Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd yr Apostolion 4

4
PEN. IIII.
Carchar yr Apostolion, 8 pregeth Petr, 19 atteb yr Apostolion i’r swyddogion, 24 gweddi, ac vndeb yr eglwys.
1Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid a llywydd y Deml, a’r Saducaeaid a ddaethant arnynt hwy,
2Ac yr oedd yn flin ganddynt eu bod yn dyscu y bobl, ac yn pregethu yn [enw] yr Iesu yr adgyfodiad o feirw.
3Ac hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a’u dodasant mewn dalfa hyd trannoeth, herwydd hwyr oedd erbyn hynny.
4Eithr llawer o’r rhai a glywsent y gair a gredasant, a rhifedi y gwyr a wnaed yng-hylch pum mil.
5A digwyddodd drannoeth ddarfod iw llywodraeth-wŷr hwy, a’r henuriaid, a’r scrifennyddion, ymgynnull i Ierusalem,
6Ac Annas yr arch-offeiriad, a Chaiphas, ac Ioan, ac Alexander a chymaint oll ac oeddynt o genedl yr arch-offeiriaid.
7Ac wedi iddynt eu gosod yn y canol, hwy a ofynnasant: trwy ba awdurdod, neu ym mha enw y gwnaethoch chwi hyn?
8Yna Petr yn gyflawn o’r Yspryd glân a ddywedodd wrthynt, [chwy-chwi] bennaethiaid y bobl, a henuriaid Israel,
9Od ydys yn ein holi ni heddyw, am [y] weithred dda i’r dyn claf, [sef] pa wedd yr iachauwyd ef,
10Bydded yspysol i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nazareth yr hwn a groes-hoeliasoch chwi, a’r hwn a gyfodes Duw o feirw: trwy hwn y safodd hwn ger eich bron chwi.
11 # Psal.118.22. Esai.28.16. Math.21.42. Mar.12.10. Luc.20.17. Rufein 9.33. 1.Pet.2.7. Dymma y maen hwnnw a lyswyd gennych chwi yr adeilad-wŷr, ac a wnaed yn ben i’r gongl.
12Ac nid oes iechydwriaeth yn neb arall, o blegit ni roddwyd enw arall dā y nef ym mhlith dynion drwy yr hwn y mae yn rhaid ein hiachau
13A phan welsant hyder Petr ac Ioan, a gŵybod eu bod yn anllythrennoc, ac yn annyscedig, rhyfeddu a wnaethant, ac hwy a ŵyddent eu bod hwy gyd â’r Iesu.
14 Ac wrth weled hefyd y dŷn a iachausid yn sefyll gyd â hwynt, ni allent ddywedyd dim yn [eu] herbyn:
15Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o’r gynghorfa, hwy a ymgynghorâsant yn eu plith eu hunain,
16Gan ddywedyd, beth a wnawn ni i’r dynion hyn? canys arwydd eglur a wnaed trwyddynt hwy, yr hwn sydd hyspys i bawb a’r sydd yn presswylio yn Ierusalē, ac ni allwn ni wadu.
17Eithr rhag ei danu ym mhellach ym mysc y bobl, bygythiwn hwynt yn dost, na lefarant mwy wrth neb yn yr enw hwn.
18Ac hwy a’u galwasant hwy, ac a orchymmynasant na lefarent, ac na ddyscent ddim oll yn enw yr Iesu.
19Eithr Petr ac Ioan a’u hattebasant, ac a ddywedasant wrthynt, pa vn sydd gyfiawn ger bron Duw, ai gwrando arnoch chwi, ynte yn hytrach ar Dduw? bernwch chwi.
20Canys ni allwn na ddywedom y pethau a welsom, ac a glywsom.
21Ac hwythau gan eu bygwth a’u gollyngasant heb gael neb iw cospi hwynt, o blegit y bobl, am fod pawb oll yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.
22Canys yr oedd y dyn vwch-law deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd iechydwriaeth.
23A hwynt wedi eu gollwng ymmaith a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant y pethau a ddywedase yr arch-offeiriaid a’r henuriaid wrthynt.
24Hwythau pan glywsant, a gyfodasant eu lleferydd o vn-fryd at Dduw, ac a ddywedasant ô Arglwydd ty di yw y Duw yr hwn a wnaethost nef a daiar, y môr ac oll y sydd ynddynt,
25Yr hwn trwy yr Yspryd glân yng-enau dy wâs Dafydd, a ddywedaist, #Psal.2.1. pa ham y terfyscodd y cenhedloedd, ac y myfyriodd y bobl oferedd?
26Y safodd brenhinoedd y ddaiar i fynu, ac yr ymgasclodd y pennaethiaid yng-hyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef?
27Canys mewn gwirionedd yn y ddinas hon yr ymgynhullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod, a Phontius Pilat gyd â’r cenhedloedd, a phobl Israel,
28I wneuthur beth bynnac a ddarfu i’th law di, a’th gyngor eu rhagderfynu iw gwneuthur.
29Ac yn awr Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniadhâ i’th weision draethu dy air di, â phob hyder.
30Trwy estyn o honot dy law i iachau, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu.
31Ac wedi iddynt weddio, y lle yr oeddent wedi ymgynnull ynddo a symmuoodd, ac hwy a lanwyd oll o’r Yspryd glân, ac hwy a draethasant air Duw yn hyderus.
32Ac i’r lliaws a oedd yn credu yr oedd vn galon, ac vn enaid, ac ni ddywedodd yr vn o honynt am yr hyn a fedde, ei fod yn ei eiddo ei hun, ond pob peth oedd rhyngddynt yn #Pen.2.44. gyffredin.
33A’r Apostolion trwy nerth mawr a roddasant destiolaeth o adgyfodiad yr Arglwydd Iesu, a grâs mawr oedd arnynt hwy oll.
34Canys nid oedd neb yn eu plith, ac eisieu arno, sef pob vn a’r a oedd yn perchennogi tiroedd neu dai, a’u gwerthasant, ac a ddugasant werth y pethau a werthasid,
35Ac a’i gosodasant wrth draed yr Apostolion: a rhannwyd beunydd i bawb yn ôl ei eisieu.
36Yna Ioseph yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr Apostolion (yr hyn yw o’i gyfieithu mab y diddanwch) yn Lefiad, ac o genedl yn Cypriad,
37Ac efe yn berchen tir a’r gwerthodd, ac a ddug yr arian, ac a’i gosodes wrth draed yr Apestolion.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda