Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1.Machabæaid 10

10
PEN. X.
4 Demetrius yn dymuno heddychu: ag Ionathas. 18. Alexander yn ceisio heddwch gan yr Iddewon. 48. Alexander yn rhyfela yn erbyn Demetrius. 50. Lladd Demetrius. 51 cyfeillach Ptolomeus ag Alexander.
1Yn yr ŵyth vgeinfed flwyddyn, Alexander mab Antiochus y pendefig a ddaeth, ac a ennillodd Ptolemais, a’r dinassyddion ai derbyniasant ef, ac efe a dyrnasodd yno.
2Pan glybu Demetrius hynny, efe a gasclodd lu mawr anfeidrol, ac a aeth allan iw gyfarfod ef i ryfela.
3Am hynny Demetrius a ddanfonodd lythyrau at Ionathas â geiriau heddychol, ac ai canmolodd ef yn fawr.
4Canys efe a ddywedodd: nyni a wnawn dangnheddyf â hwynt yn gyntaf, cyn ymrwymo o honow ef ag Alexander yn ein herbyn ni.
5Os amgen efe a gofia yr holl ddrwg a wnaethom ni yn ei erbyn ef, yn erbyn ei frodyr a’i bobl.
6Ac efe a roddes awdurdod i Ionathas i gasclu llu o wŷr, i wneuthur arfau, ac i ymrwymo mewn ammodau ag ef, ac efe a orchymynnodd roddi y gwystlon y rhai oeddynt yn y ca­stell iddo ef.
7Yna Ionathas a ddaeth i Ierusalem, ac a ddarllenodd y llythyrau, lle yr oedd yr holl bobl a’r rhai oeddynt yn y castell yn clywed.
8Ac hwy a ofnasant yn ddirfawr pan glywsant hwy roddi o’r brenin awdurdod iddo ef i gasclu llu.
9Ac felly y gŵystlon a roddwyd i Ionathas, ac efe ai adferodd hwy iw tadau ai māmau.
10Ionathas hefyd a drigodd yn Ierusalem ac a ddechreuodd adailadu, ac adnewyddu y ddinas.
11Ac efe a orchymynnodd i’r gwaith-wŷr a­dailadau caerau oi hamgylch hi a mynydd Sion â cherrig nâdd, i fod yn lle cadarn: ac felly y gwnaethant hwy.
12A’r cenhedloedd y rhai oeddynt yn y cestill a wnathe Bacchides a ffoasant.
13A phob vn a adawodd ei le, ac a aeth ymmaith iw wlad ei hun.
14Rhai o’r Iddewon a arhoasant yn Bethsura yn vnic, y rhai a wrthodasent gyfraith a gorchymyn Duw, o blegit honno oedd eu noddfa hwy.
15Pan glywodd Alexander y brenin yr a­ddewidion a wnaethe Demetrius i Ionathas, a phan fynegasant hwy iddo ef y rhyfeloedd, a’r boen a gymmerasent hwy,
16Efe a ddywedodd, pa le y cawn ni y fath ŵr: gan hynny, nyni ai gwnawn ef yn garwr ac yn gydymmaith i ni.
17Ac ar hyn efe a scrifennodd lythyr atto ef o’r geiriau hyn:
18Y mae ’r brenin Alexander yn cyfarch ei frawd Ionathas.
19Ni a glywsom am danat ti dy fod ti yn wr galluoc nerthol, ac yn gymmwys i fod yn vn o’n caredigion ni,
20Am hynny nyni a’th osodasom di heddyw yn arch-offeiriad ar dy bobl, ac i’th alw yn garedig-ddyn i’r brenin (ac efe a ddanfonodd wisc o borphor, a choron o aur iddo ef) ac i ystyrio y pethau sy i ni, ac i gadw caredigrwydd â nyni.
21Ac Ionathas a wiscodd y wisc sanctaidd am dano, y saithfed mis o’r wyth vgeinfed flwyddyn ar vchelwyl y pebyll, yna efe a gasclodd lu, ac a baratôdd lawer o arfau.
22Pan glywodd Demetrius y geiriau hyn, efe a dristâodd yn ddirfawr,
23Ac a ddywedodd: Pa ham y gwnaethom ni hyn, pan ragflaene Alexander nyni, yn ceisi­o cydymdeithas yr Iddewon iw amddefyn ei hun.
24Etto myfi a scrifennaf yn garedic attynt hwy, ac myfi a addawaf godiad a rhoddion iddynt hwy, fel y byddent hwy yn gymhorthwŷr i ni.
25Ac efe a scrifennodd y geiriau hyn attynt hwy: y brenin Demetrius sydd yn cyfarch pobl yr Iddewon.
26Yn gymmaint a chadwo honoch chwi yn ein cyefillach ni, heb ŵyro ar ein gelynion ni, pan glywsom ni a lawenychasant.
27Am hynny parhewch a byddwch ffyddlon i ni, ac nyni a dalwn i chwi yn dda am y pethau a wnaethoch chwi yn ein plaid ni.
28Ni a faddeuwn i chwi lawer o ddyledion, ac ni a roddwn i chwi roddion.
29Ac yn awr yr ydwyfi yn eich rhyddhau chwi a’r holl Iddewon oddi wrth deyrn-ged, yr ydwyfi yn maddeu i chwi y taledigaethau o halen, ac yn eich rhyddhau chwi oddi wrth trethoedd o goronau, ac oddi wrth y drydedd ran hâd.
30Ac oddi wrth yr hanner o ffrwyth coed, yr hwn sydd ddyledys i mi, yr ydwyfi yn eu maddeu hwy o’r dydd heddyw allan, fel na’s cymmerer hwy o wlâd Iuda, nac o’r tair talaith a fwried attynt hwy allan o Samaria a Galilea, o’r dydd heddyw allan yn dragywydd.
31Bydded Ierusalem hefyd ai therfynau yn sanctaidd, ac yn rhydd oddi wrth ddegym­mau ac ardrethion.
32Ac am feddiant y castell yr hwn sydd yn Ierusalem, yr ydwyfi yn ei ollwng, ac yn ei roddi ef i’r arch-offeiriad, fel y galle efe osod ynddo ef y cyfryw wŷr, ac a ddewiso efe iw gadw ef
33Ac yr ydwyfi yn rhad, yn gollwng yn rhydd bob perchen enaid o ddyn o’r Iddewon a gaethgluded o wlad Iuda i’m teyrnas i: a maddeued pawb eu teirn-ged hwy, a’r anifeliaid sy yn perthynu iddynt hwy.
34A’r holl vchelwyliau, a’r Sabbothau a’r lloerau newydd, y dyddiau arferedic, tridiau ym mlaen, ac yn ôl yr ŵyl a gânt fod yn ddydiau o rydd-did a maddeuant i’r holl Iddewon yn fy nheyrnas i.
35Ac ni chaiff neb awdurdod i ymyrryd ar, nac i flino neb o honynt am ddim.
36Dewiser hefyd o’r Iddewon i fod o lu y brenin yng-hylch deng-mîl ar hugain o wŷr, a rhodder iddynt roddion fel y mae yn weddus [rhoddi] i bawb o lu y brenin.
37Gosoder hefyd o honynt hwy rai yng­hestill mwyaf y brenin, a rhai o’r rhai a osodir ar negesau y brenin, y rhai ydynt o ymddyried, bydded hefyd y rhai fyddant arnynt hwy, ac yn dywysogion, o honynt hwy, a rhodiant yn eu cyfraith eu hun, megis y gorchymynnodd y brenin yn nhîr Iuda.
38Chwaneger hefyd at Iuda y tair dinas a roddwyd o wlâd Samaria at Iudaea iw cyfrif yn vn, fel nad vfuddhaont awdurdod neb arall ond yr arch-offeiriad.
39Ptolemais ai chyffiniau yr ydwyf fi yn ei rhoddi yn rhodd i’r cyssegr yr hwn sydd yn Ierusalem, at gymhesur draul y cyssegr.
40Ac yr wyfi yn rhoddi bob blwyddyn bymtheng-mil o siclau arian o gyfrif y brenin, allā o’r lleoedd y rhai ydynt yn perthynu i mi ef
41A’r hyn sydd yng-weddill heb iddynt eu rhoddi wrthnaid megis yn y blynyddoedd o’r blaen, o hyn allan rhoddant at waith y deml.
42Ac heb law hyn y pum-mil sicl o arian y rhai a gymmerasant hwy allan o raid y cyssegr o’r cyfrif bob blwyddyn yr ydys (yn maddeu hynny, am eu bod hwy yn perthynu i’r offeiriaid y rhai ydynt yn gwasanaethu.
43A phwy bynnag a ffoant i’r deml yr hon sydd yn Ierusalem, a phwy bynnag yn ei holl gyffiniau ef y mae y brenin yn dylu iddynt ar­dreth neu ddim arall, maddeuer iddynt, a’r hyn oll sydd iddynt yn fy nheyrnas i.
44Ac fel yr adailader, ac y chweirier gwaith y cyssegr, fe a roddir traul hefyd o gyfrif y brenin.
45Felly y rhoddir traul o gyfrif y brenin i adailadu caerau Ierusalem, ac iw cadarnhau o amgylch, ac i adailadu y caerau yn Iuda.
46Ond pan glybu Ionathas a’r bobl y geiriau ni roddasant goel iddynt, ac ni’s derbyniasant: canys hwy a gofiasant y mawr ddrygioni a wnaethe efe yn Israel, ac mor ddirfawr y cystuddiase efe hwynt.
47Am hynny y cydunwyd ag Alexander, o blegit efe a fuase iddynt yn dywysog heddychlon, ac hwy a ryfelasant gyd ag ef [eu] holl ddyddiau.
48A’r brenin Alexander a gasclodd lu mawr, ac a werssyllodd yn erbyn Demetrius.
49Felly y ddau frenin a gydiasant mewn rhyfel, a llu Demetriusa ffôdd, a Alexander ai herlidiodd ef, ac ai gorchfygodd hwynt.
50Eithr y rhyfel a fu gryf hyd fachludiad haul, a lladdwyd Demetrius y dydd hwnnw.
51Ac Alexander a anfonodd gennadau at Ptolomeus brenin yr Aipht gan ddywedyd yn ôl y geiriau hyn:
52Gan ddychwelyd o honof i dîr fy mren­hiniaeth, ac eistedd ar orsedd-faingc fy nhadau, a chael y dywysogaeth, a difetha Demetrius, ac ennill ein gwlâd:
53A chydio o honofi ag ef mewn câd, a difetha o honom ni ef ai lu, ac eistedd ar orsedd­faingc ei deyrnas ef,
54Yn awr bellach gwnawn gyfeillach rhyngom, ac yr awron dod ti i mi dy ferch yn wraig, ac mi a fyddaf ddaw i ti, ac a roddaf i ti, ac iddi hithe roddion addas i ti.
55A’r brenin Ptolomeus a attebodd gan ddywedyd: da [yw ’r] dydd yn yr hwn y dych­welaist i dîr dy henafiaid, ac yr eisteddaist ar orsedd-faingc eu brenhiniaeth hwynt.
56Ac yr awron mi a wnaf i ti yr hyn a scri­fennaist, eithr tyret i gyfarfod i Ptolemais, fel y gwelom ei gilydd, ac mi a fyddaf chwegrwn i ti fel y dywedaist.
57Felly yr aeth Ptolomeus allan o’r Aipht, efe a Chleopatra ei ferch, ac hwy a ddaethant i Ptolemais yr ail flwyddyn a thrugain a chant.
58A’r brenin Alexander ai cyfarfu ef, yntef a roddes ei ferch Cleopatra iddo ef, ac a wnaeth ei neithior ef yn Ptolemais mewn gogoniant mawr fel brenhinoedd.
59A’r brenin Alexander a scrifennodd ac Ionathas i ddyfod i gyfarfod ag ef.
60Ac efe a aeth i Ptolemais yn ogoneddus, ac a gyfarfu a’r ddau frenin, ac a roddes arian, ac aur iddynt hwy ai caredigion a rhoddion lawer, ac efe a gafodd ffafr yn eu golwg hwynt.
61A gwŷr sceler o Israel [sef] gwŷr annuwiol a ymgasclasant yn ei erbyn ef i achwyn arno ef: ond ni wrandawodd y brenin arnynt hwy.
62Eithr y brenin a archodd ddiosc Ionathas oi ddillad, ai wisco ef â phorphor, ac hwy a wnaethant felly.
63A’r brenin a wnaeth iddo eistedd gyd ag ef, ac a ddywedodd wrth ei dywysogion: ewch allan gyd ag ef i ganol y ddinas, a chyhoeddwch na achwyno neb yn ei erbyn ef am ddim matter, ac na flino neb ef am vn achos.
64A phan welodd y rhai oeddynt yn achwyn ei ogoniant ef, pa fodd y choeddasid, ac yntef wedi ei wisco â phorphor, hwy a ffoasant oll.
65A’r brenin ai hanrhydeddodd ef, ac ai scrifennodd ef ym mysc ei gyfeillion pennaf, ac ai gosododd ef yn flaenor, ac yn gyd dywysog.
66Ac Ionathas a ddychwelodd i Ierusalem yn heddychlon, ac yn llawen.
67Ac yn y bummed flwyddyn a thrugain a chant y daeth Demetrius mab Demetrius o Creta i dir ei henafiaid.
68A’r brenin Alexander a glybu, ac a dri­staodd yn ddirfawr, ac efe a ddychwelodd i Antiochia.
69A Demetrius a osododd Apolonius yr hwn oedd ar Cælosyria [yn flaenor,] ac efe a gasclodd lu mawr, ac a werssyllodd yn Iamnia, ac a anfonodd at Ionathas yr arch-offeiriad gan ddywedyd,
70Ai tydi dy hunan a ymdderchefi i’n herbyn ni: minne a euthym yn watwargerdd ac yn wradwydd o’th achos di, am dy fod yn cymmeryd awdurdod i’n herbyn ni yn y mynyddoedd.
71Am hynny yn awr os ydwyt yn ymdyried yn dy lu, tyret i wared attom ni i’r maes, ac yno ymgystadlwn ai gilydd, canys y mae gennifi lu dinasoedd.
72Gofyn, a dysc pwy ydwyfi, a’r lleill y rhai ydynt yn ein helpio ni: ac nid oes (meddant) fodd i droed sefyll yn ein hwyneb ni: oblegit dy henafiaid a ffoâsant ddwy waith yn eu gwlad eu hun.
73Ac yr awron ni elli di aros y fath feirch a llu yn y maes, lle nid oes na charreg, na maen, na lle i ffoi.
74A phan glybu Ionathas eiriau Apolonius, efe a gyffrôdd yn ei feddwl, ac a etholodd ddeng-mil o wŷr, ac a aeth allan o Ierusalem, ai frawd Simon a aeth i gyfarfod ag ef yn help iddo ef.
75Ac efe a werssyllodd wrth Ioppe, eithr hwy ai cadwasant ef allan o’r ddinas, am fod gwarcheidwaid Apolonius yn Ioppe: hwythau a ryfelasant yn ei herbyn hi.
76A’r rhai oeddynt o’r ddinas a ofnasant, ac a agorasant, ac Ionathas a ennillodd Ioppe.
77A phan glybu Apolonius efe a gymmerodd deir-mil o wŷr meirch, a llu mawr, ac a aeth i Azotus megis vn ar ei daith, ac efe a ddaeth ar yr vn waith i’r maes, am fod ganddo law­er o wŷr meirch, ai fod yn ymdyried yn hynny.
78Yntef a ddilynodd ar ei ôl ef i Azotus, a’r llu a gydiodd mewn rhyfel oi ôl ef.
79Ac Apolonius a adawse gant o wŷr meirch yn ddirgel oi hôl hwynt.
80Ac Ionathas a wybu fod cynllwyn oi ôl ef, ac hwy a amgylchasant ei werssyll ef, ac a fwriasant biccellau yn erbyn y bobl o foreu hyd hwyr.
81A’r bobl a safodd fel yr archodd Ionathas, ai meirch hwythau a flinasant.
82Simon hefyd a luscodd ei lu yntef, ac a gydiodd a’r fyddin, (canys y meirch a flina­sent) ac efe ai difethodd hwynt, ac hwy a ffoasant.
83A’r gwŷr meirch a wascarwyd ar hŷd y maes, ac a ffoasant i Azotus, ac a ddaethant i deml Dagon eu heulyn i fod yn gadwedig.
84Ac Ionathas a loscodd Azotus a’r dinasoedd oi hamglych hi, ac a gymmerodd eu hyspail hwynt: teml Dagon hefyd a’r rhai a ffoasent a loscodd efe â thân.
85A’r rhai a laddwyd a’r cleddyf, yng-hŷd a’r rhai a loscwyd â thân oeddynt yng-hylch ŵyth mil o wŷr.
86Ac Ionathas a aeth oddi yno ac a werssyllodd wrth Ascalon a’r rhai oeddynt o’r ddi­nas a ddaethant allan iw gyfarfod ef â gogoniant mawr.
87Ac Ionathas a ddychwelodd i Ierusalem a’r rhai oeddynt gyd ag ef, a chanddynt yspail mawr.
88A phan glybu y brenin Alexander y pethau hyn, efe a roddes fwy o anrhydedd i Ionathas.
89Ac efe a anfonodd iddo gadwyn aur fel y mae yr arfer roddi i geraint y brenin, ac a roddes iddo Accaron ai holl gyffiniau yn etifeddiaeth o rodd.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda