Numeri 28
28
1 Bod yn rhaid cadw offrymau. 3 Y poethoffrwm gwastadol. 9 Yr offrwm ar y Saboth, 11 ar y lloerau newydd, 16 ar y Pasg: 26 yn nydd y blaenffrwythau.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymu i mi fy offrwm, #Lef 3:11; 21:6, 8; Mal 1:7, 12a’m bara i’m hebyrth tanllyd, o arogl #28:2 Heb. fy llonyddwch.peraidd yn eu tymor. 3A dywed wrthynt, #Exod 29:38Dyma yr aberth tanllyd a offrymwch i’r Arglwydd. Dau oen blwyddiaid perffaith‐gwbl, #28:3 Heb. mewn diwrnod.bob dydd, yn boethoffrwm gwastadol. 4Un oen a offrymi di y bore, a’r oen arall a offrymi di #28:4 Heb. rhwng y ddau hwyr.yn yr hwyr; 5A #Exod 16:36; Pen 15:4degfed ran effa o beilliaid #Lef 2:1yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran #Exod 29:40hin o olew coethedig. 6Dyma y poethoffrwm gwastadol #Edrych Amos 5:25a #28:6 Neu, ordeiniwyd.wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd. 7A’i ddiod‐offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen: #Exod 29:40pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod‐offrwm i’r Arglwydd, yn y cysegr. 8Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr: megis bwyd‐offrwm y bore, a’i ddiod‐offrwm yr offrymi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
9Ac ar y dydd Saboth, dau oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, a’i ddiod‐offrwm. 10Dyma boethoffrwm pob Saboth, heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i ddiod‐offrwm.
11Ac #1 Sam 20:5ar ddechrau eich misoedd yr offrymwch, yn boethoffrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl; 12A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob hwrdd; 13A phob yn ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob oen, yn offrwm poeth o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd. 14A’u diod‐offrwm fydd hanner hin gyda bustach, a thrydedd ran hin gyda hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gydag oen. Dyma boethoffrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn. 15Ac un bwch geifr fydd yn bech‐aberthi’r Arglwydd: heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef, a’i ddiod‐offrwm.
16 #
Exod 12:18; Lef 23:5;
Pen 9:3
; Deut 16:1Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd Pasg yr Arglwydd. 17Ac ar y pymthegfed dydd o’r mis hwn y bydd yr ŵyl: saith niwrnod y bwyteir bara croyw. 18Ar #Exod 12:16; Lef 23:7y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: na wnewch ddim caethwaith ynddo. 19Ond offrymwch yn aberth tanllyd, ac yn boethoffrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: #ad. 31; Pen 29:8byddant gennych yn berffaith‐gwbl. 20Eu bwyd‐offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew: tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd, a offrymwch chwi; 21Bob yn ddegfed ran yr offrymwch gyda phob oen, o’r saith oen: 22Ac un bwch yn bech‐aberth, i wneuthur cymod drosoch. 23Heblaw poethoffrwm y bore, yr hwn sydd boethoffrwm gwastadol, yr offrymwch hyn. 24Fel hyn yr offrymwch ar bob dydd o’r saith niwrnod, fwyd‐aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd: heblaw y poethoffrwm gwastadol yr offrymir ef, a’i ddiod‐offrwm. 25Ac ar y seithfed dydd cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch.
26Ac #Exod 23:16; 34:22; Lef 23:10; Deut 16:10ar ddydd eich blaenffrwythau, pan offrymoch fwyd‐offrwm newydd i’r Arglwydd, wedi eich wythnosau, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch. 27Ond offrymwch ddau fustach ieuainc un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boethoffrwm, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 28A bydded eu bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd; 29Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: 30Un bwch geifr, i wneuthur cymod drosoch. 31Heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, yr offrymwch hyn, (#ad. 19byddant gennych yn berffaith‐gwbl,) ynghyd â’u diod‐offrwm.
Dewis Presennol:
Numeri 28: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society