Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 41

41
1 Dwy freuddwyd Pharo. 25 Joseff yn eu dehongli hwy: 33 yn rhoddi cyngor i Pharo. 38 Codiad Joseff. 50 Mae efe yn cenhedlu Manasse ac Effraim. 54 Y newyn yn dechrau.
1Yna ymhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharo freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon. 2Ac wele, yn esgyn o’r afon, saith o wartheg teg yr olwg, a thewion o gig; ac mewn gweirglodd‐dir y porent. 3Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt o’r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill, ar lan yr afon. 4A’r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwytasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision. Yna y dihunodd Pharo. 5Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o rai #41:5 Heb. breision.breisgion a da. 6Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hôl hwynt. 7A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharo; ac wele breuddwyd oedd. 8A’r bore y bu i’w ysbryd ef gynhyrfu; ac #Dan 2:2efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aifft a’i holl ddoethion hi: a Pharo a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharo.
9Yna y llefarodd y pen‐trulliad wrth Pharo, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw. 10Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision; ac efe a’m rhoddes mewn carchar yn nhŷ’r distain, myfi a’r pen‐pobydd. 11A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom #Pen 40:5bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd. 12Ac yr oedd yno gyda nyni fab ieuanc o Hebread, gwas i’r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau #Pen 40:12, &ca ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ôl ei freuddwyd y dehonglodd efe. 13A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i’m swydd; ac yntau a grogodd efe.
14 # Salm 105:20 Pharo, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Joseff: hwythau ar redeg a’i cyrchasant ef o’r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharo. 15A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti, y medri #41:15 Heb. wrando.ddeall breuddwyd i’w ddehongli. 16A Joseff a atebodd Pharo, gan ddywedyd, Nid myfi; Duw a etyb lwyddiant i Pharo. 17A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon. 18Ac wele yn esgyn o r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd‐dir y porent. 19Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft. 20A’r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf. 21Ac er eu myned i’w boliau, ni wyddid iddynt fyned i’w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais. 22Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o’r un gorsen. 23Ac wele saith o dywys #41:23 gwywedig.mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hôl hwynt. 24A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a’i dehonglai i mi.
25A dywedodd Joseff wrth Pharo, Breuddwyd Pharo sydd un yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo. 26Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt y breuddwyd un yw. 27Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt, a fyddant #2 Bren 8:1saith mlynedd o newyn. 28Hyn yw’r peth a ddywedais i wrth Pharo: Yr hyn a wna Duw, efe a’i dangosodd i Pharo. 29Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aifft. 30Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft: a’r newyn a ddifetha’r wlad. 31Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid #41:31 blin.trwm iawn fydd. 32Hefyd am ddyblu’r breuddwyd i Pharo ddwywaith, hynny a fu oblegid #41:32 Neu, darparu.sicrhau’r peth gan Dduw, a bod Duw yn brysio i’w wneuthur. 33Yn awr, gan hynny, edryched Pharo am ŵr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aifft. 34Gwnaed Pharo hyn, a gosoded #41:34 swyddogion.olygwyr ar y wlad, a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra. 35A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharo, a chadwant ymborth yn y dinasoedd. 36A bydded yr ymborth yng nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant yng ngwlad yr Aifft, fel na #41:36 Neu, thorrer ymaith.ddifether y wlad gan y newyn.
37A’r peth oedd dda yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei holl weision. 38A dywedodd Pharo wrth ei weision, A gaem ni ŵr fel hwn, #Num 27:18; Dan 5:11yr hwn y mae ysbryd Duw ynddo? 39Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Gan wneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb â thydi. 40#Salm 105:21; Act 7:10Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y #41:40 Heb. arfogir, neu, cusana.llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrngadair yn unig y byddaf fwy na thydi. 41Yna y dywedodd Pharo wrth Joseff, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aifft. 42A #Est 3:10; 8:2, 8thynnodd Pharo ei fodrwy oddi ar ei law, ac a’i rhoddes hi ar law Joseff, ac a’i gwisgodd ef mewn gwisgoedd #41:42 Neu, lliain main.sidan, ac #Dan 5:7, 29a osododd gadwyn aur am ei wddf ef; 43Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail gerbyd oedd ganddo; a llefwyd o’i flaen ef, #41:43 Sef, Plygwch y glin, neu, Tad y brenin, Pen 45:8Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aifft. 44Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Myfi yw Pharo, ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law na’i droed, trwy holl wlad yr Aifft. 45A Pharo a alwodd enw Joseff, Saffnath‐panea; ac a roddes iddo Asnath, merch Potiffera #41:45 Neu, tywysog.offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseff allan dros wlad yr Aifft.
46A Joseff ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharo brenin yr Aifft: a Joseff a aeth allan o ŵydd Pharo, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aifft. 47A’r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau. 48Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu yng ngwlad yr Aifft, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pob dinas, a roddes efe i gadw ynddi. 49A Joseff a gynullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosog, hyd oni pheidiodd â’i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi. 50Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, #Pen 46:20; 48:5y ganwyd i Joseff ddau fab, y rhai a ymddûg Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef. 51A Joseff a alwodd enw ei gyntaf‐anedig, #41:51 Sef, Anghofio.Manasse: Oblegid (eb efe) Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll. 52Ac efe a alwodd enw yr ail, #41:52 Sef, Ffrwythlon.Effraim: Oblegid (eb efe) Duw a’m ffrwythlonodd i yng ngwlad fy ngorthrymder.
53Darfu’r saith mlynedd o amldra, y rhai a fu yng ngwlad yr Aifft. 54#Salm 105:16A’r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Joseff: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aifft yr ydoedd bara. 55A phan newynodd holl wlad yr Aifft, y bobl a waeddodd ar Pharo am fara: a Pharo a ddywedodd wrth yr holl Eifftiaid, Ewch at Joseff; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch. 56Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear: a Joseff a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt, ac a werthodd i’r Eifftiaid; oblegid y newyn oedd drwm yng ngwlad yr Aifft. 57A daeth yr holl wledydd i’r Aifft at Joseff i brynu; oherwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd.

Dewis Presennol:

Genesis 41: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda