Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 10

10
1 Nadab ac Abihu, am offrymu tân dieithr, a losgir gan dân. 6 Gwarafun i Aaron ac i’w feibion alaru am danynt. 8 Gwahardd gwin i’r offeiriaid pan fônt ar fyned i’r babell. 12 Y gyfraith ynghylch bwyta pethau sanctaidd. 19 Esgus Aaron am ei throseddu.
1Yna #Num 3:3, 4; 26:61; 1 Cron 24:2Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymerasant bob un ei thuser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl‐darth ar hynny; ac a offrymasant gerbron yr Arglwydd dân dieithr yr hwn ni orchmynasai efe iddynt. 2A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a’u difaodd hwynt; a buant feirw gerbron yr Arglwydd. 3A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma’r hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai #Exod 19:22; Esa 52:11a nesânt ataf, a cherbron yr holl bobl y’m gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron. 4A galwodd Moses Misael ac Elsaffan, meibion #Exod 6:18; Num 3:19Ussiel, ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, Deuwch yn nes; dygwch eich brodyr oddi gerbron y cysegr, allan o’r gwersyll. 5A nesáu a wnaethant, a’u dwyn hwynt yn eu peisiau allan o’r gwersyll; fel y llefarasai Moses. 6A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar ei feibion, #Pen 13:45; 21:1, 10; Num 6:6; Deut 33:9; Esec 24:16Na ddiosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynulleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd. 7Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod; rhag i chwi farw: oherwydd bod olew eneiniad yr Arglwydd arnoch chwi. A gwnaethant fel y llefarodd Moses.
8Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd, 9#Esec 44:21; 1 Tim 3:3Gwin a diod gadarn nac yf di, na’th feibion gyda thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod; fel na byddoch feirw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn: 10A hynny #Jer 15:19; Esec 22:26; 44:23er gwahanu rhwng cysegredig a digysegredig, a rhwng aflan a glân; 11Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses.
12A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar, y rhai a adawsid o’i feibion ef, Cymerwch #Exod 29:2; Pen 8:2y bwyd‐offrwm sydd yng ngweddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bwytewch yn groyw gerllaw yr allor: oherwydd #Pen 21:22sancteiddiolaf yw. 13A bwytewch ef yn y lle sanctaidd: oherwydd dy ran di, a rhan dy feibion di, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yw hyn: canys #Pen 2:3; 6:16fel hyn y’m gorchmynnwyd. 14#Exod 29:24; Pen 7:31, 34Y barwyden gyhwfan hefyd, a’r ysgwyddog ddyrchafael, a fwytewch mewn lle glân; tydi, a’th feibion, a’th ferched, ynghyd â thi: oherwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti, ac yn rhan i’th feibion di, o ebyrth hedd meibion Israel. 15#Pen 7:29, 30Yr ysgwyddog ddyrchafael, a’r barwyden gyhwfan, a ddygant ynghyd ag ebyrth tanllyd o’r gwêr, i gyhwfanu offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: a bydded i ti, ac i’th feibion gyda thi, #10:15 trwy ddeddf.yn rhan dragwyddol; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.
16A Moses a geisiodd yn ddyfal #Pen 9:3fwch yr aberth dros bechod; ac wele ef wedi ei losgi: ac efe a ddigiodd wrth Eleasar ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd, 17Paham na fwytasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; oherwydd sancteiddiolaf yw, a Duw a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynulleidfa, gan wneuthur cymod drostynt, gerbron yr Arglwydd? 18Wele, ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cysegr: ei fwyta a ddylasech yn y cysegr; #Pen 6:26fel y gorchmynnais. 19A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddiw yr offrymasant eu haberth dros bechod, a’u poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd; ac fel hyn y digwyddodd i mi; am hynny os bwytawn aberth dros bechod heddiw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd? 20A phan glybu Moses hynny, efe a fu fodlon.

Dewis Presennol:

Lefiticus 10: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda