Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2.Machabæaid 10

10
PEN. X.
1 Iudas Machabaeus yn ennill trachefn y ddinas a’r Deml. 10 Gweithredoedd Eupator. 16 Yr Idde­won yn ymladd yn erbyn yr Idumeaid. 24 Timotheus yn gorescyn Iudaea, yn erbyn yr hwn y mae Iudas yn rhyfêla. 29 Pum gwr sydd yn ymddangos yn yr awyr i helpu yr Iddewon. 37 Lladdiad Timotheus.
1Machabaeus hefyd a’r rhai oeddynt gyd ag ef, drwy fôd yr Arglwydd yn llywydd [iddynt] a ennillodd trachefn y ddinas a’r Deml.
2Ac hwy a fwriasant i lawr yr allorau a’r Cappelau a wnaethe yr cenhedloedd yn yr heolydd.
3Ac wedi glanhau ’r Deml, hwy a weithiasant allor arall: ac wedi iddynt daro tân allan o gerrig tanllyd, hwy a offrymmasant aberth yn ôl dwy flynedd, ac a arlwyasant arogl-darth a Iusernau, a bara gosot.
4Wedi hynny hwy a attolygasant i’r Arglwydd gan syrthio i lawr ar eu hwynêbau, na bydde iddynt mwyach syrthio mewn cyfryw ddrygau: ond os pechent trachefn vn amser, bod iddo ef ei hun eu cospi drwy drugaredd, ac nas rhodde ddim o honynt mwy i’r cablaidd a’r creulon genhedloedd.
5A’r dydd hefyd yr halogasid y Deml gan y dieithraid, y digwyddodd gwneuthur puredigaeth y Deml yr vn dydd, sef y pummed dydd ar hugain o fis Casleu.
6Hwy a gadwasant â llawenydd tros wyth niwrnod ddydd gwyl y pebyll, gan gofio fel y gorfase iddynt ychydig o’r blaen gadw gŵyl y pebyll yn y mynyddoedd a’r ogfeuydd yn ôl modd anifeiliaid.
7Am hynny hwy a gymmerasant ganghenau îr, a cheingciau hardd, a blodau, ac a ganasant psalmau i’r hwn a roddase iddynt rwydd­deb i lânhau ei fangre [ei hun.]
8Hwy a ordeiniasant hefyd drwy gyffredin orchymyn a deddf ym mysc hôll genedl yr Iddewon, gadw y dyddiau hyn [yn ŵyl] bôb blwyddyn.
9Ac fel hyn y bu ddiwedd Antiochus a gyfenwid Epiphanes.
10Weithian hefyd ni a fynegwn y pethau a wnaethpwyd yn amser Eupator Antiochus yr hwn ydoedd fâb yr annuwiol hwnnw) gan dalfyrru yng-hŷd y beunyddiol ddrygau y rhai oblegit rhyfêloedd a ganlynasant.
11Canys hwn wedi cymmeryd arno y deyrnas a seiniodd ryw vn a elwid Lysias, i fod yn olygwr ar [ei] faterrion, yr hwn a fuase yn gapten pennaf o Caeles Syria a Phenicia.
12Canys Ptolomeus yr hwn a henwasid Macron (ai fryd ar wneuthur cyfiawnder a’r Iddewon, o blegit y cam a wnaethe iddynt) a aeth yng-hylch dwyn eu materion hwy i benn yn heddychol.
13Am hynny efe a gyhuddwyd ger bron Eupator gan ei geraint, ac efe a alwyd yn fynych yn fradychwr, o blegit gadel o honaw Cyprus, yr hon a roddase Philometor yn ei gadwriaeth ef, a myned o honaw at Antiochus Epiphanes: am hynny pan weled nad ydoedd mewn bri ardderchog, efe a gymmerth wenwyn, ac ai gwenwynodd ei hun, ac a fu farw.
14Ond pan wnaethwyd Gorgias yn ben llywydd y lleoedd hyn, efe a groesawodd estro­niaid, ac a ryfelodd yn fynych yn erbyn yr Idde­won.
15Yr Idumeaid hefyd a gytunasant ag ef, ac a flinent yr Iddewon, gan ennill y lleoedd cedyru, a thrwy derbyn y rhai a yrrid ar herw o Ierusalem hwy a ymroddasant i gadw rhyfel.
16Am hynny y rhai oeddynt gid â Macha­baeus drwy weddio a ddeisyfasant ar Dduw fod yn gymmorthwr iddynt, ac yna hwy a ruthrasant ar gedyrn leoedd yr Idumeaid.
17I’r rhai pan redasant yn rymmus, hwy a wnaethpwyd yn gyfrannogion o’r lleoedd, ac wedi iddynt ddial ar yr hôll rai a oeddynt ar y gaer hwy a laddasant y rhai a gyfarfyddent, ac a ddienaidasant nid llai nag vgain mil.
18Canys pan gyd-ffoese naw mil o’r lleiaf i ddau dŵr cadarn tros ben, gan fod ganddynt bôb peth ang-henrheidiol er gwarchau,
19Machabaeus a adawodd Simon ac Ioseph a Zaccheus hefyd, a’r rhai oeddynt gid ag hwynt i amgylchu [y tŷrau,] ac efe a aeth ei hun lle yr oedd mwy o eisieu.
20Ond y rhai oeddynt gyd â Simon, am eu bod yn chwannog i arian, a lygrwyd ag arian gan y rhai oeddynt yn y tyrau: ac wedi cymmeryd dêng mîl a thrugain drachmau hwy a ollyngasant rai i ffoi.
21Yr hwn beth pan fynegwyd i Machabaeus efe a gynhullodd yng-hyd bendefigion y bobl, ac a gwynodd arnynt hwy ddarfod iddynt werthu eu brodyr am arian, gan ollwng eu gelynion yn eu herbyn hwynt.
22Am hynny efe ai lladdodd hwynt wedi eu tittio o draeturiaeth, ac yn ddisymmwth efe a ennillodd y ddau dŵr hynny.
23Ac efe a arferodd yr arfau y rhai oeddynt yn [eu] dwylo yn llwyddiannus, ac a laddodd fwy nac vgain mil yn y ddau le hynny.
24Timotheus hefyd yr hwn a ddarfuase i’r Iddewon ei orch-fygu o’r blaen, wedi casclu llawer o luoedd dieithr a llawer o wŷr meirch o Asia, a ddaeth yno ar fedr ennill Iudaea wrth arfau.
25Ond y rhai oeddynt gyd a Machabeus, pan ydoedd yn nessau, a droesont i weddio-ar yr Arglwydd,
26Gan danu pridd ar eu pennau, a gwre­gysu eu lwynau â lliensach, a syrthio ar eu hwynebau i’r llawr wrth droed yr allor, ac a attoly­gasant iddo drugarhau wrthynt, a bod yn elyn iw gelynnion, a gwrthwynebu eu gwrthwyneb-wŷr, megis ac y mynêga y gyfraith.
27Ac wedi diweddu eu weddi, hwy a gymmerasant eu harfau, ac a aethant ym mhellach oddi wrth y ddinas, a phan ddaethant yn agos at eu gelynnion hwy a gymmerasant ofal am danynt eu hun.
28Ac er cyntedd yr ymddangosodd cyfodiad haul, hwy a aethant bob vn yng-hŷd: y naill ran a’r Arglwydd ganddynt yn noddfa, ac yn ŵystyll llwyddiant, a buddugoliaeth ardder­chog, a’r lleill yn gosod calondid yn llywydd rhyfel.
29A thra ’r oedd y gâd yn dost fe a ymddangosodd i’r gelynnion o’r nef bum gŵr hardd­wychion, yn eistedd ar feirch a ffrwynau aur, a dau [o honynt] yn blaenori’r Iddewon.
30Y rhai gan gymmeryd Machabeus erbyn ei ganol ai gwiscasant ai barfau rhai ydoedd am danynt, ai cadwasant yn ddiniwed: ac a saethasant bicellau a mellt yn erbyn y gelynnion: am hynny wedi eu gwascaru â dallineb, hwy a syrthiasant i lawr yn llawn blinder.
31Am hynny y lladdwyd o wŷr traed vgain mil a phymp cant, ac o wŷr meirch chwe-chant.
32Ond Timotheus hwnnw a ffôdd i Ga­zara yr hon a elwid yn lle cadarn, lle yr ydoedd y pen llywydd Chereas.
33Ond mil-wŷr Machabeus a ymgylchynasant y lle hwnnw yn galonog bedwar diwr­nod ar hugain.
34Ond y rhai oeddynt oddi mewn yn ym­ddyried yng-hadernid y lle [hwnnw] a gablasant yn ddirfawr, ac a ddywedasāt eiriau ffîaidd.
35Pan oleuodd hi y pummed dydd ar hugain, gwŷr ieuaingc y rhai oeddynt gyd â Machabeus, yn llosci yn eu meddyliau o blegit y gabledd, a ddaethant at y gaer, ac a laddasant yn ŵrol â chalon egnius bôb vn a gyfarfyddent â hwynt.
36Eraill hefyd a ddringasant oddi amgylch yn erbyn y rhai oeddynt oddi mewn, ac a loscasant y tyrau, ac wedi cynneu tân hwy a loscasant y cabl-wŷr yn fyw.
37Yn ddiweddaf rhai eraill a dorrasant y pyrth, ac a dderbyniasant i mewn weddill y llu, ac a ennillasant y ddinas, ac a laddasant Timotheus yr hwn ydoedd wedi ymguddio mewn rhyw ffôs, efe ai frawd Chereas, ac Apollopha­nes.
38Wedi darfod iddynt wneuthur y pethau hyn hwy a foliannasant yr Arglwydd â chaniadau, ac a mawl, yr hwn ag ardderchog ddaioni a helpase Israel, ac a roddase iddo oruchafiaeth.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda