Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 35

35
1 Duw yn anfon Jacob i Bethel. 2 Mae efe yn glanhau ei dŷ o ddelwau; 6 yn adeiladu allor yn Bethel. 8 Debora yn marw yn Alhon‐bacuth. 9 Duw yn bendithio Jacob yn Bethel. 16 Rahel, wrth esgor ar Benjamin, yn marw ar y ffordd i Edar. 22 Reuben yn gorwedd gyda Bilha. 23 Meibion Jacob. 27 Jacob yn dyfod at Isaac i Hebron. 28 Oedran, marwolaeth, a chladdedigaeth Isaac.
1A Duw a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i Dduw, #Pen 28:13yr hwn a ymddangosodd i ti #Pen 27:43pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd. 2Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gydag ef, Bwriwch ymaith #Pen 31:19, 34; Jos 24:2y duwiau dieithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhewch, a #Exod 19:10newidiwch eich dillad; 3A chyfodwn, ac esgynnwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i Dduw, yr hwn a’m gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda myfi yn y ffordd a gerddais. 4A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a’r clustlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a’u cuddiodd hwynt dan #Jos 24:26; Barn 9:6y dderwen oedd yn ymyl Sichem. 5A hwy a gychwynasant: ac #Exod 15:16; 23:27; 34:24; Deut 11:25; Jos 2:9; 5:1; 1 Sam 14:15; 2 Cron 14:14ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob.
6A Jacob a ddaeth i Lus, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef; 7Ac a adeiladodd yno allor, ac #Pen 28:19a enwodd y lle #35:7 Sef, Duw Bethel.El‐bethel, oblegid yno yr ymddangosasai Duw iddo ef, pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd. 8A #Pen 24:59marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca; a hi a gladdwyd islaw Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno #35:8 Sef, derwen wylofain.Alhon‐bacuth.
9Hefyd #Hos 12:4Duw a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o #35:9 Padan‐Aram.Mesopotamia; ac a’i bendithiodd ef. 10A Duw a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond #Pen 32:28Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel. 11Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, #Pen 17:1; 48:3Myfi yw Duw Hollalluog: cynydda, ac amlha; #Pen 17:5, 6, 16; 28:3; 48:4cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di. 12A’r wlad #Pen 12:7; 13:15; 26:3, 4yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad. 13A Duw a esgynnodd oddi wrtho ef, yn y fan lle y llefarasai efe wrtho. 14A Jacob #Pen 28:18a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe ag ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddiod‐offrwm, ac a dywalltodd olew arni. 15A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd Duw ag ef, #Pen 28:19Bethel.
16A hwy a aethant ymaith o Bethel; ac yr oedd eto #35:16 Neu, ychydig ffordd, 2 Bren 5:19megis milltir o dir i ddyfod i Effrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor. 17A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i’r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab. 18Darfu hefyd, wrth ymadael o’i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef #35:18 Sef, Mab fy ngalar.Ben‐oni: ond ei dad a’i henwodd ef #35:18 Sef, Mab y ddeheulaw.Benjamin. 19A #Pen 48:7Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i #Ruth 1:2; 4:11Effrath; hon yw Bethlehem. 20A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel #1 Sam 10:2hyd heddiw. 21Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o’r tu hwnt i #Micha 4:8#35:21 Tŵr Edar.Migdal‐edar. 22A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac #Pen 49:4; 1 Cron 5:1; Edrych 2 Sam 16:22; 20:3; 1 Cor 5:1a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad; a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg: 23Meibion Lea; #Pen 46:8; Exod 1:2Reuben, cyntaf‐anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Sabulon. 24Meibion Rahel; Joseff a Benjamin. 25A meibion Bilha, llawforwyn Rahel; Dan a Nafftali. 26A meibion Silpa, llawforwyn Lea; Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.
27A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i #Pen 13:18; 23:2Mamre, i Gaer‐arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac. 28A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd. 29Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac #Pen 15:15; 25:8a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a’i feibion, Esau a Jacob, #Pen 49:31a’i claddasant ef.

Dewis Presennol:

Genesis 35: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda