Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 22

22
A.D. 33. —
1 Yr Iddewon yn cyd‐fwriadu yn erbyn Crist. 3 Satan yn paratoi Jwdas i’w fradychu ef. 7 Yr apostolion yn arlwyo y pasg. 19 Crist yn ordeinio ei swper sanctaidd: 21 yn guddiedig yn rhagfynegi am y bradychwr: 24 yn annog y rhan arall o’i apostolion i ochelyd rhyfyg: 31 yn sicrhau Pedr na phallai ei ffydd ef: 34 ac er hynny y gwadai efe ef dair gwaith: 39 yn gweddïo yn y mynydd; ac yn chwysu gwaed: 47 yn cael ei fradychu â chusan: 50 yn iacháu clust Malchus: 54 yn cael ei wadu dair gwaith gan Pedr, 63 a’i amharchu yn gywilyddus; 66 ac yn cyfaddef ei fod yn Fab Duw.
1A #Mat 26:2; Marc 14:1nesaodd gŵyl y bara croyw, yr hon a elwir y pasg. 2A’r #Salm 2:2; Ioan 11:47; Act 4:27archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.
3 # Mat 26:14; Ioan 13:2, 27 A Satan a aeth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi’r deuddeg. 4Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r #22:4 capteiniaid.blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt. 5Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo. 6Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt #22:6 heb gythrwfl y dyrfa.yn absen y bobl.
7 # Mat 26:17; Marc 14:12 A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg. 8Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni’r pasg, fel y bwytaom. 9A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi ohonom? 10Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i mewn. 11A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion? 12Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr, wedi ei thaenu: yno paratowch. 13A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a baratoesant y pasg. 14#Mat 26:20; Marc 14:17A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gydag ef. 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi #22:15 gan chwennych a chwenychais, & c.a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof. 16Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi mwyach ohono, #Pen 14:15; Dat 19:9hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. 17Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith: 18Canys #Mat 26:29; Marc 14:25yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.
19 # Mat 26:26; Marc 14:22; 1 Cor 11:23 Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. 20Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
21 # Salm 41:9; Mat 26:21, 23; Marc 14:18; Ioan 13:21, 26 Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd. 22Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, #Act 2:23; 4:28megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae’r dyn hwnnw, trwy’r hwn y bradychir ef! 23Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny.
24A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf. 25#Mat 20:25; Marc 10:42Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. 26#1 Pedr 5:3Ond na fyddwch chwi felly: #Pen 9:48eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. 27Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr #Mat 20:28; Ioan 13:13, 14; Phil 2:7yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. 28A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn #Heb 4:15fy mhrofedigaethau. 29Ac #Mat 24:47; Pen 12:32yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau; 30Fel #Mat 8:11; Pen 14:15; Dat 19:9y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, #Salm 49:14; Mat 19:28; Dat 3:21ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
31A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, #1 Pedr 5:8Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith: 32Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: #Ioan 21:15, 16, 17tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr. 33Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau. 34#Mat 26:34; Marc 14:30; Ioan 13:38Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi. 35Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Mat 10:9; Pen 9:3; 10:4Pan y’ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim. 36Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered; a’r un modd god: a’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf. 37Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, #Esa 53:12; Marc 15:28A chyda’r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i’r pethau amdanaf fi. 38A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39 # Mat 26:36; Marc 14:32; Ioan 18:1 Ac wedi iddo fyned allan, #Pen 21:37efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef. 40#Mat 26:41; Marc 14:38; Ad. 46A phan ddaeth efe i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth. 41#Mat 26:39Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd, 42Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi #22:42 tro.droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny #Ioan 6:38nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. 43Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. 44#Ioan 12:27; Heb 5:7Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear. 45A phan gododd efe o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch; 46Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a #Ad. 40gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
47Ac efe eto yn llefaru, #Mat 26:47; Marc 14:43; Ioan 18:3wele dyrfa; a’r hwn a elwir Jwdas, un o’r deuddeg, oedd yn myned o’u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i’w gusanu ef. 48A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Jwdas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn? 49A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a drawn ni â chleddyf?
50A #Mat 26:51; Marc 14:47; Ioan 18:10rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef. 51A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â’i glust, ac a’i hiachaodd ef. 52#Mat 26:55; Marc 14:48A’r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a #22:52 chapteiniaid.blaenoriaid y deml, a’r henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn? 53Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu’r tywyllwch.
54 # Mat 26:57 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i harweiniasant, ac a’i dygasant i mewn i dŷ’r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell. 55#Mat 26:69; Marc 14:66Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt. 56A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef. 57Yntau a’i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef. 58Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf. 59Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw. 60A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog. 61A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, #Mat 26:34, 75Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. 62A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
63 # Mat 26:67 A’r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a’i gwatwarasant ef, gan ei daro. 64Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a’i trawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw’r hwn a’th drawodd di? 65A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.
66 # Mat 27:1 A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, ac a’i dygasant ef i’w #22:66 senedd.cyngor hwynt, 67Gan ddywedyd, #22:67 Os ti yw Crist.Ai ti yw Crist? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim: 68Ac os gofynnaf hefyd i chwi, ni’m hatebwch, ac ni’m gollyngwch ymaith. 69#Mat 26:64; Heb 1:3; 8:1Ar ôl hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw. 70A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Marc 14:62Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod. 71Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o’i enau ef ei hun.

Dewis Presennol:

Luc 22: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda