Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 14

14
PEN. XIIII.
Duw yn dangos pa lê oref i’r bobl werssyllu. 4 Pharao yn erlid Israel. 10 Israel yn tuchan rhac ofn. 21 y mor yn sychu i ollwng plant Israel trwyddo. 24 Ac yn boddi yr Aiphtiaid.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.
2Dywet wrth feibion Israel a’m ddychwelyd a gwerssyllu o flaen #Num.33.7.Pihahiroth rhwng Migdol a’r môr: o flaen Baal-Sephon, ar ei chyfer y gwerssyllwch wrth y môr.
3Canys dywed Pharao am feibion Israel rhwystrwyd hwynt yn y tîr: [a] chaeodd yr anialwch arnynt.
4A mi a galedaf galon Pharao fel yr ymlidio ar eu hol hwynt, felly i’m gogoneddir i o herwydd Pharao, ai holl fyddin, a’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi [ydwyf] Arglwydd: ac felly y gwnaethant.
5Pan fynegwyd i frenin yr Aipht ffôi o’r bôbl: yna y trôdd calon Pharao ai weision yn erbyn y bôbl, a dywedasant, beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu?
6Ac efe a daclodd ei gerbyd ac a gymmerodd ei bôbl gyd ag ef.
7A chymmerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aipht a chaptenniaid ar bôb vn o honynt.
8Canys yr Arglwydd a galedase galon Pharao brenin yr Aipht, ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan a llaw vchel.
9A’r #Iosu 24.6.|JOS 24:6. 1.Macab.4.9.Aiphtiaid a ymlidiasant a’r eu hôl hwynt [sef] holl feirch, [a] cherbydau Pharao ai wŷr meirch, ai fyddyn, ac ai goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr: ger llaw Pihahiroth o flaen Baal-sephon.
10Pan nessaodd Pharao: yna meibion Israel a godasant eu golwg, ac wele yr Aiphtiaid yn dyfod a’r eu hol, a meibion Israel a ofnasant yn ddirfawr, ac a waeddasant a’r yr Arglwydd.
11A dywedasant wrth Moses, ai a’m nâd oedd beddau yn yr Aipht y dygaist ni i farw yn yr anialwch? pa ham y gwnaethost fel hyn a ni, gan ein dwyn allan o’r Aipht?
12Ond dymma y peth yr hwnn a lefarasom wrthit yn yr Aipht? gan ddywedyd, paid a ni, fel y gwasanaethom yr Aiphtiaid: canys gwell fuase i ni wasanaethu’r Aiphtiaid na marw yn yr anialwch.
13Yna a ddywedodd Moses wrth y bôbl nac ofnwch, sefwch ac edrychwch a’r iechydwriaeth yr Arglwydd yr hwn a wnaiff efe i chwi heddyw: o blegit yr Aiphtiaid y rhai a welsoch chwi heddyw ni chewch eu gweled byth ond hynny.
14Yr Arglwydd a ymladd trosoch: a’m hynny tewch a sôn.
15A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, pa ham y gweiddi arnaf? dywet wrth feibion Israel a’m gerdded o honynt rhacddynt.
16A chyfot tithe dy wialen ac estyn dy law a’r y môr a hollt ef: ac aed meibion Israel trwy ganol y môr a’r dîr sych.
17Wele fi, ie myfi a galedaf galon yr Aiphtiaid fel y deuant ar eu hol hwynt: a mi a ogoneddir o herwydd Pharao, ac o herwydd ei holl fyddin ef, o herwydd ei gerbydau ef, ac o herwydd ei farchogion.
18Yna’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw’r Arglwydd: pan i’m gogoneddir o herwydd Pharao, o herwydd ei gerbydau, ac o herwydd ei farchogion.
19Ac angel Duw yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel a symmudodd, ac a aeth oi hôl hwynt: a’r golofn niwl a aeth ymmaith oi tu blaen hwynt, ac a safodd oi hôl hwynt.
20Ac efe a ddaeth rhwng byddin yr Aiphtiaid a byddin Israel, ac yr ydoedd yn niwl, ac yn dywyllwch [i’r Aiphtiaid,] ac yn goleuo y nôs [i Israel:] ac ni nessaodd y naill at y llall ar hyd y nôs.
21A Moses a estynnodd ei law ar y môr, a’r Arglwydd a yrrodd y môr [yn ei ol] trwy ddwyrein-wynt crŷf ar hyd y nôs, ac a osododd y môr yn sychdir: a holltwyd y dyfroedd.
22Yna #Iosu.4.23.|JOS 4:23. Psal.14.3. 1.Cor.10.1. Hebr.11.29.meibion Israel a aethant trwy ganol y môr a’r dir sych: a’r dyfroedd [oeddynt] yn fûr iddynt o’r tu dehau ac o’r tu asswy.
23A’r Aiphtiaid a erlidiasant, ac a ddaethant a’r eu hol hwynt, [sef] holl feirch Pharao ai gerbydau, ai farchogion i ganol y môr.
24Ac ar yr wyliadwriaeth foreuol, yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Aiphtiaid o’r golofn dân a niw: ac a derfyscodd fyddin yr Aiphtiaid.
25Canys efe a dynnodd ymmaith olwynion ei gerbydau ef, ac ai dûg ef yn drwm: fel y dywedodd yr Aiphtiaid ni a ffoiwn oddi wrth Israel, o blegit yr Arglwydd sydd yn ymladd trostynt hwy yn erbin yr Aiphtiaid.
26Yna’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses estyn dy law ar y môr: fel y dychwelo y dyfroedd ar yr Aiphtiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.
27A Moses a estynnodd ei law ar y môr, a dychwelodd y môr cynn y borau iw nerth, a’r Aiphtiaid a ffoasant yn ei erbyn ef: a’r Arglwydd a ymchwelodd yr Aiphtiaid yng-hanol y môr.
28Felly y dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchguddiasant gerbydau, a marchogion, a holl fyddin Pharao, y rhai a ddaethent ar eu hol hwynt i’r môr: ni adawyd o honynt gymmeint ag vn.
29Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych trwy ganol y môr: a’r dyfroedd [oeddynt] yn fûr iddynt, ar y llaw ddehau, ac ar y llaw asswy.
30Felly’r Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law’r Aiphtiaid: a gwelodd Israel yr Aiphtiaid yn feirw ar fin y môr.
31A gwelodd Israel y grymmuster mawr yr hwn a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Aiphtiaid, a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i’r Arglwydd ac iw wâs ef Moses.

Dewis Presennol:

Exodus 14: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda