Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 2

2
1 Yn erbyn trais. 4 Cwynfan. 7 Ceryddu anghyfiawnder a delw‐addoliaeth. 12 Addo adfer Jacob.
1Gwae #Hos 7:6a ddychmygo anwiredd, ac #Salm 36:4a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau! pan oleuo y bore y gwnânt hyn; am ei fod ar eu dwylo. 2#Esa 5:8Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau, ac a’u dygant: #2:2 Neu, twyllant.gorthrymant hefyd ŵr a’i dŷ, dyn a’i etifeddiaeth. 3Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, yn erbyn y teulu hwn y dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw.
4Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara #2:4 Heb. alar galarau.alar gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; #Pen 1:15newidiodd ran fy mhobl: pa fodd y dug ef oddi arnaf! #2:4 Neu, yn lle adfer.gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd. 5Am hynny ni bydd i ti #Deut 32:8, 9a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr Arglwydd. 6#Esa 30:10; Amos 7:16Na #2:6 Heb. ddefnynnwch, &c Esec 21:2phroffwydwch, #2:6 Neu, fel y proffwydant hwy. meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.
7O yr hon a elwir Tŷ Jacob, a #2:7 Neu, gyfyngwyd.fyrhawyd ysbryd yr Arglwydd? ai dyma ei weithredoedd ef? oni wna fy ngeiriau les i’r neb a rodio yn uniawn? 8Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn: diosgwch y dilledyn #2:8 Heb. gyferbyn a’r wisg.gyda’r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn dychwelyd o ryfel. 9Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth. 10Codwch, ac ewch ymaith; canys nid dyma eich gorffwysfa: am ei halogi, y dinistria hi chwi â dinistr tost. 11Os un #2:11 Neu, a rodia gyda’r gwynt, ac a ddywed gelwydd yn gelwyddog, gan ddywedyd, Proffwydaf, &cyn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i’r bobl hyn.
12Gan gasglu y’th gasglaf, Jacob oll: gan gynnull cynullaf weddill Israel; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra, fel y praidd yng nghanol eu corlan: trystiant rhag amled dyn. 13Daw y rhwygydd i fyny o’u blaen hwynt; rhwygasant, a thramwyasant trwy y porth, ac aethant allan trwyddo, a thramwya eu brenin o’u blaen, a’r Arglwydd ar eu pennau hwynt.

Dewis Presennol:

Micha 2: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda