Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1.Machabæaid 12

12
PEN. XII.
Ionathas yn gynu i Rufain, ac i Sparta i adnewyddu ca­redigrwydd rhyngddo â hwynt. 20 Ac yn gorchfygu tywysogion Demetrius, 40 Tryphon yn dala Ionathas trwy dwyll.
1AC Ionathas a welodd fod yr amser yn gwasanaethu iddo ef, ac efe a etholodd wŷr, ac a anfonodd i Rufain i wneuthur, ac i adnewyddu cyfeilach â hwynt.
2At yr Spartiaid hefyd, ac i leoedd eraill, yr anfonodd efe lythŷrau ar yr vn destyn.
3Ac hwy a aethant i Rufain, ac a ddaethant i’r cyng-hordŷ ac a ddywedasant, Ionathas yr arch-offeiriad a chenedl yr Iddewon ’an hanfonodd ni i adnewyddu iddynt gyfeillach a chydymdeithas megis o’r blaen.
4Ac hwy a roddasant iddynt hwy lythŷrau at y bobl o le i le, a’r fod iddynt eu hāfon hwynt i dir Iuda yn heddychlon.
5Dymma hefyd goppi o’r llythyr yr hwn a scrifennodd Ionachas at yr Spartiaid.
6Ionathas yr arch-offeiriad, a henuriaid y genedl, a’r offeiriaid, a’r rhan arall o bobl yr Iddewon ydynt yn cyfarch y brodyr yr Spartiaid.
7Cyn hyn fe a anfonwyd llythyrau at yr arch-offeiriaid Onias oddi wrth Darius yr hwn oedd yn frenin arnoch chwi, mai ein brodyr ni ydych chwi fel y mae y coppi yn cynnwys.
8Ac Onias a dderbyniodd y gŵr a anfonasid yn anrhydeddus, ac a dderbyniodd y llythŷrau yn y rhai yr yspysasid am gyfeillach a chydymdeithas.
9Felly ninnau (er nad yw raid i ni wrth hyn, am fod gennym y llyfrau sanctaidd y rhai ydynt yn ein dwylo yn gyssur)
10A Brofasom anfon attoch chwi i adnewyddu brawdoliaeth, a chyfeillach, rhag eich myned yn ddieithr i ni: o blegit llawer o amser a aeth heibio, er pan anfonasoch attom ni.
11Am hynny yr ydym ni bob amser yn oestadol ar y gŵyliau a’r dyddiau cyfleus eraill yn eich cofio chwi yn yr aberthau y rhai yr ydym ni yn eu hoffrymmu, ac mewn gweddiau, megis y mae yn weddaidd ac yn gymmwys cofio brodyr.
12Ac yr ydym ni yn llawen am eich anrhydedd chwi.
13Eithr llawer o drallod, a rhyfeloedd lawer a’n hamgylchynasant ni, a’r brenhinoedd y rhai ydynt o’n hamgylch a ryfelasāt i’n herbyn.
14Nid ydym ni chwaith yn ewyllysio eich blino chwi yn y rhyfeloedd hyn, na’n cydym­deithion a’n cyfeillion eraill:
15O herwydd y mae gennym ni gymmorth o’r nefoedd yr hwn sydd yn ein cymmorth ni, ac ni a waredwyd oddi wrth ein gelynion, a’n gelynion a ostyngwyd.
16Am hynny nyni a etholasom Numenius fab Antiochus, ac Antipater fab Iason, ac a anfonasom at y Rhufeiniaid i adnewyddu y gyfeillach, a’r gymdeithas gyntaf â hwynt.
17Felly y gorchymynnasom iddynt hefyd ddyfod attoch chwithau, a’ch cyfarch, a rhoddi i chwi ein llythyrau ni am adnewyddu ein brawdoliaeth ni.
18Ac yr awron chwi a wnewch yn dda ar atteb i ni am hyn.
19Ac dymma goppi y llythrau a anfonasant hwythau.
20Oniares brenin yr Spartiaid yn cyfarch Onias yr arch-offeiriad.
21Yr ydys yn cael mewn scrifen am yr Spartiaid a’r Iddewon mai brodyr ydynt hwy ai bod o genedl Abraham:
22Ac yn awr gan i ni ŵybod hyn, da y gwnaethoch scrifennu attom ni am eich heddwch.
23Yr ydym ninnau yn scrifennu attoch chwithau, eich anifeiliaid chwi a’ch golud sydd eiddom ni, a’r eiddom ninnau yn eiddoch chwi: ac yr ydym ni yn gorchymyn iddynt hwy fynegu i chwi fel hyn.
24Ac Ionathas a glybu ddychwelyd tywysogion Demetrius a llu mwy na’r cyntaf i ryfela yn ei erbyn ef,
25Ac efe a aeth allan o Ierusalem, ac a aeth i gyfarfod â hwynt i wlâd Hemath, ac ni roddes efe iddynt yspaid i ddyfod iw wlâd ef.
26Ac efe a anfonodd spiwŷr iw werssyll ef, ac hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo mai felly yr oeddynt hwy yn amcanu rhuthro arnynt hwy liw nos.
27Ac Ionathas pan fachludodd haul a archodd i’r rhai oeddynt gyd ag ef wilied, a bod mewn arfau i fod yn barod i ryfel ar hŷd y nos, ac efe a osododd geidwaid o amglych y gwerssyll.
28A’r gwrthwynebwŷr a glywsant fod Ionathas a’r rhai oeddynt gyd ag ef yn barot i ryfel, ac hwy a ofnasant, ac a ddechrynnasant yn eu calon, ac a gynneuasant dân yn eu gwerssyll.
29Ond Ionathas a’r rhai oeddynt gyd ag ef ni wybuant hyd y boreu: o begit hwy a welent ganhwyllau yn llosci.
30Ac Ionathas a ymlidiodd ar eu hôl hw­ynt, ac ni’s goddiweddodd hwynt: o blegit hwy a aethant tros yr afon Eleutherus.
31Yna y trodd Ionathas yn erbyn yr Arabiaid, y rhai a elwid y Zabadiaid, ac ai tarawodd hwynt, ac a gymmerodd eu hyspail hwynt.
32Ac efe a fudodd, ac a ddaeth i Damascus ac a rodiodd trwy ’r holl wlâd.
33Simon hefyd a aeth allan, ac a ddaeth hyd Ascalon, a’r cestill nesaf, ac a drôd i Ioppe, ac ai hennillodd hi,
34O herwydd efe a glywse eu bod hwy yn amcanu rhoddi y castell i’r rhai oeddynt o du Demetrius, ac efe a osododd yno warcheidwaid iw chadw hi.
35Ac Ionathas a ddychwelodd, ac a gasclodd henuriaid y bobl, ac a ymgynghorodd â hwynt am adailadu cestill yn Iudaea,
36Ac am godi caerau Ierusalem, a chodi vchter mawr rhwng y tŵr a’r ddinas, i wahanu rhyngddo ef a’r ddinas, i fod o honaw o’r naili­tu, fel na phrynent hwy, ac na werthent [yno.]
37A phan ddaethant hwy yng-hyd i adailadu y ddinas, efe a aeth i’r mur [nesaf] i’r a­ber o du ’r dwyrain: ac hwy adailadasant yr hyn a elwir Caphenatha.
38A Simon a adailadodd Adida yn Sephym, ac a gadarnhaodd y pyrth a’r clôau.
39Triphon hefyd a geisiodd deyrnasu yn Asia, a gwisco y goron, ac estyn ei law yn erbyn y brenin Antiochus.
40Ond efe a ofnodd na adawe Ionathas, ac rhac iddo ryfela yn ei erbyn ef, ac efe a geisiodd ffordd iw ddal ef iw ddifetha: am hynny efe a gododd, ac a aeth i Bethsan.
41Ac Ionathas a aeth allan i gyfarfod ag ef â deugain-mil o wŷr wedi eu dethol i ryfel, ac yntef a ddaeth i Bethsan.
42A phan welodd Tryphon ei ddyfod ef â llu mawr, efe a ofnodd estyn ei law yn ei erbyn ef.
43Am hynny efe ai derbyniodd ef yn anrhydeddus, ac ai gorchymynnodd ef iw holl garedigion, ac a roddes iddo ef roddion, ac a archodd iw holl garedigion ei vfyddhau ef megis yntef ei hun.
44Ac efe a ddywedodd wrth Ionathas, i ba beth y blinaist ti y bobl hyn oll heb fod rhyfel rhyngom ni.
45Yr awron gan hynny anfon y rhai hyn iw tai, ac ethol i ti ychydig wŷr y rhai fyddant gyd â thi, a thyret gyd am fi i Ptolemais, ac mi ai rhoddaf hi i ti a’r cestill eraill, a’ r lluoedd era­ill, a’r swyddogion, ac mi a ddychwelaf, ac a âf ymmaith: canys o achos hyn yr ydwyfi ymma.
46Yntef yn ymddyried iddo ef a wnaeth fel y dywedodd efe, ac a anfonodd ymmaith ei lu ac hwy a aethant i dîr Iuda.
47Ac efe a adawodd gyd ag ef daiar mîl o wŷr, o ba rai efe a adawodd ddwy fil yn Galilea, a mîl a ddaethant gyd ag ef.
48Er cynted y daeth Ionathas i Ptolemais y Ptolemeaid a gaeasant y pyrth, ac ai daliasant ef, ac a laddasant â’r cleddyf y rhai a ddaethent i mewn gyd ag ef oll.
49Yna yr anfonodd Tryphon lu a gwŷr meirch i dîr Galilea, ac i’r maes mawr i ddifetha y rhai oeddynt gyd ag Ionathas.
50Eithr pan ŵybuant hwy ei ddal ef, a difetha y rhai oeddynt gyd ag ef, hwy a ymgysurasant, ac a aethant, ac a droasant drachefn yn barod i ryfel.
51Felly pan welodd y rhai oeddynt yn ym­lid y bydde [y rhyfel] iddynt am yr enioes, hwy a ddychwelasant.
52Hwythau a ddaethant oll i wlâd Iuda, ac a alarasant am Ionathas, a’r rhai oeddynt gyd ag ef, ac hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac Israel oll a alarasant alar mawr.
53A’r holl genhedloedd o amgylch a geisiasant eu difetha hwynt: canys hwy a ddywedasant:
54Nid oes ganddynt dywysog na helpudd: am hynny y rhyfelwn yn eu herbyn hwynt yn awr, ac y deleuwn eu coffadwriaeth o blith dynion.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda