Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2.Machabæaid 1

1
PENNOD. I.
Yr Iddewôn y rhai oeddynt yn aros yn Ierusalem yn aufō llythyr at eu ceraint y rhai oeddynt yn yr Aipht i attolwg iddynt hwy roddi diolch i Dduw am farwo­laeth Antiochus. 19 Am y tân a guddiasid yn y ddaiar. 24 Gweddi Nehemias.
1Y mae y brodyr Iddewôn y rhai ydynt yn Ierusalem ac yng-wlâd Iudaea yn cyfarch ac yn annerch y brodyr o Iddewon y rhai ydynt yn yr Aipht.
2Duw a wnelo ddaioni i chwi ac a gofio ei gyfammodd yr hwn a wnaeth efe ag Abraham, ag Isaac, ac ag Iacob ei ffyddlon weision,
3Ac a roddo galon i chwi oll iw wasanaethu ef, ac i wneuthur ei ewyllys ef â chalon gwbl ac â meddwl ewyllyscar,
4Ac a agoro eich calon chwi iw gyfraith ai orchymynnion, ac a bar o dangnheddyf,
5A wrandawo ar eich gweddiau chwi, a gymmodo â chwi, ac nich gadawo byth yn amser adfyd.
6Ac yn awr yr ydym ni yn gweddio ymma trosoch chwi.
7Pan deyrnasodd Demetrius yn y naw­fed flwyddyn a thrugain a chant: nyni yr Idde­won a scrifennasom atoch chwi am y blinder a’r gorthrymder a ddaeth arnom ni o fewn y blynyddoedd hynny, wedi myned Iason a’r rhai ceddynt gyd ag ef o’r wlâd, a’r frenhiniaeth sanctaidd,
8Hwy a loscasant y porth, ac a dywalltasant waed gwirion: ninau a weddiasom at yr Arglwydd, ac a gawsom ein gwrando, ac a offrymmasom ebyrch a pheillied, ac a oleuasom lusernau, ac a osodasom y bara.
9Am hynny yn awr cedwch chwithau ddyddiau gŵyl y pebyll yn y mîs. Casleu.
10Yr wythfed flwyddyn a phedwar vgain a chant y bobl oeddynt yn Ierusalem, ac yn Iudaea a’r cyngor ac Iudas sydd yn dymuno llwyddiant, ac iechyd i Aristobulus athro y brenin Ptolemeus yr hwn sydd o hiliogaeth yr offeiriaid enneiniog, ac i’r Iddewon yn yr Aipht.
11Yn gymmeint a bôd i Dduw ein gware­du oddi wrth fawr beryglon, yr ydym yn rhoddi mawr ddiolch iddo, megis pe gorchfygasem y brenin.
12Canys efe ai dug hwynt i Persia yn dyrfau, y rhai a ymladdasant yn erbyn y ddinas sanctaidd.
13Canys pan oedd y capten [yno] â llu a dybbid yn anorchfygol, fe ai lladdwyd hwy yn nheml Nanea drwy ddichell offeiriad Na­nea.
14Canys Antiochus a ddaeth yno ai fryd ar aros gyd â hi, efe, ai geraint gyd ag ef, i dderbyn arian yn enw cynhyscaeth.
15Ond wedi i offeiriaid Nanea eu rhifo, a myned o honaw i mewn i’r deml heb nemor gyd ag ef, hwy a gaeasant y deml, wedi dyfod Antiochus i mewn,
16Ac a agorasant ddrws dirgel ar y deml, ac a daflasant gerrig megis taran ar y capten ai wŷr, ac wedi eu dryllio yn ddarnau, hwy a dorrasant eu pennau, ac ai taflasant at y rhai oeddynt oddi allan.
17Bendigedig fyddo Duw ym mhob peth, yr hwn a roddes i fynu yr annuwiol.
18Gan ein bod ni a’n brŷd ar gadw puredigaeth y deml ar y pummed dydd ar hugain o fis Casleu, ni a welsom fôd yn anghenrheidiol fynegu hyn i chwi: fel y gallech chwithau hefyd gadw dydd gŵyl y pebyll, a gŵyl y tân [yr hwn a roddwyd i ni] pan offrymmod Nehemias aberth wedi iddo adeiladu y deml a’r allor.
19Canys yn y cyfamser yr arwenwyd ein tadau i Persia, yr offeiriaid addolwŷr Duw y pryd hynny a gymmerasant y tân yn ddirgel oddi ar yr allor, ac ai cuddiasant mewn dyffryn, lle yr oedd pydew dwfn a sych: ac yno y cadwasant, fel nas gŵydde neb y man hwnnw.
20Yn awr wedi llawer o flynyddoedd, pan welodd Duw yn dda, Nehemias (pan yrrwyd ef oddi wrth frenin Persia) a yrrodd ŵyrion yr offeiriaid hynny y rhai a guddiase ’r tân, iw geisio: ac fel y mynegasant wrthym, ni chawsant ddim tân ond dwfr tew.
21Yna y gorchymynnodd efe iddynt ei gyrchu i fynu, ai ddwyn etto ef: ac wedi gosod yr aberthau Nehemias a orchymynnodd i’r offeiriaid daenellu y dwfr ar y coed a’r aberthau.
22Wedi darfod hyn, a dyfod yr amser i’r haul i lewyrchu, yr hwn o’r blaen oedd dan gwmwl, fe enynnodd tân mawr, yn gymmeint ac i bawb ryfeddu.
23Ac tra ’r oeddyd yn gwasanaethu ’r a­berth, yr holl offeiriaid oeddynt yn gweddio, Ionathas yn gyntaf a’r lleill yn atteb fel Nehemias.
24A’r weddi oedd fel hyn: ô Arglwydd Dduw gwneuthurwr pob pêth, yr hwn wyt ofnadwy a chadarn, cyfiawn a thugarog, a’r hwn wyt vnic Frenin eneiniog,
25Ti yn vnic wyt hael, iniawn, holl alluog, a thragywyddol, ti yr hwn wyt yn gwaredu Israel oi holl flinder, yr hwn a echolaist y tadau, ac ai sancteiddiaist hwy,
26Derbyn aberth dros dy holl bobl Israel, cadw dy ran, a sancteiddia hi.
27Cascl ein gwascaredion, a gwaret y rhai ŷnt yn gwasanaethu y cenhedloedd: edrych ar y dirmygus a’r ffiaidd, fel y gwybyddo y cēhedloedd mai ty di yw ein Duw ni.
28Cospa ein gorthrym-wŷr, a’r rhai ŷnt drwy falchedd yn gwneuthur cam â ni.
29Gosot dy bobl yn dy le sanctaidd, #Deut.30.5.megis y llefarodd Moses.
30Yr offeiriaid hefyd a ganent psalmau, [tra oeddyd yn gwasanaethu ’r aberth.]
31Hefyd pan ddarfu gwasauaethu ’r aberth, Nehemias a orchymynnodd gymmeryd o weddill y dwfr, a thaenellu y cerrig mwyaf.
32Yr hwn beth pan wnaethpwyd, fe a ennynnodd fflam o honynt: ond hi a ddiffoddwyd gan y goleuni yr hwn oedd yn llewyrchu oddi ar yr allor.
33Pan ddatcuddiwyd y peth hyn, fe a fynegwyd i frenin Persia, mai yn yn fan (lle y cuddiase’r offeiriaid a arwenesid ymmaith y tân) yr ymddangosodd dwfr, â’r hwn y purodd Nehemias a’r rhai oeddynt gyd ag ef ebyrth.
34Y brenin a ystyriodd, ac a chwiliodd y peth yn ddyfal, ac a amgylchynodd y lle oi amgylch, ac ai gwnaeth yn sanctaidd.
35Ac i’r rhai a gare y brenin, y rhoes roddiôn lawer.
36A Nehemias a alwodd y fan honno Ephtar, yr hwn yw oi ddeongl puredigaeth, ond llawer rhai ai galwant Nephthar.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda