Habacuc 2
2
1 I Habacuc, yn disgwyl am ateb, y dangosir y bydd rhaid iddo ddisgwyl trwy ffydd. 5 Y barnedigaethau a ddaw ar y Caldeaid am eu balchder, 9 a’u trachwant, 12 a’u creulondeb, 15 a’u meddwdod, 18 a’u delw‐addoliaeth.
1 #
Esa 21:8, 11 Safaf ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf #2:1 Heb. yn amddiffynfa.ar y tŵr, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe #2:1 Neu, ynof.wrthyf, a pha beth a atebaf pan #2:1 Neu, ddadleuer â mi. Heb. ar fy ngherydd, neu, fy argyhoeddiad.y’m cerydder. 2A’r Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, #Esa 8:1; 30:8Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a’i darlleno. 3Canys #Dan 10:14y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o’r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys #Heb 10:37gan ddyfod y daw, nid oeda. 4Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond #Ioan 3:36; Rhuf 1:17; Gal 3:11; Heb 10:38y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd.
5 # 2:5 Neu, Pa faint mwy. A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gŵr balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwl #Diar 27:20; 30:16fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl bobloedd. 6Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a dywedyd, #2:6 Neu, Ho yr hwn sydd yn helaethu.Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo! pa hyd? a’r neb a lwytho arno ei hun y clai tew! 7Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a’th frathant, ac oni ddeffry y rhai a’th gystuddiant, a thi a fyddi yn #2:7 Neu, ysglyfaeth.wasarn iddynt? 8#Esa 33:1Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a’th ysbeilia dithau: #ad. 17am waed dynion, ac am y trais ar y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi.
9 #
Jer 22:13
Gwae a #2:9 Neu, chwenycho ddrygchwant.elwo elw drwg i’w dŷ, i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o #2:9 Heb. gledr llaw y drwg.law y drwg! 10Cymeraist gyngor gwarthus i’th dŷ, wrth ddistrywio pobloedd lawer; pechaist yn erbyn dy enaid. 11Oherwydd y garreg a lefa o’r mur, a’r #2:11 Neu, darn, neu, cysylltiad.trawst #2:11 Neu, a dystiolaetha i’w herbyn.a’i hetyb o’r gwaith coed.
12 #
Jer 22:13; Esec 24:9; Nahum 3:1 Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd! 13Wele, onid oddi wrth Arglwydd y lluoedd y mae, #Jer 51:53bod i’r bobl ymflino yn y tân, ac i’r cenhedloedd ymddiffygio #2:13 Neu, yn ofer.am wir wagedd? 14Canys #Esa 11:9y ddaear a lenwir #2:14 Neu, trwy adnabod.o wybodaeth gogoniant yr Arglwydd, fel y toa y dyfroedd y môr.
15Gwae a roddo ddiod i’w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt! 16Llanwyd di o warth #2:16 Neu, yn fwy nag a ogoniant.yn lle gogoniant; #Jer 25:26; 51:57yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr Arglwydd atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant. 17Canys trais Libanus a’th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a’u dychrynodd hwynt, #ad. 8o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a drigant ynddi.
18Pa les a wna i’r ddelw gerfiedig, ddarfod i’w lluniwr ei cherfio; i’r ddelw dawdd, ac #Jer 10:8, 14; Sech 10:2athro celwydd, fod lluniwr ei #2:18 Heb. lun.waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eilunod mudion? 19Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro; wrth garreg fud, Cyfod, efe a rydd addysg: wele, gwisgwyd ef ag aur ac arian, a dim anadl nid oes o’i fewn. 20Ond #Salm 11:4yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd: #Seff 1:7; Sech 2:13y ddaear oll, #2:20 Neu, gosteged ger ei, &cgostega di ger ei fron ef.
Dewis Presennol:
Habacuc 2: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society