Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 16

16
PEN. XVI.
Israel yn dyfod i anialwch Sin. 3 Ac yn tuchan am fwyd. 13 Ac yn cael sofl-ieir a Manna. 16 Y modd a’r mesur i gael y Manna. 32 Cadw peth o’r Manna er coffadwriaeth.
1Yna y symmudasant o Elim, a holl gynnulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin yr hwn [sydd] rhwng Elim a Sinai: ar y pymthecfed dydd o’r ail mîs wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aipht.
2A holl gynnulleidfa meibion Israel, a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron yn yr anialwch.
3Canys meibion Israel a ddywedasant wrthynt, ô na buasem feirw tann law’r Arglwydd yng-wlad yr Aipht? pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig ac yn bwyta bara ddigon: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn i ladd yr holl dyrfa hon a newyn.
4Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, wele mi a lawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasclant ddogn dydd yn ei ddydd, fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fyng-hyfraith, ai nas [gwnant.]
5Ond ar y chweched dydd y darparant yr hynn a ddygant i mewn: a [hynny] fydd dau cymmeint i’r hyn a gasclant beunydd.
6Yna y dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel: yn yr hwyr y cewch wybod mai’r Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aipht.
7Y borau hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd, am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: o herwydd beth [a allem] ni pan dduchanasoch i’n herbyn?
8Moses hefyd a ddywedodd, yn yr hwyr y rhydd yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gîg iw fwyta, a’r borau fara ddigon, am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi’r hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: o herwydd beth [allem] ni? nid yn ein herbyn ni [yr oedd] eich tuchan, onid yn erbyn yr Arglwydd.
9A Moses a ddywedodd wrth Aaron, dywet wrth holl gynnulleidfa meibion Israel deuwch yn nes ger bron yr Arglwydd: o herwydd efe a glywodd eich tuchan chwi.
10Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, yna’r edrychasant tua’r anialwch: ac wele gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd mewn niwl.
11A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd,
12 # Exod.12.21|EXO 12:21. Preg.45.4(sic.) Clywais duchan meibion Israel, llefara wrthynt gan ddywedyd, yn y cyfnos y cewch fwyta cîg, a’r borau i’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich Duw chwi.
13Felly yn yr hwyr y #Num.11.7|NUM 11:7. Psal.78.24|PSA 78:24. Doeth 16.20 sofl-ieir a ddaethant ac a orchguddiasant y wersyllfa: a’r boreu yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwerssyll.
14A phan gododd y gaenen wlith: yna wele ar hyd wyneb yr anialwch dippynnau crynnion cyn faned a’r llwyd-rew ar y ddaiar.
15Pan welodd meibion Israel [hynny] yna y dywedasant wrth ei gilydd Manna [yw] ef, canys ni wyddent beth [ydoedd] efe: a dywedodd Moses wrthynt, #Ioan 6.31|JHN 6:31. 1.Cor.10.3 hwn yw y bara’r hwn a roddodd yr Arglwydd i chwi iw fwyta.
16Hynn yw’r peth a orchymynnodd yr Arglwydd, cesclwch o honaw bob vn yn ol ei fwyta: Gomer i bob vn yn ol rhifedi eich eneidiau, cymmerwch bob vn i’r rhai fyddant yn y gwersyll.
17A meibion Israel a wnaethant felly: ac a gasclasant, rhai lawer, a rhai ychydig.
18Pan * fesurasant wrth y Gomer, yna nid oedd gweddill i’r hwn a gasclase lawer, ac nid oedd eisieu ar yr hwn a gasclase ychydig: casclasant bob vn yn ol ei fwyta.
19Yna y dywedodd Moses wrthynt: na weddilled neb ddim o honaw hyd y borau.
20Er hynny ni wrandawsant ar Moses onid gado a wnaeth rhai o honaw hyd y borau, ac efe a fagodd bryfed ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.
21A hwynt ai casclasant ef bob borau, pob vn yn ol ei fwytta: pan wresoge yr haul efe a dodde.
22Ac ar y chweched dydd y casclent ddau cymmeint o’r bara, dau Omer i vn: a holl benaethiaid y gynnulleidfa a ddaethant, ac a fynegasant i Moses.
23Ac efe a ddywedodd wrthynt, hynn yw ’r peth a lefarodd yr Arglwydd, y foru [y mae] gorphwysfa Sabboth sanctaidd i’r Arglwydd: pobwch [heddyw] yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch, a gosodwch mewn cadwraeth hyd y borau yr holl weddill.
24A hwynt ai cadwasant hyd y bore, fel y gorchymynase Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo.
25A dywedodd Moses, bwyttewch hwn heddyw; o blegit Sabboth [yw] heddyw i’r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddyw.
26Chwe diwrnod y cesclwch chwi ef: a’r seithfed dydd [sydd] Sabboth, ni bydd efe ar hwnnw.
27Etto [rhai] o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd i gasclu, ond ni chawsant ddim.
28A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchymynnion a’m cyfreithiau?
29Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi Sabboth, am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref, nac aed vn oi le y seithfed dydd.
30Felly y bobl a orphwysasant y seithfed dydd.
31A thŷ Israel a alwasant ei henw ef Manna: ac yr oedd efe fel hâd Coriander, yn wynn, ai flâs fel afrllad o fêl.
32A Moses a ddywedodd dymma y peth a orchymynnodd yr Arglwydd, llanw Omer o honaw iw gadw drwy eich oesoedd: fel y gwelant y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlâd yr Aipht.
33A Moses a ddywedodd wrth Aaron, cymmer #Heb.9.4.vn crochan, a dod ynddo loned Gomer [o’r] Manna: a gosot ef ger bron yr Arglwydd yng-hadw drwy eich oesoedd.
34Megis y gorchymynnodd yr Arglwydd i Moses: felly y gosododd Aaron ef i gadw ger bron y destiolaeth.
35A meibion Israel a fwytawsant y Manna #Iosu.5.12.|JOS 5:12. Neh. 9.15ddeugain mhlynedd nes eu dyfod i dîr cyfanneddol: y Manna a fwytawsant nes eu dyfod i gwrr gwlad Canaan.
36A’r Gomer ydoedd ddecfed rann Epha.

Dewis Presennol:

Exodus 16: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda