Numeri 10
10
1 Beth a wneid â’r utgyrn arian. 11 Yr Israeliaid yn symud o Sinai i Paran. 14 Trefn eu cerddediad hwy. 29 Moses yn atolwg ar Hobab nad ymadawai â hwynt. 33 Bendith Moses wrth symudo a gorffwyso o’r arch.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Gwna i ti ddau utgorn arian; yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i alw y gynulleidfa ynghyd, ac i beri i’r gwersylloedd gychwyn. 3A phan #Joel 2:15ganant â hwynt, yr ymgasgl yr holl gynulleidfa atat, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 4Ond os ag un y canant; yna y tywysogion, sef penaethiaid miloedd Israel, a ymgasglant. 5Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd y rhai a wersyllant tua’r dwyrain, a gychwynnant. 6Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tua’r deau, a gychwynnant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn. 7Ac wrth alw ynghyd y gynulleidfa, cenwch yr utgyrn; ond na chenwch larwm. 8A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr utgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau 9Hefyd #Pen 31:6; 2 Cron 13:14pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a’ch gorthrymo chwi; cenwch larwm mewn utgyrn: yna y coffeir chwi gerbron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion. 10Ar #Pen 29:1; 1 Cron 15:24; 2 Cron 5:12; 7:6; 29:26; Esra 3:10; Neh 12:35; Salm 81:3ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechrau eich misoedd, y cenwch ar yr utgyrn uwchben eich offrymau poeth, ac uwchben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth gerbron eich Duw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
11A bu yn yr ail flwyddyn, ar yr ail fis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis, gyfodi o’r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth. 12A meibion Israel #Pen 2:9, 16, 24, 31a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai; a’r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran. 13Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.
14 #
Pen 2:3
Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd #Pen 1:7Nahson mab Aminadab. 15Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar. 16Ac ar lu llwyth meibion Sabulon, Elïab mab Helon. 17Yna #Pen 1:51y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, #Pen 4:24, 31gan ddwyn y tabernacl.
18Yna #Pen 2:10y cychwynnodd lluman gwersyll Reuben yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedeur. 19Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisadai. 20Ac ar lu llwyth meibion Gad, Eliasaff mab Deuel. 21A’r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn #Pen 4:4; Pen 7:9y cysegr; a’r #10:21 Sef, y Gersoniaid a’r Merariaid. ad. 17 lleill a godent y tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod.
22Yna #Pen 2:18lluman gwersyll meibion Effraim a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud. 23Ac ar lu llwyth meibion Manasse, Gamaliel mab Pedasur. 24Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.
25Yna #Pen 2:25lluman gwersyll meibion Dan, yn olaf o’r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Ammisadai. 26Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagiel mab Ocran. 27Ac ar lu llwyth meibion Nafftali, Ahira mab Enan. 28Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd, pan gychwynasant.
29A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyda ni, a #Barn 1:16gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel. 30Dywedodd yntau wrtho, Nid af ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr af. 31Ac efe a ddywedodd, Na ad ni, atolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni, 32A phan ddelych gyda ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna’r Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.
33A hwy a aethant oddi wrth #Edrych Exod 3:1fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, #Deut 1:33; Jer 31:2; Esec 20:6i chwilio am orffwysfa iddynt. 34A #Exod 13:21chwmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o’r gwersyll. 35A hefyd pan gychwynnai yr arch, Moses a ddywedai, #Salm 68:1, 2; 132:8Cyfod, Arglwydd, a gwasgarer dy elynion; a ffoed dy gaseion o’th flaen. 36A phan orffwysai hi, y dywedai efe, Dychwel, Arglwydd, at #10:36 ddengmil o filoedd.fyrddiwn miloedd Israel.
Dewis Presennol:
Numeri 10: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society