Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1.Machabæaid 14

14
PEN. XIIII.
Arsaces yn peri dal Demetrius, 4 Clôd Simon, 18 ai gymydeithas ef â’r Rhufeiniaid, ac â’r Spartiaid.
1AC yn y ddeuddecfed flwyddyn a thrugain a chant y casclodd y brenin Demetrius ei luoedd, ac efe a aeth i Media i gasclu iddo gymmorth i ryfela yn erbyn Tryphon.
2Pan glybu Arsaces brenin Persia a Media ddyfod Demetrius i fewn ei derfynau ef, efe a anfonodd vn oi dywysogion iw ddal ef yn fyw
3A hwnnw a aeth, ac a darawodd werssyll Demetrius, ac ai daliodd ef, ac ai dug ef at Ar­saces, ac yntef ai gosododd ef yng-harchar.
4A’r tîr a gafodd lonydd holl ddyddiau Simon: canys efe a geisiodd ddaioni iw genedl, a bodlon oedd ganddynt ei awdurdod ef ai anrhydedd yr holl amser.
5Simon hefyd heb law ei anrhydedd a ennillod Ioppe yn borthladd, ac a wnaeth fford i ynysoedd y môr.
6Ac efe a helaethodd derfynau ei genedl, ac a ennillodd iddynt dîr.
7Hefyd efe a gasclodd gaethglud mawr, ac a feddiannodd Gazuris a Bethsura a’r tŵr, ac a dynnoedd yr aflendid allan o honi hi, ac ni oedd a safe yn ei erbyn ef.
8Felly yr oeddynt hwy yn coledd eu tîr yn heddychlon, a’r ddaiar a rodde ei chnwd, a choed y maes eu ffrwythau.
9Yr henuriaid a eisteddent yn yr heolydd, am ddaioni yr ymgynghorent hwy oll, a’r gwŷr ieuaingc a wiscent anrhydedd a gwiscoedd rhyfel.
10Efe a roddes ymborth i’r dinasoedd, ac ai trefnodd hwynt ag offer cadernid, hyd oni sonnid am ei enw anrhydeddus ef hyd eithafoedd y ddaiar.
11Efe a wnaeth heddwch ar y ddaiar fel y cafodd Israel lawenydd mawr.
12Pob vn a eistedde tann ei winwŷdden ai figus-bren, ac nid oedd ai hofne hwynt.
13Darfu pawb a oedd yn rhyfel yn eu herbyn hwynt ar y ddaiar, a’r brenhinoedd a ddini­striwyd yn y dyddiau hynny.
14Hefyd efe a gadarnhâodd bob vn gostyngedic oi bobl, efe a chwiliodd allan y gyfraith, ac a dynnodd ymmaith bob annuwiol a drygionus.
15Efe a barchodd y cyssegr, ar a amlhâodd lestri y cyssegr.
16Ac hwy a glywsant yn Rhufain farw Ionathas, ac hyd Sparta hefyd, a thrist iawn fu ganddynt.
17Ond pan glywsant hwy mai Simon ei frawd ef a wneithid yn arch-offeiriad yn ei le ef, ac ennill a honaw ef y wlad a’r dinasoedd y rhai oeddynt ynddi:
18Hwy a scrifennasant atto ef mewn lle­chau prês i adnewyddu ag ef y gyfeiliach a’r gydymdeithas a wnaethant hwy ag Iudas, ac ag Ionachas ei frodyr ef.
19Ac hwy a ddarlennwyd o flaen y gynnulleidfa yn Ierusalem.
20Ac dymma goppi y llythŷrau y rhai a anfonodd yr Spartiaid: TYWYSOGION di­nas yr Spartiaid yn cyfarch yr arch-offeiriad Simon, a’r henuriaid, a’r offeiriaid a’r rhan arall or’ brodyr pobl yr Iddewon:
21Y cennadon a anfonwyd at ein pobl ni a fynegasant i ni am eich gogoniant, a’ch parch chwi, a llawen fu gennym eu dyfodiad hwynt.
22Ac ni a scrifennasom yr hyn a ddywedasant hwy ym mysc cynghorion y bobl fel hyn: NVMENIIIIS [mab] Antiochus, ac Antipater [mab] Iason cennadau yr Iddewon a ddaethant attom ni i adnewyddu cyfeillach â ni.
23A bodlon oedd y bobl i dderbyn y gwŷr yn anrhydeddus, ac i scrifennu coppi oi hyma­drodd hwynt yn hynod lyfrau y bobl, fel y cae pobl yr Spartiaid goffadwriaeth: ac hwy a scri­fennasant goppi o hyn at Simon yr arch-offeiriad.
24Wedi hyn fe a anfonodd Simon Numenius i Rufain â tharian mawr o aur ganddo o bwys mil o bynnoedd i wneuthur chyfeillach â hwynt.
25A phan glybu y bobl y geiriau hyn, hwy a ddywedasant: pa ddiolch a roddwn ni i Simon, ac iw feibion:
26O blegit [yr eiddo] a gadarnhaodd efe, ai frodyr, a thŷ ei dad, ac hwy a ddinistriasant elynnion Israel oi mysc: am hynny hwy a osodasant iddo ef rhydd dyd, ac ai scrifennasant mewn llechau prês, ac ai gosodasant ar golofnau ym mynydd Sion.
27Ac dymma goppi yr scrifen: Y DEVNAWFED dydd o Elul y deuddefed flwyddyn a thrugain a chant, ac dymma y drydedd flwyddyn er pan yw Simon yn arch-offeiriad yn Saramel.
28Mewn cyfarfod mawr o offeiriaid, a phobl, a thywysogion y genedl, ac henuriaid y wlâd, yr yspyswyd i ni mai mynych y bu rhyfel yn y wlad.
29A Simon mab Mattathias o feibion Iarib ai frodyr a ymroddasant i’r perigl, ac a safasant yn erbyn gwrthwyneb-wŷr eu cenedl, fel y parhae eu cyssegr a’r gyfraith, ac hwy a anrhydeddasant eu cenedl ag anrhydedd mawr.
30Canys Ionathas a gasclodd eu cenedl hwynt, ac a fu yn arch-offeiriad iddynt, ac a doddwyd at ei bobl.
31Ai gelynion hwynt a fynnasent ddyfod i fynu iw gwlâd hwynt i ddifetha eu gwlâd hwynt, ac i estyn eu dwylo yn er hyn eu cyssegr hwynt.
32Yna y cyfododd Simon, ac a ryfelodd tros ei genedl, ac a dreuliodd lawer oi arian ei hun, ac a arfogodd wŷr nerthol oi genedl, ac a roddes iddynt hwy gyflog.
33Ac efe a gadarnhaodd ddinasoedd Iudaea, a Bethsura yr hon sydd yng-hyffiniau Iudaea, lle yr oedd arfau y gelynnion o’r blaen, ac efe a osododd yno wŷr o Iddewon i warchod.
34Felly y cadarnhâodd efe Ioppe yr hon sydd wrth y môr, a Gazara yr hon sydd yng-hyffiniau Azotus lle yr oedd y gelynnion yn aros o’r blaen: ac efe a osododd Iddewon yno, ac a osododd yno pa bethau bynnag oeddynt gymmwys i gospi [y gelynnion] hyn.
35A phan welodd y bobl ffyddlondeb Simon a’r anrhydedd yr oedd efe yn amcanu ei wneuthur iw genedl, hwythau ai gosodasant ef yn gapten, ac yn arch-offeiriad am iddo ef wneuthur hyn oll, sef y cyfiawnder a’r ffyddlondeb a gadwase efe iw genedl, a cheisio o honaw ef dderchafu ei bobl trwy bob modd.
36Ac yn ei ddyddiau ef y bu llwyddiant mawr oi achos ef, yn gymmaint a bwrw allan oi gwlad hwynt y cenhedloedd y rhai oeddynt yn ninas Ddafyd, ac yn Ierusalem, y rhai a wnaethent iddynt dŵr, allan o’r hwn y deuent, ac yr halogent o amgylch y cysegr, ac y gwnaent ddialedd mawr yn erbyn sancteiddrwydd.
37Ac efe a osododd ynddi hi wŷr o Idde­won, ac ai cadarnhâodd hi yn ddiogelwch i’r wlad, ac i’r ddinas, ac a gododd gaerau Ierusalē
38A’r brenin Demetrius a roddes yr arch-offeiriadaeth iddo ef yn hollawl.
39Ac efe ai gwnaeth ef oi garedigion, ac ai anrhydeddodd ef ag anrhydedd mawr.
40O blegit fe a glywsid fod y Rhufein­wŷr yn galw yr Iddewon yn gyfeillion, ac yn gymdeithon, a chyfarfod o honynt â chennadau Simon yn anrhydeddus.
41A gweled o’r Iddewon yn dda a’r offeiriaid hefyd fod Simon yn gapten iddynt, ac yn arch-offeiriad byth, hyd oni chode prophwyd ffyddlon.
42Ai fod efe yn gapten arnynt hwy, ac i ofalu am y cyssegr, fel y gosode efe rai ar eu gwaith hwynt, ac ar y wlad, ac ar yr arfau, ac ar y cestill.
43Ac fel y bydde arno ef y gofal am y cyssegr, ac y gwrandawe pawb arno ef, ac fel yr scrifennid pob scrifen yn y wlad yn ei enw ef, ac fel y gwisce efe borphor, ac y dyge aur.
44Am hynny ni bydd gyfreithlon i neb o’r bobl nac o’r offeiriaid ddiddymmu dim a hyn, na dywedyd yn erbyn dim a ddywedd efe, na galw cymmanfa yng-hyd yn y wlad hebddo ef, na gwisco porphor, nac arfer cadwyn aur.
45A phwy bynnag a wnelo yn erbyn hyn, neu a ddiddymmo ddim o hyn euog fydd efe.
46A bodlon oedd gan yr holl bobl osod Simon i wneuthur fel hyn.
47Simon hefyd a gymmerodd [hyn,] ac a fu fodlon i fod yn arch-offeiriad, ac yn gapten, ac yn dywysog ar genedl yr Iddewon a’r offeiriaid, ac i lywodraethu pawb.
48Ac hwy a barasant osod yr scrifen hon mewn llechau prês,
49Ai gosod hwynt ar y mur yr hwn oedd o amgylch y cyssegr mewn lle hynod: a gosod coppi o hynny yn y tryssor-dŷ, fel y galle Simon ai feibion ei gael ef.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda