Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 5

5
1 Y neb a bechodd trwy gelu yr hyn a wypo, 2 trwy gyffwrdd â dim aflan: 4 neu trwy lw. 6 Ei offrwm dros ei gamwedd, o’r praidd, 7 o’r adar, 11 o beilliaid. 14 Yr offrwm dros gamwedd mewn cysegr‐ladrad, 17 ac mewn pechodau o anwybod.
1Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd. 2#Pen 11:24, 28, 31, 39Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe. 3Neu pan gyffyrddo #Pen 12; 13; 15ag aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o’i blegid, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw. 4Neu os dyn a dwng, gan draethu â’r gwefusau ar #Edrych 1 Sam 25:22; Act 23:12wneuthur drwg, neu #Edrych Marc 6:23wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn. 5A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna #Num 5:7cyffesed yr hyn y pechodd ynddo: 6A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o’r praidd, oen neu fyn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod. 7Ond #Pen 12:8; 14:21os ei law ni chyrraedd werth oen, dyged i’r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy #Pen 1:14durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn aberth dros bechod, a’r llall yn boethoffrwm. 8A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, #Pen 1:15a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith. 9A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a #Pen 4:7, 18, 30, 34gwasger y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod. 10A’r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ôl #Pen 1:14y ddefod: a’r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
11Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod: #Num 5:15na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw. 12A dyged hynny at yr offeiriad: a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law #Pen 2:2yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, #Pen 4:35fel ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. Dyma aberth dros bechod. 13A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o’r rhai hyn, a maddeuir iddo: #Pen 2:3a bydded i’r offeiriad y gweddill, megis o’r bwyd‐offrwm.
14A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 15#Pen 22:14Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gysegrwyd i’r Arglwydd; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, gyda’th bris di o siclau arian, yn ôl #Exod 30:13sicl y cysegr, yn aberth dros gamwedd. 16A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig, a #Pen 22:14; 27:13, 15, 27; Num 5:7rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.
17Ac os pecha #Pen 4:2enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchmynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, eto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg. 18A dyged hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, gyda’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei amryfusedd a gamgymerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo. 19Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddiau yn erbyn yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Lefiticus 5: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda