Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 18

18
1 Priodasau anghyfreithlon. 19 Chwantau anghyfreithlon.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw. 3Na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad yr Aifft, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch #Pen 20:23yn ôl gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt. 4Fy marnedigaethau i a wnewch, a’m deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw. 5Ie, cedwch fy neddfau a’m barnedigaethau: a’r #Esec 20:11, 13; Luc 10:28; Rhuf 10:5; Gal 3:12dyn a’u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr Arglwydd.
6Na nesaed neb at #18:6 Heb. weddill.gyfnesaf ei gnawd, i ddinoethi eu noethni: myfi yw yr Arglwydd. 7Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni. 8#Pen 20:11; Deut 22:30; 27:20; Esec 22:10; Amos 2:7; 1 Cor 5:1Na ddinoetha noethni gwraig dy dad: noethni dy dad yw. 9#Pen 20:17; 2 Sam 13:12; Esec 22:11Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt. 10Noethni merch dy fab, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt: canys dy noethni di ydyw. 11Noethni merch gwraig dy dad, plentyn dy dad, dy chwaer dithau yw hi; na ddinoetha ei noethni hi. 12#Pen 20:19Na ddinoetha noethni chwaer dy dad: cyfnesaf dy dad yw hi. 13Na ddinoetha noethni chwaer dy fam: canys cyfnesaf dy fam yw hi. 14#Pen 20:20Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb yw hi. 15#Pen 20:12; Esec 22:11Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab yw hi; na noetha ei noethni hi. 16#Pen 20:21; Mat 14:4; Edrych Deut 25:5Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd yw. 17#Pen 20:14Na noetha noethni gwraig a’i merch; na chymer ferch ei mab hi, neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi: ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn: ysgelerder yw hyn. 18Hefyd na chymer wraig ynghyd #18:18 Neu, â gwraig arall.â’i chwaer, i’w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyda’r llall, yn ei byw hi. 19Ac #Pen 20:18; Esec 18:6; 22:10na nesâ at wraig yn neilltuaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi. 20Ac #Exod 20:14; Pen 20:10na chydorwedd gyda gwraig dy gymydog, i fod yn aflan o’i phlegid. 21Ac na ddod o’th had #Pen 20:2; 2 Bren 23:10i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd. 22Ac #Pen 20:13; 1 Cor 6:9; 1 Tim 1:10na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd‐dra yw hynny. 23Ac #Exod 22:19; Pen 20:15, 16na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: #18:23 ffieiddbeth.cymysgedd yw hynny. 24Nac ymhalogwch yn yr un o’r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o’ch blaen chwi: 25A’r wlad a halogwyd: am hynny yr ydwyf yn ymweled â’i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo’r wlad ei thrigolion. 26Ond #Pen 20:22cedwch chwi fy neddfau a’m barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; na’r priodor, na’r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg: 27(Oherwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad, y rhai a fu o’ch blaen, a’r wlad a halogwyd;) 28Fel #Jer 9:19; Esec 36:13, 17na chwydo’r wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o’ch blaen. 29Canys pwy bynnag a wnêl ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; torrir ymaith yr eneidiau a’u gwnelo o blith eu pobl. 30Am hynny cedwch fy neddf i, #ad. 3; Pen 20:23heb wneuthur yr un o’r deddfau ffiaidd a wnaed o’ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

Dewis Presennol:

Lefiticus 18: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda