Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 16

16
1 Gwrthryfel Cora, Dathan, ac Abiram. 23 Moses yn gwahanu y bobl oddi wrth bebyll y gwrthryfelwyr. 31 Y ddaear yn llyncu Cora: a thân yn difa y lleill. 36 Cadw y thuserau er mwyn defnydd sanctaidd. 41 Lladd pedair mil ar ddeg a saith gant, am rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron. 46 Aaron, trwy arogl‐darthu, yn atal y pla.
1Yna #Pen 26:9; 27:3; Jwdas 11Cora, mab Ishar, mab Cohath, mab Lefi; a Dathan ac Abiram, meibion Elïab, ac On mab Peleth, meibion Reuben, a gymerasant wŷr: 2A hwy a godasant o flaen Moses, ynghyd â dau cant a deg a deugain o wŷr eraill o feibion Israel, penaethiaid y gynulleidfa, #Pen 26:9pendefigion y gymanfa, gwŷr enwog. 3Ac #Salm 106:16ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynulleidfa yn sanctaidd bob un ohonynt, ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynulleidfa yr Arglwydd? 4A phan glybu Moses, #Pen 14:5; 20:6efe a syrthiodd ar ei wyneb. 5Ac efe a lefarodd wrth Cora, ac wrth ei holl gynulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef, a’r sanctaidd; a phwy a ddylai nesáu ato ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe ato. 6Hyn a wnewch: Cymerwch i chwi, sef Cora a’i holl gynulleidfa, thuserau; 7A rhoddwch ynddynt dân, a gosodwch arnynt arogl‐darth yfory gerbron yr Arglwydd: yna bydd i’r gŵr hwnnw fod yn sanctaidd, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd: gormod i chwi hyn, meibion Lefi. 8A dywedodd Moses wrth Cora, Gwrandewch, atolwg, meibion Lefi. 9Ai bychan gennych neilltuo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynulleidfa Israel, gan eich nesáu chwi ato ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll gerbron y gynulleidfa, i’w gwasanaethu hwynt? 10Canys efe a’th nesaodd di, a’th holl frodyr, meibion Lefi, gyda thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd? 11Am hynny tydi a’th holl gynulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?
12A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram, meibion Elïab. Hwythau a ddywedasant, Ni ddeuwn ni ddim i fyny. 13Ai bychan yw dwyn ohonot ti ni i fyny o dir yn llifeirio o laeth a mêl, i’n lladd ni yn y diffeithwch, oddieithr hefyd arglwyddiaethu ohonot yn dost arnom ni? 14Eto ni ddygaist ni i #Exod 3:8; Lef 20:24dir yn llifeirio o laeth a mêl, ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes na gwinllan: a #16:14 Heb. dylli.dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni i fyny ddim. 15Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd, #Gen 4:4, 5Nac edrych ar eu hoffrwm hwy: #1 Sam 12:3; Act 20:33ni chymerais un asyn oddi arnynt, ac ni ddrygais un ohonynt. 16A dywedodd Moses wrth Cora, Bydd di a’th holl gynulleidfa gerbron yr Arglwydd, ti, a hwynt, ac Aaron, yfory. 17A chymerwch bob un ei thuser, a rhoddwch arnynt arogl‐darth; a dyged pob un ei thuser gerbron yr Arglwydd, sef dau cant a deg a deugain o thuserau: dwg dithau hefyd, ac Aaron, bob un ei thuser. 18A chymerasant bob un ei thuser, a rhoddasant dân ynddynt, a gosodasant arogl‐darth arnynt; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod, ynghyd â Moses ac Aaron. 19Yna Cora a gasglodd yr holl gynulleidfa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell y cyfarfod: a #Exod 16:7, 10; Lef 9:6, 23; Pen 14:10gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl gynulleidfa 20A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, 21#Edrych Gen 19:17, 22; Jer 51:6; Dat 18:4Ymneilltuwch o fysg y gynulleidfa hon, a mi a’u difâf hwynt ar unwaith. 22A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, #Pen 27:16; Job 12:10; Preg 12:7; Esa 57:16; Sech 12:1; Heb 12:9 Duw ysbrydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa.
23A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd. 24Llefara wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Cora, Dathan, ac Abiram. 25A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef. 26Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, atolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o’r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt. 27Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a’u meibion, a’u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll. 28A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o’m meddwl fy hun y gwneuthum hwynt. 29Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a’m hanfonodd i. 30Ond os yr Arglwydd a #16:30 Heb. grea greadur.wna newyddbeth, fel yr agoro’r ddaear ei safn, a’u llyncu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr Arglwydd.
31 # Pen 26:10 ; 27:3; Deut 11:6; Salm 106:17A bu, wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o’r ddaear oedd danynt hwy. 32Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyncodd hwynt, a’u tai hefyd, a’r #Edrych ad. 17; Pen 26:11; 1 Cron 6:22, 37holl ddynion oedd gan Cora, a’u holl gyfoeth. 33A hwynt, a’r rhai oll a’r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw #16:33 Neu, i’r pwll.i uffern; a’r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa. 34A holl Israel, y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i’r ddaear ein llyncu ninnau. 35Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a’r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth.
36A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 37Dywed wrth Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, am godi ohono efe y thuserau o fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys #Edrych Lef 27:28sanctaidd ydynt: 38Sef thuserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i’r allor; canys offrymasant hwynt gerbron yr Arglwydd; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel. 39A chymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, â’r rhai yr offrymasai y gwŷr a losgasid; ac estynnwyd hwynt yn gaead i’r allor: 40Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesao gŵr dieithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl‐darth gerbron yr Arglwydd; ac na byddo fel Cora a’i gynulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.
41A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd, Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd. 42A bu, wedi ymgasglu o’r gynulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych ohonynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd. 43Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.
44A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 45Ciliwch o blith y gynulleidfa hon, a mi a’u difâf hwynt yn ddisymwth. A #Pen 20:6hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.
46Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymer thuser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl‐darth arni, a dos yn fuan at y gynulleidfa, a gwna gymod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd; dechreuodd y pla. 47A chymerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynulleidfa; ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl‐darth, ac a wnaeth gymod dros y bobl. 48Ac efe a safodd rhwng y meirw a’r byw; a’r pla a ataliwyd. 49A’r rhai a fuant feirw o’r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heblaw y rhai a fuant feirw yn achos Cora. 50A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a’r pla a ataliwyd.

Dewis Presennol:

Numeri 16: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda