Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd yr Apostolion 28

28
PEN. XXVIII.
Y wiber yn brathu Paul, a barn yr estroniaid am hynny. 7 Paul yn iachau tad Publius ac eraill. 16 Paul yn dyfod i mewn i Rufain, 17 Yn dywedyd ei hanes wrth yr Iddewon yno. 23 Yn pregethu y gair i mewn ac allan.
1Ac wedi iddynt ddiangc yn iach i’r lān, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys.
2Ar Barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd-dra nid bychan, o blegit hwy a gynneuasant dân, ac a’n derbynniasant ni oll rhag y gafod gynnyrchiol, a rhag yr oerni.
3Ac wedi cynnull o Paul ddyrnaid o friwydd, ai dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan rhag y gwres, ac a ruthrodd iw law ef.
4A phan welodd y Barbariaid y pryf yn crogi wrth ei law ef: hwy a ddwyedasant wrth eu gilydd, yn siccr llawruddiog yw y dyn ymma, yr hwn er ei ddiangc ar y môr nis gad dialedd i fyw.
5Eithr efe a escydwodd y pryf yn tân ac ni oddefodd ddim niwed.
6Ond yr oeddynt hwy yn disgwil iddo ef chwyddo, a syrthio yn ddisymmwth yn farw, ac wedi darfod iddynt hir ddisgwil, ac heb weled niwed yn digwyddo iddo ef, hwy a newidiasant, ac a ddywedasant, ei fod efe yn Dduw.
7Yng-hylch y man hwnnw yr oedd tyddyn i bennaeth yr ynys, ei enw oedd Publius, yr hwn a’n cymmerth ni dri-diau, ac a’n lleteuodd yn garedig.
8Ac fe a ddigwyddodd, fod tad Publius yn glaf o gryd a gwaedlif, at yr hwn pan aeth Paul i mewn a gweddio, a dodi ei ddwylo arno, efe a’i iachaodd ef.
9Ac wedi gwneuthur hyn, eraill hefyd o’r ynys y rhai yr oedd heintiau arnynt a ddaethant atto, ac hwy a iachawyd.
10Y rhai a’n parchasant ni ag vrddas mawr, ac wrth longi o honom, hwy a’n llwythasant â pethau angenrheidiol.
11Ac ar ben y tri-mis yr aethom mewn llong o Alexandria, yr hon a aiafase yn yr ynys, a’i harwydd hi oedd Castor a Pholux.
12Ac wedi ein dyfod ni i Syracusa y trigasom [yno] dri-diau.
13Ac oddi yno y cyrchasom o amgylch, ac a ddaethom i Rhegium, ac yn ôl vn dydd y chwythodd y dehau-wynt, ac y daethom yr ail dydd i Puteol.
14Yna y cawsom frodyr, ac fe a ddymuned arnom aros gyd â hwynt saith niwrnod, ac felly ni a ddaethom tu a Rhufain.
15Ac oddi yno pan glybu’r brodyr oddi wrthym, hwy a ddaethant i gyfarfod â ni hyd ym marchnad Appiphorum, a’r tair Tafarn, y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Duw, ac a gymmerodd gyssur.
16Eithr pan ddaethom i Rufain, y Canwriad a roddes y carcharorion at y capten uchaf, ond fe adawyd Paul i aros o’r neilldu gyd â milwr yr hwn oedd yn ei gadw ef.
17Ar ben y trydydd dydd fe ddarfu i Paul alw yng-hyd bennaethiaid yr Iddewon, ac wedi eu hymgynnull y dywedodd efe wrthynt (ô wyr frodyr) myfi, er na wnaethym ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, a roddwyd yn garcharor o Ierusalem i ddwylo y Rhufein-wŷr.
18Y rhai wedi darfod fy holi, a fynnasent fyng-ollwng ymmaith, am nad oedd dim achos angeu ynof.
19Eithr am fod yr Iddewō yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i appelio at Cæsar, nid am fod gennif ddim i achwyn ar fyng-henedl.
20Ac am yr achos ymma y gelwais am danoch chwi, i’ch gweled, ac i ymddiddan â chwi, canys am obaith yr Israel i’m rhwymwyd â’r gadwyn hon.
21A hwythau a ddywedasant wrtho, ni chawsom ni na llythyrau o Iudæa am danat, ac ni ddaeth neb o’r brodyr i ddywedyd nac lefaru dim drwg am danat.
22Ond ni a fynnem glywed gennit ti, beth yw dy feddwl, o blegit mae yn yspys gan bawb am y sect hon, fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn hi.
23Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth atto ef iw letty, i’r rhai yr eglurodd ac y testiolaethodd efe am deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau a berthynent am Iesu Grist, o gyfraith Moses, a’r prophwydi, o’r boreu hyd yr hwyr.
24A rhai a gredasant i’r pethau a ddywedasid, ac eraill ni chredâsant.
25A phryd nad oeddynt yn cydgordio yn eu plith eu hunain, ymadel a wnaethant, wedi i Paul ddywedyd y gair hwn, Da yn wir y llefarodd yr Yspryd glân wrth ein tadau drwy Esaias brophwyd:
26Gan ddywedyd, #Esai.6.9. math.13.14. marc.4.12. luc.8.10. ion.12.40. rufein.11.8. dos at y bobl ymma, a dywet, yn clywed y clywch, ac ni ddeallwch, ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch.
27Canys brâs-hawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â’u clustiau, a’u llygaid a gaeasant, rhag iddynt weled â’u llygaid, na chlywed â’u clustiau, na deall â’u calonnau, a dychwelyd fel yr iachawn hwynt.
28Bydded hyspys i chwi, ddanfon iechydwriaeth Dduw i’r cenhedloedd, ac hwy ai gwrandawant.
29A phan ddarfu iddo ddywedyd hyn, yr Iddewon a aethant allan, a llawer o ymrafaelion ganddynt.
30A Phaul a arhoes gwbl o ddwy flynedd yn ei dŷ ardrethol, ac a dderbynniodd bawb a’r a ddaeth i mewn atto,
31Gan bregethu teyrnas Dduw, a dyscu y pethau a berthynent am yr Arglwydd Iesu Grist â phob hyder, heb ei wahardd.
Diwedd Gweithredoedd yr Apostolion.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda