Ioan 15
15
A.D. 33. —
1 Y diddanwch a’r caredigrwydd sydd rhwng Crist a’i aelodau, trwy ddameg y winwydden. 18 Cysur mewn casineb ac erlid bydol. 26 Swydd yr Ysbryd Glân, a’r apostolion.
1Myfi yw’r wir winwydden, a’m Tad yw’r llafurwr. 2#Mat 15:13Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymaith: a phob un a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glanhau, fel y dygo fwy o ffrwyth. 3#Pen 13:10; 17:17|JHN 17:17; Eff 5:26; 1 Pedr 1:22Yr awron yr ydych chwi yn lân trwy’r gair a leferais i wrthych. 4Arhoswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megis na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, onid erys yn y winwydden; felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynof fi. 5Myfi yw’r winwydden, chwithau yw’r canghennau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid #15:5 wedi eich gwahanu oddi wrthyf fi.#Hos 14:8; Phil 1:11hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim. 6Onid erys un ynof fi, #Mat 3:10; 7:19efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd; ac y maent yn eu casglu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a losgir. 7Os arhoswch ynof fi, ac aros o’m geiriau ynoch, #Ad. 16 Ioan 14:13beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac efe a fydd i chwi. 8#Mat 5:16; Phil 1:11Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, ar ddwyn ohonoch ffrwyth lawer; a disgyblion fyddwch i mi. 9Fel y carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch yn fy nghariad i. 10#Pen 14:15, 21, 23Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef. 11Hyn a ddywedais wrthych, fel yr #15:11 arhoso.arhosai fy llawenydd ynoch, ac #Pen 16:24y #15:11 byddo.byddai eich llawenydd yn gyflawn. 12#Pen 13:34; 1 Thess 4:9; 1 Pedr 4:8; 1 Ioan 3:11; 4:21Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi. 13#Rhuf 5:7, 8; Eff 5:2; 1 Ioan 3:16Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion. 14#Pen 14:15, 23; Edrych Mat 12:50Chwychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi. 15Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a’ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid #Edrych Gen 18:17pob peth a’r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi. 16#1 Ioan 4:10, 19Nid chwi a’m dewisasoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch #Mat 28:19; Marc 16:15; Col 1:6ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis #Ad. 7 Ioan 14:13pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi. 17Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu ohonoch eich gilydd. 18#1 Ioan 3:13Os yw’r byd yn eich casáu chwi, #15:18 gwybyddwch.chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o’ch blaen chwi. 19#1 Ioan 4:5Pe byddech o’r byd, y byd a garai’r eiddo; ond #Pen 17:14oblegid nad ydych o’r byd, eithr i mi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich casáu chwi. 20Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; #Mat 10:24; Luc 6:40; Ioan 13:16Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: #Esec 3:7os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. 21Eithr #Mat 10:22; 24:9; Ioan 16:3hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i. 22#Pen 9:41Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: #Rhuf 1:20; Iago 4:17ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod. 23#1 Ioan 2:23Yr hwn sydd yn fy nghasáu i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd. 24Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac a’m casasant i a’m Tad hefyd. 25Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, #Salm 35:19; 69:4Hwy a’m casasant yn ddiachos. 26#Luc 24:49; Ioan 14:17, 26; 16:7; Act 2:33Eithr pan ddêl y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad, (sef Ysbryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deillio oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha amdanaf fi. 27A #Act 1:8, 21, 22; 5:32chwithau hefyd a dystiolaethwch, am #Luc 1:2; 1 Ioan 1:1eich bod o’r dechreuad gyda mi.
Dewis Presennol:
Ioan 15: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society