Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 28

28
1 Isaac yn bendithio Jacob, ac yn ei anfon ef i Mesopotamia. 9 Esau yn priodi Mahalath merch Ismael. 12 Gweledigaeth ysgol Jacob. 18 Maen Bethel. 20 Adduned Jacob.
1Yna y galwodd Isaac ar Jacob, ac a’i bendithiodd ef: efe a orchmynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, #Pen 24:3Na chymer wraig o ferched Canaan. 2#Hos 12:12Cyfod, dos i #28:2 Padan‐Aram.#Pen 25:20Mesopotamia, i dŷ #Pen 22:23Bethuel tad dy fam; a chymer i ti wraig oddi yno, o ferched #Pen 24:20Laban brawd dy fam: 3A Duw Hollalluog a’th fendithio, ac a’th ffrwythlono, ac a’th luosogo, fel y byddech yn #28:3 lliaws o bobloedd.gynulleidfa pobloedd: 4Ac a roddo i ti #Pen 12:2fendith Abraham, i ti ac i’th had gyda thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham. 5Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob: ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.
6Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a’i anfon ef i Mesopotamia, i gymryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymer wraig o ferched Canaan; 7A gwrando o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a’i fyned i Mesopotamia; 8Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan yng ngolwg Isaac ei dad; 9Yna Esau a aeth at Ismael, ac a gymerodd #Pen 36:3BasemathMahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.
10A Jacob #Hos 12:12a aeth allan o Beer‐seba, ac a aeth tua #Act 7:2 CharranHaran. 11Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a letyodd yno dros nos; oblegid machludo’r haul: ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno. 12Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele #Ioan 1:51; Heb 1:14angylion Duw yn dringo ac yn disgyn ar hyd‐ddi. 13Ac #Pen 35:1; 48:3wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had. 14#Pen 13:16A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan #Deut 12:20i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r deau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac #Pen 12:3; 18:18; 22:18; 26:4yn dy had di. 15Ac wele #Edrych Pen 28:21fi gyda thi; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon: oherwydd ni’th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.
16A Jacob a ddeffrôdd o’i gwsg; ac a ddywedodd, Diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i. 17Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw’r lle hwn! nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd. 18A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe #Pen 31:13, 45; 35:14a’i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi. 19Ac efe a alwodd enw y #Barn 1:23, 26; Hos 4:15lle hwnnw, #28:19 Sef, Tŷ Dduw.Bethel: ond Lus fuasai enw y ddinas o’r cyntaf. 20Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os #ad. 15Duw fydd gyda myfi, ac a’m ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi #1 Tim 6:8fara i’w fwyta, a dillad i’w gwisgo, 21A dychwelyd ohonof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi. 22A’r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, #Pen 35:7, 14a fydd yn dŷ Dduw; ac o’r hyn oll a roddech i mi, gan ddegymu mi a’i degymaf i ti.

Dewis Presennol:

Genesis 28: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda