Sechareia 2
2
1 Duw, o’i ofal dros Jerusalem, yn anfon gŵr i’w mesuro hi. 6 Gwared Seion. 10 Addewid o bresenoldeb Duw.
1Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur. 2A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, #Edrych Dat 11:1I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi. 3Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i’w gyfarfod ef. 4Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerwsalem a gyfanheddir fel #2:4 Neu, trefi heb gaerau.maestrefi, rhag amled dyn ac anifail o’i mewn. 5Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr Arglwydd, a #Esa 60:19byddaf yn ogoniant yn ei chanol.
6Ho, ho, deuwch allan, a #Esa 48:20; 52:11; Jer 50:8; 51:6, 45; Dat 18:4ffowch o wlad y gogledd, medd yr Arglwydd: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr Arglwydd. 7O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon. 8Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y’m hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a’ch ysbeiliasant chwi: canys #Deut 32:10; Salm 17:8a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef. 9Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i’w gweision: a #Pen 4:9chânt wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd.
10 #
Esa 12:6; 54:1; Seff 3:14 Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a #Lef 26:12; Esec 37:27; Ioan 1:14; 2 Cor 6:16mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr Arglwydd. 11A’r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr Arglwydd, ac a fyddant #Exod 12:49bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a #ad. 9chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atat. 12A’r Arglwydd a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac #Pen 1:17a ddewis Jerwsalem drachefn. 13Pob cnawd, #Seff 1:7taw yng ngŵydd yr Arglwydd: canys cyfododd #Deut 26:15; Esa 57:15o drigfa ei sancteiddrwydd.
Dewis Presennol:
Sechareia 2: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society