Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Seffaneia 1

1
Diogel farn Duw ar Jwda am amryw bechodau.
1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda. 2Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr Arglwydd. 3#Hos 4:3Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y môr; #Esec 14:3, 7a’r tramgwyddiadau ynghyd â’r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear, medd yr Arglwydd. 4Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a #2 Bren 23:5thorraf ymaith o’r lle hwn weddill Baal, ac enw #Hos 10:5y Chemariaid â’r offeiriaid; 5A’r neb #2 Bren 23:12; Jer 19:13a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a’r addolwyr y rhai #Esa 48:1; Hos 4:15a dyngant #1:5 Neu, myn yr Arglwydd.i’r Arglwydd, a hefyd #Jos 23:7a dyngant i Malcham; 6#Esa 1:4; Jer 15:6A’r rhai a giliant oddi ar ôl yr Arglwydd; a’r rhai ni cheisiasant yr Arglwydd, ac nid ymofynasant amdano. 7#Hab 2:20; Sech 2:13Distawa gerbron yr Arglwydd Dduw; canys agos yw dydd yr Arglwydd: oherwydd #Esa 34:6; Jer 46:10; Esec 39:17; Dat 19:17arlwyodd yr Arglwydd aberth, #1:7 Heb. sancteiddiodd, neu, paratôdd.gwahoddodd ei wahoddedigion. 8A bydd, ar ddydd aberth yr Arglwydd, i mi ymweled #Jer 39:6â’r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr. 9Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac â thwyll. 10A’r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o’r ail, a drylliad mawr o’r bryniau. 11Udwch, breswylwyr Machtes: canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith. 12A’r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau, ac yr ymwelaf â’r dynion sydd #Jer 48:11yn ceulo ar eu sorod; y rhai a ddywedant yn eu calon, Ni wna yr Arglwydd dda, ac ni wna ddrwg. 13Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail, a’u teiau yn anghyfannedd: #Deut 28:30, 39; Amos 5:11adeiladant hefyd dai, ond ni phreswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o’r gwin. 14Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr Arglwydd: yno y bloeddia y dewr yn chwerw. 15#Jer 30:7; Joel 2:2, 11; Amos 5:18Diwrnod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd‐dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni. 16Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog, ac yn erbyn y tyrau uchel. 17A mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a rodiant megis deillion, am bechu ohonynt yn erbyn yr Arglwydd; a’u gwaed a dywelltir fel llwch, a’u cnawd fel tom. 18#Diar 11:4; Esec 7:19Nid eu harian na’u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr Arglwydd; ond â thân ei eiddigedd ef #Pen 3:8yr ysir yr holl dir: canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear.

Dewis Presennol:

Seffaneia 1: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda