Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Malachi 3

3
1 Cennad, a mawrhydi, a gras Crist. 7 Anufudd‐dod, 8 a chysegr‐ladrad, 13 ac anffyddlondeb y bobl. 16 Addo bendith iddynt oddi wrth Dduw.
1Wele fi #Mat 11:10; Marc 1:2; Luc 1:76; 7:27yn anfon fy nghennad, ac efe #Esa 40:3a #3:1 barotoa.arloesa y ffordd o’m blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr Arglwydd, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i’w deml; sef #3:1 cennad.angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd Arglwydd y lluoedd. 2Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae #Edrych Esa 4:4; Mat 3:10, 11, 12efe fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion. 3Ac #Esa 1:25efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian: ac efe a bura feibion Lefi, ac a’u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y byddont yn offrymu i’r Arglwydd offrwm mewn cyfiawnder. 4Yna #Pen 1:11y bydd melys gan yr Arglwydd offrwm Jwda a Jerwsalem, megis yn y dyddiau gynt, ac fel #3:4 Neu, yr hen flynyddoedd.y blynyddoedd gynt. 5A mi a nesâf atoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig, a’r rhai sydd yn gorthrymu y weddw, a’r amddifad, a’r dieithr, ac heb fy ofni i, medd Arglwydd y lluoedd. 6Canys myfi yr Arglwydd #Num 23:19; Rhuf 11:29; Iago 1:17ni’m newidir; #Galar 3:22am hynny ni ddifethwyd chwi, meibion Jacob.
7Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch hwynt: #Sech 1:3dychwelwch ataf fi, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dychwelwn?
8A ysbeilia dyn Dduw? eto chwi a’m hysbeiliasoch i: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y’th ysbeiliasom? #Neh 13:10Yn y degwm a’r offrwm. 9Melltigedig ydych trwy felltith: canys chwi a’m hysbeiliasoch i, sef yr holl genedl hon. 10Dygwch yr holl ddegwm i’r #1 Cron 26:20; Neh 13:12trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhŷ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd Arglwydd y lluoedd, onid agoraf i chwi #Gen 7:11; 2 Bren 7:2ffenestri y nefoedd, a #2 Cron 31:10thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i’w derbyn. 11Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a’r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd Arglwydd y lluoedd. 12A’r holl genhedloedd a’ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd Arglwydd y lluoedd.
13 # Job 21:14, 15 Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i’m herbyn, medd yr Arglwydd: eto chwi a ddywedwch, Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di? 14Dywedasoch, Oferedd yw gwasanaethu Duw: a pha lesiant sydd er i ni gadw ei #3:14 Heb. gadwraeth.orchmynion ef, ac er i ni rodio #3:14 Heb. mewn du.yn alarus gerbron Arglwydd y lluoedd? 15Ac yr awr hon #Pen 2:17yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig: ie, gweithredwyr drygioni a adeiladwyd; ie, y rhai #Salm 95:9a demtiant Dduw, a waredwyd.
16Yna y rhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lefarasant bob un wrth ei gymydog: a’r Arglwydd a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd #Salm 56:8llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i’r rhai oedd yn ofni yr Arglwydd, ac i’r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef. 17A #Exod 19:5; Salm 135:4; Titus 2:14byddant eiddof fi, medd Arglwydd y lluoedd, y dydd y gwnelwyf #Esa 62:3#3:17 Neu, drysor neilltuol, neu, dlysau.briodoledd; #Salm 103:13arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu. 18Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a’r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a’r hwn nis gwasanaetho ef.

Dewis Presennol:

Malachi 3: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda