yr hyn oll a ossodir arno.
31Os mab neu ferch a gornia efe: gwneler iddo yn ol y gyfraith hon.
32Ond os gwasanaeth-wr neu wasanaethferch a gornia’r ŷch: rhodder iw berchennog #Genes.23.15.ddec sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ŷch.
33Ac os egyr gŵr bydew, neu os cloddia vn bydew, ac heb gaeu arno: a syrthio yno ŷch neu assyn,
34Perchen y pydew a dâl [am dano,] arian a dâl efe iw berchennog, a’r [anifail] marw a fydd iddo yntef.
35Ac os ŷch gwr a deru ŷch ei gymydog fel y byddo efe farw: yna gwerthant yr ŷch byw, a rhannant ei werth ef, a’r [ŷch] marw a rannant hefyd.
36Neu os dangoswyd mai ŷch hwylioc ydoedd efe o’r blaen, ai berchennog heb ei gadw ef: gan dalu taled ŷch am ŷch, a bydded y marw eiddo ef.

Dewis Presennol:

Exodus 21: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda