Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 5

5
1 Achau, oedran, a marwolaeth y patrieirch, o Adda hyd Noa. 24 Duwioldeb Enoch, a Duw yn ei gymryd ef ymaith.
1Dyma #1 Cron 1:1; Luc 3:38lyfr cenedlaethau Adda: yn y dydd y creodd Duw ddyn, #Pen 1:26ar lun Duw y gwnaeth efe ef. 2Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt.
3Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun, ac #Pen 4:25a alwodd ei enw ef Seth. 4#1 Cron 1:1A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gan mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched. 5A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.
6Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd, ac #Pen 4:26a genhedlodd Enos. 7A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 8A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
9Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan. 10Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 11A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
12Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd #5:12 Gr. Malaleel.Mahalaleel. 13A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 14A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
15A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd, ac a genhedlodd #5:15 Jared.Jered. 16A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 17A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd; ac efe a fu farw.
18A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd, ac a genhedlodd #Jwdas 14; 15#5:18 Gr. Henoch.Enoch. 19A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 20A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
21Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd #5:21 Gr. Mathusala.Methwsela. 22Ac Enoch #Pen 6:9; 17:1; 24:40; Salm 16:8; 116:9a rodiodd gyda Duw wedi iddo genhedlu Methwsela, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 23A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd. 24A #Heb 11:5rhodiodd Enoch gyda Duw, ac ni welwyd ef; canys Duw a’i cymerodd ef.
25Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech. 26A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 27A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
28Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd fab; 29Ac a alwodd ei enw ef #5:29 Gr. Noe Luc 3:36; Heb 11:7; 1 Pedr 3:20Noa, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylo, oherwydd y ddaear #Pen 3:17; 4:11yr hon a felltigodd yr Arglwydd. 30A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 31A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd; ac efe a fu farw. 32A Noa ydoedd fab pum can mlwydd; a Noa a genhedlodd Sem, #5:32 Neu, Ham.Cham, a Jaffeth.

Dewis Presennol:

Genesis 5: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd