Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 5

5
PEN. V.—
1Clywch hyn yr offeiriaid,
A gwrandewch, tŷ Israel,
A thŷ y brenin, rhoddwch glust;
Canys y farnedigaeth sydd i chwi;
Am mai magl fuoch i Mispah;
A rhwyd wedi ei thaenu ar Tabor.
2A thrwy ladd y gwyrasant yn ddirfawr:#yn ddwfn. Yr hwn y trywanodd yr helwyr yr anifail arno. LXX. aberthau a droaist i’r dyfnder. Vulg.
A minau yn hyfforddwr#a fyddaf yn gosbedigaeth iddynt oll. yn hyfforddwr i chwi. LXX. a’u ceryddaf oll. Syr. iddynt oll.
3Myfi a adwaen Ephraim,
Ac Israel nid yw guddiedig#ni safodd oddiwrthyf. LXX. oddiwrthyf;
Canys yn awr, ti Ephraim#puteiniodd Ephraim. Vulg. a buteiniaist:
Israel a halogwyd.
4Ni ad eu gweithredoedd#ni roddant eu gweithredoedd. ni roddant eu bryd. Vulg. iddynt,
I droi at eu Duw:
Canys ysbryd puteindra sydd o’u mewn;#yn eu canol.
Ac nid adwaenant#cydnabyddant. yr Arglwydd.
5A thystiolaetha#darostyngir balchder Israel i’w wyneb. LXX., Syr. etyb trahausder Israel. Vulg. balchder Israel i’w wyneb:
Ac Israel ac Ephraim a syrthiant trwy eu hanwiredd;
Judah hefyd a syrthiodd gyda hwynt.
6A’u defaid ac â’u hychain yr ant i geisio yr Arglwydd,
Ac nis cânt:
Ciliodd#cymerwyd ef oddiwrthynt. Vulg. oddiwrthynt.
7A’r Arglwydd y gwnaethant yn anffyddlon;
Canys cenedlasant blant dyeithr:
Yn awr mis#Locust, Hoabigant— Newcome. rhwd. LXX. yn eisiau yn Syr. a’u difa hwynt a’u hetifeddiaethau.
8Cenwch gorn yn Gibeah;#ar y bryniau. LXX. uchelder. Syr.
Udgorn yn Ramah#ar y lleoedd uchel. LXX.
Bloeddiwch ar Bethafen,
Y mae ar dy ol#o’th ol, y tu ol i ti. di, Benjamin.
9Ephraim fydd yn anrhaith;
Yn nydd y cerydd:#gosbedigaeth.
Yn mysg llwythau Israel;
Y perais wybod peth sicr.
10Bu tywysogion Judah fel symudwyr terfyn;
Tywalltaf arnynt fy llid fel dyfroedd.
11Gorthrymwyd Ephraim, drylliwyd ef gan farnedigaeth:#gorthrymedig, drylliedig gan farn yw.
Am iddo fynu#ewyllysio, ymhyfrydu. LXX., Syr. myned ar ol gwagedd.#tom. Vulg. gorchymyn. LXX.
12A mi a fyddaf fel gwyfyn i Ephraim:
Ac fel pydredd i dŷ Judah.
13Ac Ephraim a wel#welodd. LXX., Vulg., Syr. ei gystudd#glwyf, anhwylderau. Syr.
A Judah ei archoll;
Ac Ephraim a â at Assur:
Ac a enfyn#aeth, anfonodd. LXX., Vulg., Syr. at frenin ymrysongar;#mawr. Syr. dialydd. Vulg.
Ac ni all efe eich meddyginiaethu chwi;
Ac nid iacha efe eich archoll#nid all ddatod cadwyn oddiwrthych. Vulg., ac ni phaid gofid oddiwrthych. Syr. chwi.
14Canys myfi a fyddaf fel llew#llewes. Vulg. i Ephraim,
Ac fel cenaw llew i dŷ Judah:
Myfi, myfi a ysglyfaethaf ac a af,
Cymeraf ymaith, ac ni bydd a achubo.#a achubir. LXX.
15Af, dychwelaf i’m lle,
Hyd oni chydnabyddont eu bai,#trecher hwy. Syr. ymfeiont. Hebr. hyd oni ddifether hwynt. LXX. ac y ceisiont fy wyneb#ffafr, boddlonrwydd.
Yn yr adfyd arnynt y’m ceisiant yn foreu.#y troant ataf.

Dewis Presennol:

Hosea 5: PBJD

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda