Mathew 17
17
A.D. 32. —
1 Gweddnewidiad Crist. 14 Y mae efe yn iacháu y lloerig; 22 yn rhagfynegi ei ddioddefaint; 24 ac yn talu teyrnged.
1Ac #Marc 9:2; Luc 9:28ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilltu; 2A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: a’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a’i ddillad oedd cyn wynned â’r goleuni. 3Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef. 4A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias. 5#2 Pedr 1:17Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a’u cysgododd hwynt: ac wele, lef o’r cwmwl, yn dywedyd, #Pen 3:17; Marc 1:11; Luc 3:22Hwn yw fy annwyl Fab, #Esa 42:1yn yr hwn y’m bodlonwyd: #Deut 18:19; Act 3:23gwrandewch arno ef. 6A phan glybu’r disgyblion hynny: hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr. 7A daeth yr Iesu, ac #Dan 8:18; 9:21; 10:10, 18a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch. 8Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig. 9Ac fel yr oeddynt yn disgyn o’r mynydd, #Pen 16:20gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw. 10A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, #Mal 4:5; Pen 11:14; Marc 9:11Paham gan hynny y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Eleias yn gyntaf? 11A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac #Luc 1:16, 17; Act 3:21a adfer bob peth. 12Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Eleias eisoes: ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy. 13Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.
14 #
Marc 9:14; Luc 9:37 Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth ato ryw ddyn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau, 15Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych. 16Ac mi a’i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iacháu ef. 17A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma ataf fi. 18A’r Iesu a geryddodd y cythraul; ac efe a aeth allan ohono: a’r bachgen a iachawyd o’r awr honno. 19Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? 20A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, #Pen 21:21; Marc 11:23; Luc 17:6; 1 Cor 12:9; 13:2Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symud oddi yma draw; ac efe a symudai: ac ni bydd dim amhosibl i chwi. 21Eithr nid â’r rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.
22 #
Pen 16:21
; 20:17|MAT 20:17; Marc 8:31; 9:30; 10:33; Luc 9:22, 44; 18:31Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion: 23A hwy a’i lladdant; a’r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.
24 #
Marc 9:33
Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn #17:24 A elwir yn yr iaith Roeg, didrachma : Gwel Exod 30:13; 38:26 arian y deyrnged a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged? 25Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid? 26Pedr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae’r plant yn rhyddion. 27Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i’r môr, a bwrw fach, a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf; ac wedi iti agoryd ei safn, ti a gei #17:27 Neu, stater.ddarn o arian: cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.
Dewis Presennol:
Mathew 17: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society