Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2.Machabæaid 12

12
PEN. XII.
2 Timotheus yn blino ’r Iddewon, 3 gweithred annuwiol gwyr Ioppe yn erbyn yr Iddewon a dial ludas arnynt, 9 yr hyn a wnaeth Iudas i’r Iamniaid i’r Arabiaid i’r Caspiaid, 19 i Timotheus ac i Gorgias.
1Wedi gwneuthur yr ammodau hyn Lysias a aeth at y brenin, a’r Iddewon a ymroesant i goledd y ddaiar.
2Ond y tywysogion y lleodd [hynny,] sef, Timotheus, ac Appolonius mab Genneus, hefyd Hieronymus, a Demophon, ac heb law ’r rhain Nicanor pennaeth Cyprus, ni ddiodde­fent iddynt orphywys a gweithio yn llonydd.
3Gwyr Ioppe hefyd a ddibennasant y weithred annuwiol hon, îe, hwy a gynghorasant i’r Iddewon y rhai oedd yn trigo gyd â hwynt ar yddynt hwy ai gwragedd ai plant fyned i long a ddeifeisiassent hwy megis pe buase heb fod creulondeb calon yn eu herbyn hwynt.
4Felly drwy gyfundeb y ddinas y cymmerasant y gyfraith fel gwŷr yn dymuno heddwch, ac heb ddrwgdybied dim hwy a foddasant o honynt wedi iddynt fyned i’r dyfnder nid llai na dau cant o wŷr.
5O herwydd hynny pan glŷbu Iudas wneuthur creulondeb yn erbyn ei genhedlaeth efe a ddangosodd hynny i’r gwŷr oedd gyd ag ef.
6Ac wedi galw ar Dduw y barn-wr cyfi­awn, efe a ddaeth yn erbyn lladdwŷr ei frodyr ac a enynnodd y borthladd o hŷd nôs, ac a loscodd yr yscraffau, ac a laddodd y rhai a ffoasent yno.
7A phan oedd y lle wedi ei gaeu o amgylch efe a aeth ymmaith megis ar fedr dyfod eil­waith a diwreiddio holl bobl gyffredin Ioppe.
8Hefyd pan ddeallodd efe fod yr Iamniaid ar fedr dwyn i ben yr vnrhyw beth yn erbyn yr Iddewon y rhai oeddynt yn trigo gid â hwynt,
9Efe a ddaeth am ben yr Iamniaid o hŷd nôs, ac a loscodd y porthlo a’r llongau yn gymmeint ac i lewyrch y fflam [dân] ymddangos hyd yn Ierusalem, pan safent ddeng-milldir ar hugain oddi wrthi hi.
10A phan aethant oddi yno filldir a hanner cwarter pan oedd yn eu bryd fyned yn erbyn Timotheus y ruthrodd o’r Arabiaid arno ef nid llai na phum mil [o wŷr traed] a phum cant o wŷr meirch.
11A phan ymladdasant yn dôst â rhyfel­wŷr Iudas o achos cymmorth Duw yn llwyddo: y Nomadeaid o Arabia wedi eu gorchfygu a ddeisyfasāt ar Iudas roi eu ddeheulaw iddynt dan addo rhoi iddo anifeiliaid, a bôd yn fuddi­ol iddo ef mewn pethau eraill.
12Ac Iudas yn tybied y byddent fuddiol iddo mewn llawer o bethau a gennadhaodd iddynt heddwch, a phan darawsant ddwylo, hwy a ymadawsant [bawb] iw pebyll,
13Daeth hefyd am ben rhyw ddinas wedi ei chadarnhau â phont, ai chwmpassu â chaerau yr hon a gyfanneddid gan lawer o genhedlaethau cymmyscedig, yr hon a elwid Caspis.
14Ond y rhain am eu bod yn hyderu yng­hadernid eu caeru, ac yn eu stôr o fwydydd, a fuant ddiesceulus, ac a ymserthasant a’r rhai oeddynt gyd ag Iudas, ac ai cablasant hwy, ac a ddywedasant eiriau anghyfreithlawn iw dywedyd.
15Wedi i ryfelwŷr Machabaeus alw ar ben­nadur mawr y byd, yr hwn heb nac offer na defnyddion rhyfel a fwriodd i lawr gaerau Iericho yn amser Iosus, hwy a ruthrasant yn awchus yn erbyn y gaer,
16Ac a orchfygasant y ddinas trwy ewyllys Duw, ac a wnaethant laddfa anguriol, yn gymmeint a bôd llyn ger llaw, yr hwn oedd gwarter mîlldir ô lêd wedi colli gwaed ynddo hyd onid oedd yn llawn.
17Hwy a aethant oddi yno seithcant a dêc a deugain o ystadiau, ac a ddaethant i Characa at y rhai a elwid Iddewon #1.Mac.5.13.Tubin.
18Ond yn wir ni chawsent afel ar Timotheus yn y lleoedd hynny, o blegit efe a aethe ymmaith oddi yno heb ddwyn dim i ben: ond efe a adawse lu mewn rhyw le yn gryf iawn tros ben.
19Dositheus hefyd a Sosipater y capteniaid a oeddynt gyd a Machabaeus a aethant rhagddynt ac a laddasant o’r rhai a adawse Ti­motheus yn y lle [hwnnw] mwy na deng mil o wŷr.
20Machabaeus wedi gosod ei wŷr yn finte­ioedd ai gosododd hwynt ar y minteoedd, ac a ruthrodd ar Timotheus a chyd ag ef gan mil ac vgain mil o wŷr traed, a dwy fil a phum cant o wŷr meirch.
21Ond Timotheus pan ŵybu ddyfodiad Iudas, a ddanfonodd o’r blaen wragedd a phlāt a chlud arall i le a elwir Carnion, o blegit y lle hwnnw oedd anhawdd ei gwmpasu a dyfod i mewn iddo, o achos y cyfyng leoedd o bôb tu.
22A phan ymddangosodd blaen câd Iudas fe a ddaeth ofn ar y gelynion, o blegit y nêb sydd yn gweled pob peth oedd yn bresennol yn dyfod arnynt, ac hwy a ffoesant vn ar vcha ’r llall yn gymmeint ag yn fynych iddynt gael eu clwyfo gan eu pobl eu hunain, ai gwānu â blaen eu cleddyfau eu hunain.
23Am hynny yr erlidiodd Iudas yn dostach, ac y gwanodd efe y rhai halogedic hyd oni laddodd efe yng-hylch deng-mîl ar hugain o wŷr.
24Timotheus ei hunan a syrthiodd yn nwylo Dositheus a Sosipater, a thrwy fawr ddichell a ddeisyfiodd arnynt ei ollwng ef yn rhydd yn fyw, am fod tan ei law ef dadau llaw­er a brodyr rhai, ac y digwydde na bydde gyfrif am y rhai hynny [os lleddid ef.]
25Pan roes efe ei grêd i laweroedd ar iddo ef eu rhyddhau hwynt, hwy ai gollyngasant ef yn rhydd o ran iechydwriaeth eu brodyr.
26Yna yr aeth Machabaeus yn erbyn Carnion, ac Atargation, ac a laddodd bum mîl ar hugain o wŷr.
27Wedi eu gyrru i gilio ai dinistr, efe a werssyllodd yn erbyn Ephron tref wedi ei chadarnhau yn yr hon yr oedd yn trigo gynnu­lleidfeudd o bôb cenedl, a gwŷr ieuaingc grymmus wedi eu gosod i amddeffyn y caerau, lle yr oedd hefyd fawr barodrwydd o offer rhyfel ac arfau.
28Ond wedi iddynt alw ar y pennadur yr hwn sydd yn gadarn yn gwanhau grym y gelynion hwy a gawsant y ddinas yn ddarostyng­edig, ac a laddasant o’r rhai oedd ynddi bum mîl ar hugain.
29Ar ôl hynny y symudasant oddi yno, ac y ruthrasant yn erbyn Seythopolis yr hon sydd oddi wrth Ierusalem chwe chant ystad.
30Ond wedi i’r Iddewon y rhai oeddynt yno yn presswylio destiolaethu drostynt, mor dda oedd, ewyllys y Seythopoliaid tu ag attynt, ac mor dda oedd eu hymwared hwynt tu ag attynt yn eu blin-fyd.
31Gan roddi diolch iddynt, hwy a ddeisy­faisāt arnynt fod yn gymmwynascar iw cenedl rhag llaw, ac am fod yn gyfagos ŵyl yr wythnosau hwy a ddaethant i Ierusalem.
32Ac wedi yr wyl a elwir Pentecost hwy a ruthrasant ar Gorgias capten Idumaea.
33Ac a aethant rhagddynt â their mil o wŷr traed, ac â phedwarcant o wŷr meirch.
34A phan ymladdasant yn ei erbyn ef, ymhell vn o’r Iddewon a laddwyd.
35Dositheus hefyd rhyw farchog o lu Ba­cenor o wr grymmus, pan ddaliodd efe Gorgias, efe ai lluscodd ef yn rymmus erbyn ei gochl, ai ewyllys ar ddal y gwr melldigedig hwnnw, ond fe ddaeth arno ef ryw ŵr march o Thracia ac a dorrodd ymmaith ei yscwydd ef felly y diangodd Gorgias i Maresa.
36A phan oedd y rhai oeddynt o amgylch Esryn yn ddeffygiol i ymladd chwaneg, Iudas a alwodd ar yr Arglwydd ar iddo ef ym­ddangos yn helpwr, yn gapten, ac yn flaenor i’r gâd.
37Ac efe a ddechreuodd lef gymmyscedig a psalmau yn iaith ei wlâd, ac a ddaeth yn ddisymmwth am ben rhyfelwŷr Gorgias, ac ai troes hwy i gilio.
38Felly Iudas dan gasclu ei lu a ddaeth i ddinas a elwyd Odola, yn yr hwn le pan ddaeth y seithfed dydd, fel yr oedd yr arfer, hwy ai glanhausant eu hunain, ac a gadwasant y dydd Sabboth yn y lle hwnnw.
39Yr ail dydd fel yr oedd anghenraid y daeth y rhai oeddynt gyd ag Iudas i ddwyn ymmaith gyrph y rhai a laddasid, ac iw claddu hwynt gyd ai cyfneseifiaid ym meddau eu tadau.
40Hwy a gawsant tan beisiau pob vn o’r rhai a lladdasid bethau wedi eu cyssegru i ddelwau ’r Iamniaid y rhai oedd waharddedig i’r Iddewon yn ôl y gyfraith yn gymmeint a bôd yn ysbys i bawb gael o’r rhai hyn eu lladd o achos hynny.
41Yna pawb a roes ddiolch i’r Arglwydd y barnwr cyfiawn, yr hwn sydd yn gwneuthur pethau cuddiedig yn amlwg.
42Hwy a droasant at eu gweddi, ac a ddeisyfiasant ar Dduw ddileu yn gwbl y pechod a wnaethant: ac Iudas yn nerthol a gynghorodd i’r gynnulleidfa ymgadw yn lân oddi wrth bechod, gan iddynt weled ai llygaid y pethau a ddaethe i benn am bechod y rhai a laddasid.
43Ac wedi iddo ddarpar treth o ddwyfil o ddragmau o arian, efe a ddanfonodd i Ierusalem i offrymmu dros y pechod: gan wneuthur yn dda ac yn onest, o achos ei fod yn meddwl am yr adyfodiad.
44O blegit oni buase iddo ef obeitho adcyfo­diad y rhai a laddesid, gwaith ofer fuase weddio tros y meirw.
45Yna y deallodd efe fôd taledigaeth yng­hadw i r rhai a fuasent feirw yn dduwiol.
46Sanctaidd a duwiol oedd y meddwl trwy yr hwn y gwnaeth iawn tros y meirw fel y rhyddheid hwy oi pechod.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda