Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nahum 3

3
PEN. III.—
1Gwae ddinas y gwaed:
Celwydd ydyw hi i gyd, llawn trais;
Nid ymedy#ni theimlir. LXX. heb ei dynu ymaith. Syr. ysglyfaeth.
2Swn ffrewyll;
A swn trwst#ysgydwad. Syr. olwyni:
A march yn carlamu;#yn chwythu. Syr. gweryru. Vulg.
A cherbyd yn neidio.
3Marchog yn dod i fyny,
A chleddyf gloew a gwaewffon ddysglaer;
A lluaws lladdedigion a thrymder celanedd:#a chelanedd trwm,
Ac heb ddiwedd ar y cyrff meirw;#i’w chenedloedd hi. LXX.
Tripiant#gwanychant yn eu cyrff gan amledd puteindra. LXX. wrth eu cyrff meirw.
4O herwydd aml buteinderau putain dda#deg a hardd. y butain deg a hawddgar—wele fi i’th erbyn LXX. y—olygus a hoff a chanddi swynion. Vulg. o harddwch,
Meistres swynion:
Yr hon a werth#yn amlhau. Syr. genedloedd trwy ei phuteinderau;
A theuluoedd#tylwythau. trwy ei swynion.
5Wele fi i’th erbyn, medd Arglwydd y lluoedd;
A chodaf dy odreu#dy du ol. LXX. ar dy wyneb:
A gwnaf i genedloedd weled#dangosaf dy frynti a’th warth i. Syr. dy noethni;
A theyrnasoedd dy warthfa.
6A thaflaf arnat bethau bryntion ac a’th amharchaf:
A gosodaf di yn ddrych.#fel drych; siampl. Vulg.
7A bydd i bawb a’th welo ffoi#neidio yn ol. Vulg. oddiwrthyt;
A dywedyd,
Anrheithiwyd#truenus yw. LXX. Ninefeh;
Pwy a dosturia#a ysgwyd ben arnat. Vulg. wrth bwy y cwynir am danat. Syr. wrthi?
O ba le y ceisiaf ddyddanwyr#ddyddanwch iddi. LXX. ddyddanydd. Vulg. i ti?
8Ai gwell wyt#fyddi di. ti na No Amon;#rhan Ammon. LXX. Alexandria y bobloedd. Vulg. Jafan y bobloedd (Alexandria) Syr.
Yr hon sydd yn aros rhwng yr afonydd;
Dyfroedd sydd yn gylch iddi:
I’r hon y mae môr yn rhagfur;#nerth. Syr. llywodraeth. LXX. golud. Vulg.
O fôr#dwfr. LXX. dyfroedd. Syr., Vulg. y mae ei mur.#muriau. LXX., Vulg.
9Ethiopia fu yn gadernid iddi, a’r Aipht,#Cush a’r Aipht fu. Syr., ac aneirif:#nid arosodd diwedd ffoad. LXX. ac nid oedd diwedd iddi. Syr.
Put#Affrica. Vulg. a Lubiaid fuont yn gynorthwy i ti.#ei chynorthwywyr. LXX.
10Er hyny, hi a aeth#hi a â yn gaeth i’w symud ymaith. LXX. i gaethiwed mewn caethglud;
Ië, ei phlant bychain a ddryllid yn mhen pob heol:
Ac ar ei gwŷr anrhydeddus#ei holl bethau gwychion. LXX. y bwriasant#bwriant. LXX. goelbren;
A’i holl wŷr mawrion a rwymwyd#rwymir. LXX. mewn gefynau.
11Tithau hefyd a feddwi;#feddwir. LXX., Vulg. a gystuddir. Syr.
Byddi guddiedig:#a byddwch yn ddirmyg. Syr. a byddi yn ddirmygedig. Vulg. LXX.
Ti hefyd a geisi ymddiffynfa#sefyllfa. LXX. gymorth. Syr., Vulg. rhag y gelyn,
12Dy holl ymddiffynfeydd;
Ffigysrwydd a’u ffrwythau cyntaf arnynt fyddant:
Os ysgydwir hwynt;
Syrthiant ar enau bwytawr.
13Wele#a dy. Syr. dy bobl fyddant wragedd yn dy ganol di;
Gan agor yr agorwyd pyrth dy dir i’th elynion;
Tân a ysodd dy farau.
14Tyn i ti ddwfr gwarchae;#o herwydd gwarchae. Vulg. mewn gw. Syr.
Cadarnha dy ymddiffynfeydd:
Dos i’r pridd a sathr ar y clai,
Cryfha odyn maen pridd.
15Yno tân a’th ddifa;
Cleddyf a’th dyr ymaith;
Efe a’th ddifa fel y llindys:
Ymluosoga#di, benywaidd. a thrymheir di. LXX. fel y llindys;
Ymluosoga fel locustiaid.
16Amlheaist dy farchnadyddion;#fasnachoedd. LXX., Vulg.
Rhagor sêr y nefoedd:
Gwasgarodd#rhuthrodd. LXX. y llindys ac ehedodd ymaith.
17Dy dywysogion#dy bobl gymysg. LXX. dy Nazareaid. Syr. dy geidwaid. Vulg. sydd fel locustiaid;
A’th uchel swyddogion#dy ymladdwyr. Syr. dy rai bychain. fel heidiau o geiliogod rhedyn:
Y rhai a wersyllant yn y cloddiau ar ddydd oerfel;
Cododd haul ac ehedasant#neidiodd ymaith. LXX. ymaith;
Ac nis adwaenir eu lle hwynt pa le y buont.#gwae hwynt. LXX.
18Cysgodd dy fugeiliaid#gymdeithion breninoedd Assuria. Syr., frenin Assuria;
Dy bendefigion#gymydogion. Syr. a orweddant:#brenin Assuria a yrodd dy rai galluog i gysgu. LXX. cleddir dy dywysogion. Vulg.
Gwasgarwyd#aeth ymaith. dy bobl ar y mynyddoedd,
Ac nid oes a’u casgl.
19Nid oes iachad#nid anamlwg. Vulg. nid oes a gwyna iddi am dy ddrylliad. Syr. i’th archoll;
Dolurus#poethodd dy. LXX. drwg iawn. Vulg. yw dy weli:
Pawb ag a glywant#glywsant, Syr., Vulg. son am danat,
A gurant#gauasant. Vulg. gurasant. Syr. law arnat;
O herwydd dros bwy nad aeth#dros bob dyn yr aeth. Syr. dy ddrygioni bob amser.

Dewis Presennol:

Nahum 3: PBJD

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda