Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 18

18
PEN. XVIII.
Iethro yn dwyn gwraig a phlant Moses atto. 8 Moses yn dangos: Iethro ei chwegrwn ymwared Israel. 10 Iethro yn moliannu ac yn aberthu i Dduw Israel. 19 Moses yn ol cyngor Iethro yn gosod swyddogion tanaw.
1Pan glywodd #Exod.1.16.Iethro, offeiriad Midian chwegrwn Moses yr hyn oll a wnaethe Duw i Moses, ac i Israel ei bôbl: a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aipht,
2Yna y cymmerodd Iethro chwegrwn Moses, Sephora gwraig Moses: (wedi ei hebrwng hi [atto. )]
3Ai dau fâb hi: o ba rai henw vn [oedd] Gershom o blegit efe a ddywedase dieithr ydywyf mewn gwlâd estronol.
4Ac enw y llall [oedd] Eliezer: o herwydd Duw fy nhâd [oedd] yn gynnorthwy i mi [ebr efe] ac a’m hachubodd rhac cleddyf Pharao.
5A daeth Iethro chwegrwn Moses, at Moses, ai feibion, ai wraig i’r anialwch, lle’r ydoedd efe yn gwerssyllu [ger llaw] mynydd Duw.
6Ac efe a ddywedodd wrth Moses, myfi Iethro dy chwegrwn sydd yn dyfod attat: a’th wraig, ac ai dau fâb gyd â hi.
7Yna’r aeth Moses allan i gyfarfod ai chwegrwn, ac a ymgrymmodd, ac ai cussanodd, a chyfarchasant bob vn iw gilydd: a daethant i’r babell.
8Yna Moses a fynegodd iw chwegrwn yr hyn oll a wnaethe’r Arglwydd i Pharao, ac i’r Aiphtiaid er mwyn Israel: a’r holl flinder yr hyn a gawsent a’r y ffordd, ac achub o’r Arglwydd hwynt.
9A llawenychodd Iethro o herwydd yr holl ddaioni a wnaethe’r Arglwydd i Israel: [ac] a’m ei waredu ef o law’r Aiphtiaid.
10A dywedodd Iethro, bendigedic [fyddo] yr Arglwydd yr hwn a’ch gwaredodd o law’r Aiphtiaid, ac o law Pharao: yr hwn [hefyd] a waredodd y bôbl oddi tann law’r Aiphtiaid.
11Yn awr y gwn mai mwy ydyw’r Arglwydd na’r holl Dduwiau: #Exod.1.10|EXO 1:10 & 16.22.|EXO 16:22. Exod.5.7. Exod.14.18.o blegit yn y peth yr oeddynt falch o honaw [yr aeth efe] arnynt.
12Yna Iethro chwegrwn Moses a gymmerodd boeth offrwm, ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron a holl henuriaid Israel i fwyta bara gyd a chwegrwn Moses ger bron Duw.
13A Moses a eisteddodd drannoeth i farnu y bôbl: a safodd y bôbl gyd a Moses o’r borau hyd yr hwyr.
14A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl, efe a ddywedodd. Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl? Pa ham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o’r borau hyd yr hwyr?
15A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn: am i’r bóbl ddyfod attaf i ymgynghori a Duw.
16Pan fyddo iddynt achos attafi y deuant, a myfi ydwyf yn barnu rhwng pawb ai gilydd: ac yn ysbyssu deddfau Duw ai gyfreithiau.
17A dywedodd chwegrwn Moses wrtho: nit da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.
18Llwyr ddeffygi di, a’r bôbl ymma hefyd y rhai ydynt gyd a thi: canys rhy-drwm yw y peth i ti, ni elli ei wneuthur ef dy hun.
19Gwrando ar fy llais i yn awr, mi a’th gynghoraf â bydd Duw gyd a thi: bydd di dros y bôbl ger bron Duw, a dwg di eu hachosion at Dduw.
20Dysc hefyd iddynt y deddfau a’r cyfraithiau: ac hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd y rhai a wnant.
21Ac edrych dithe allan o’r holl bobl am wŷr nerthol yn ofni Duw, gwŷr geirwir yn cassau cybydd-dod: a gossot [y rhai hyn] arnynt hwy, yn bennaethiaid ar filoedd, yn bennaethiaid ar gantoedd, ac yn bennaethiaid ar ddegau a deugain, ac yn bennaethiaid ar ddegau.
22A barnant hwy y bôbl bob amser, ond dygant bob peth mawr attat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr yscafnhâ di [y baich] oddi arnat dy hun, a chyd ddygant hwythau a thi.
23Os y peth hynn a wnei ai orchymyn o Dduw i ti, yna ti a elli barhau: a’r holl bobl hyn a ddeuant iw lle yn llwyddiannus.
24A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn: ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.
25Canys Moses a ddewisodd wŷr grymmus allan o holl Israel, ac ai rhoddodd hwynt yn bennaethiaid ar y bobl: yn bennaethiaid ar filoedd, yn bennaethiaid ar gantoedd, yn bennaethiaid ar ddegau a deugain, ac yn bennaethiaid ar ddegau.
26A hwynt a farnasant y bobl bob amser: y peth caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy.
27Wedi hynny Moses a ollyngodd ymmaith ei chwegrwn: ac efe a aeth adref iw wlâd.

Dewis Presennol:

Exodus 18: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda