Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 8

8
1 Y dyfroedd yn llonyddu. 4 Yr arch yn gorffwys ar fynyddoedd Ararat. 7 Y gigfran a’r golomen. 15 Noa, ar orchymyn Duw, 18 yn myned allan o’r arch. 20 Efe yn adeiladu allor, ac yn aberthu aberth: 21 yr hwn y mae Duw yn ei dderbyn, ac yn addo na felltithiai y ddaear mwyach.
1A Duw a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gydag ef yn yr arch: a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant. 2Caewyd hefyd ffynhonnau’r dyfnder a ffenestri’r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd. 3A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen #Pen 7:24y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.
4Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o’r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. 5A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y gwelwyd pennau’r mynyddoedd.
6Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch a wnaethai efe. 7Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear. 8Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai’r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear. 9Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i’r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd hi, ac a’i derbyniodd hi ato i’r arch. 10Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o’r arch. 11A’r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear. 12Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.
13Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear. 14Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, y ddaear a sychasai.
15A llefarodd Duw wrth Noa, gan ddywedyd, 16Dos allan o’r arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi. 17Pob peth byw a’r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a #Pen 1:22ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear. 18A Noa a aeth allan, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef. 19Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu #8:19 Heb. tylwythau.rhywogaethau, a ddaethant allan o’r arch.
20A Noa a adeiladodd allor i’r Arglwydd, ac a gymerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor. 21A’r Arglwydd a aroglodd arogl #8:21 peraidd.esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, Ni chwanegaf felltithio’r ddaear mwy er mwyn dyn: #8:21 er bod.oherwydd bod #Pen 6:5; Mat 15:19bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum. 22Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a #Jer 33:20, 25dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.

Dewis Presennol:

Genesis 8: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda