Mathew 12
12
A.D. 31. —
1 Crist yn ceryddu dallineb y Phariseaid, o ran torri y Saboth; 3 trwy ysgrythyrau, 10 trwy reswm, 13 a thrwy ryfeddod; 22 yn iacháu y dyn cythreulig, mud a dall. 31 Ni faddeuir byth gabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân. 36 Y rhoddir cyfrif am eiriau segur. 38 Y mae yn ceryddu yr anffyddloniaid a geisient arwydd; 49 ac yn dangos pwy yw ei frawd, a’i chwaer, a’i fam.
1Yr amser hwnnw #Deut 23:25; Marc 2:23; Luc 6:1yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy’r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwyta. 2A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw #12:2 gyfreithlon.rydd ei wneuthur ar y Saboth. 3Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch #1 Sam 21:6pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef? 4Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytaodd #12:4 torthau dangos, y rhai nid oedd gyfreithlon.#Exod 25:30; Lef 24:5y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwyta, nac i’r rhai oedd gydag ef, #Exod 29:32, 33; Lef 8:31; 24:9ond yn unig i’r offeiriaid? 5Neu oni ddarllenasoch yn y #Num 28:9; Ioan 7:22gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabothau yn y deml yn halogi’r Saboth, a’u bod yn ddigerydd? 6Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod yma #2 Cron 6:18 un mwy na’r deml. 7Ond pe gwybuasech beth yw hyn, #Hos 6:6; Pen 9:13Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed. 8Canys Arglwydd ar y Saboth hefyd yw Mab y dyn. 9#Marc 3:1; Luc 6:6Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i’w synagog hwynt.
10Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, #Luc 13:14; 14:3; Ioan 9:16Ai #12:10 cyfreithlon.rhydd iacháu ar y Sabothau? fel y gallent achwyn arno. 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac #Exod 23:4; Deut 22:4o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth, nid ymeifl ynddi, a’i chodi allan? 12Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly #12:12 cyfreithlon.rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau. 13Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a’i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.
14Yna yr aeth #Marc 3:6; Ioan 5:18; 10:39; 11:53y Phariseaid allan, ac a #12:14 Neu, gymerasant gyngor.ymgyngorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. 15A’r Iesu gan wybod, #Edrych Pen 10:23a giliodd oddi yno; #Pen 19:2a thorfeydd lawer a’i canlynasant ef, ac efe a’u hiachaodd hwynt oll; 16Ac #Pen 9:30a orchmynnodd iddynt, na #12:16 chyhoeddent ef.wnaent ef yn gyhoedd: 17Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, 18#Esa 42:1Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, #Pen 3:17; 17:5yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i’r Cenhedloedd. 19Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. 20Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. 21Ac yn ei enw ef y gobeithia’r Cenhedloedd.
22 #
Pen 9:32
; Marc 3:11; Luc 11:14Yna y ducpwyd ato un cythreulig, dall, a mud: ac efe a’i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud. 23A’r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd? 24#Pen 9:34; Marc 3:22; Luc 11:15Eithr pan glybu’r Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy #12:24 Gr. Beelsebwl: felly ad. 27.Beelsebub pennaeth y cythreuliaid. 25A’r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif. 26Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef? 27Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. 28Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw atoch. 29Neu, #Esa 49:24; Luc 11:22pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef. 30Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.
31Am hynny y dywedaf wrthych chwi, #Marc 3:28; Luc 12:10; Heb 6:4; 10:26, 29; 1 Ioan 5:16Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion. 32A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, #1 Tim 1:13fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw. 33Naill ai gwnewch y pren yn dda, #Pen 7:17; Luc 6:43, 44a’i ffrwyth yn dda; ai gwnewch y pren yn ddrwg, a’i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth. 34#Pen 3:7; 23:33O epil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? #Luc 6:45canys o helaethrwydd y galon y llefara’r genau. 35Y dyn da, o drysor da’r galon, a ddwg allan bethau da: a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg. 36Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn. 37Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir.
38 #
Pen 16:1
; Marc 8:11; Luc 11:16, 29; 1 Cor 1:22Yna yr atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwenychem weled arwydd gennyt. 39Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a #Esa 57:3godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas: 40#Jona 1:17Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear. 41#Luc 11:32Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i #Jer 3:11; Esec 16:51; Rhuf 2:27condemniant hi; am iddynt hwy #Jona 3:5edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma. 42#1 Bren 10:1; 2 Cron 9:1; Luc 11:31Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma. 43#Luc 11:24A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, #Job 1:7; 1 Pedr 5:8efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael. 44Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio. 45Yna y mae efe yn myned, ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno: #Heb 6:4; 10:26; 2 Pedr 2:20ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.
46Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, #Marc 3:31; Luc 8:19, 20wele, ei fam a’i #Pen 13:55; Marc 6:3; Ioan 2:12; 7:3; Act 1:14; 1 Cor 9:5; Gal 1:19frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef. 47A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi. 48Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i? 49Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i: 50Canys #Edrych Ioan 15:14; Gal 5:6; 6:15; Col 3:11pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam.
Dewis Presennol:
Mathew 12: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society