Numeri 19
19
1 Y dwfr neilltuaeth a wneid o ludw anner goch. 11 Y gyfraith pa fodd yr arferid ef wrth buro yr aflan.
1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd. 2Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt atat anner goch berffaith‐gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni. 3A rhoddwch hi at Eleasar yr offeiriad: a phared efe ei dwyn hi o’r #Heb 13:11tu allan i’r gwersyll; a lladded un hi ger ei fron ef. 4A chymered Eleasar yr offeiriad beth o’i gwaed hi ar ei fys, a #Heb 9:13thaenelled o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith. 5A llosged un yr anner yn ei olwg ef: #Exod 29:14; Lef 4:11, 12ei chroen, a’i chig, a’i gwaed, ynghyd â’i biswail, a lysg efe. 6A chymered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner. 7A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i’r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr. 8Felly golched yr hwn a’i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr. 9A chasgled un glân #Heb 9:13ludw yr anner, a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn lle glân; a bydded yng nghadw i gynulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neilltuaeth pech‐aberth yw. 10A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragwyddol.
11 #
Lef 21:1; Pen 5:2; 31:19; Galar 4:14; Hag 2:13A gyffyrddo â chorff marw #19:11 Heb. enaid.dyn, aflan fydd saith niwrnod. 12#Pen 31:19Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanha efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd. 13Pob un a gyffyrddo â chorff marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, #Lef 15:31sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd eto arno. 14Dyma’r gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i’r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod. 15A phob llestr #Pen 31:20agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe. 16Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, ag un wedi ei ladd â chleddyf, neu ag un marw, neu ag asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod. 17Cymerant dros yr aflan o #19:17 Heb. lwch.ludw llosg yr offrwm dros bechod; a rhodder ato ddwfr #19:17 Heb. byw.rhedegog mewn llestr; 18A chymered #Salm 51:7isop, a golched un dihalogedig ef mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd ag asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd: 19A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a’r seithfed dydd; ac ymlanhaed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr. 20Ond y gŵr a haloger, ac nid ymlanhao torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynulleidfa: canys efe a halogodd gysegr yr Arglwydd, ni thaenellwyd arno ddwfr y neilltuaeth; aflan yw efe. 21A bydd iddynt yn ddeddf dragwyddol, bod i’r hwn a daenello ddwfr y neilltuaeth, olchi ei ddillad; a’r hwn a gyffyrddo â dwfr y neilltuaeth, a fydd aflan hyd yr hwyr. 22A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan ag ef, fydd aflan: a’r dyn a gyffyrddo â hynny, fydd aflan hyd yr hwyr.
Dewis Presennol:
Numeri 19: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society