Micha 4
4
1 Gogoniant, 3 heddwch, 8 teyrnas, 11 a buddugoliaeth yr eglwys.
1A bydd #Esa 2:2, &c; Esec 17:22, 23yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr Arglwydd fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato. 2A chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr Arglwydd, ac i dŷ Dduw Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem.
3Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell; a #Joel 3:10thorrant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn #4:3 Neu, grymanau.bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. 4Ond #1 Bren 4:25; Sech 3:10eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i’w dychrynu; canys genau Arglwydd y lluoedd a’i llefarodd. 5Canys #Jer 2:11yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a #Sech 10:12ninnau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd. 6Yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, #Esec 34:16; Seff 3:19y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a’r hon a ddrygais: 7A gwnaf y gloff yn weddill, a’r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; #Dan 7:14; Luc 1:33a’r Arglwydd a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.
8A thithau, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem. 9Paham gan hynny y gwaeddi waedd? #Jer 8:19onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a’th gymerodd megis gwraig yn esgor. 10Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o’r ddinas, a thrigi yn y maes; ti a ei hyd Babilon: yno y’th waredir; yno yr achub yr Arglwydd di o law dy elynion.
11Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i’th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion. 12Ond ni wyddant hwy feddyliau yr Arglwydd, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a’u casgl hwynt fel ysgubau i’r llawr dyrnu. 13Cyfod, merch Seion, a #Esa 41:15, 16dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a’th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i’r Arglwydd eu helw hwynt, a’u golud i #Sech 4:14; 6:5 Arglwydd yr holl ddaear.
Dewis Presennol:
Micha 4: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society