Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 25

25
1 Plant Abraham o Cetura. 5 Rhannu ei dda ef. 7 Ei oedran a’i farwolaeth. 9 Ei gladdedigaeth. 12 Cenedlaethau Ismael. 17 Ei oedran a’i farwolaeth. 21 Isaac yn gweddïo dros Rebeca, yr hon oedd yn amhlantadwy. 22 Y plant yn ymwthio yn ei chroth hi. 24 Genedigaeth Esau a Jacob. 27 Y rhagor oedd rhyngddynt hwy. 29 Esau yn gwerthu braint ei enedigaeth.
1Ac Abraham a gymerodd eilwaith wraig, a’i henw Cetura. 2A #1 Cron 1:32hi a esgorodd iddo ef Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. 3A Jocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lewmmim. 4A meibion Midian oedd Effa, ac Effer, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaa: yr holl rai hyn oedd feibion Cetura.
5Ac #Pen 24:36Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac. 6Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a’u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tua’r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe eto yn fyw. 7A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; can mlynedd a phymtheng mlynedd a thrigain. 8Ac Abraham a drengodd, ac #Pen 15:15; 49:29a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl. 9Ac Isaac ac Ismael ei feibion a’i claddasant ef yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre; 10#Pen 23:16Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.
11Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth #Pen 16:14; 24:62ffynnon Lahai‐roi.
12A dyma genedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Eifftes, morwyn Sara, i Abraham. 13A #1 Cron 1:29dyma enwau meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenedlaethau: Nebaioth cyntaf‐anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam, 14Misma hefyd, a Duma, a Massa, 15#25:15 Neu, Hadad.Hadar, a Thema, Jetur, Naffis, a Chedema. 16Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll; #Pen 17:20yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd. 17A dyma flynyddoedd einioes Ismael; can mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl. 18Preswyliasant hefyd #1 Sam 15:7o Hafila hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ei di i Asyria: ac #Pen 16:12yng ngŵydd ei holl frodyr y #25:18 Heb. cwympodd.bu efe farw.
19A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: #Mat 1:2Abraham a genhedlodd Isaac. 20Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo. 21Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy; a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a #Rhuf 9:10Rebeca ei wraig ef a feichiogodd. 22A’r plant a ymwthiasant â’i gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â’r Arglwydd. 23A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di; #2 Sam 8:14a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, #Pen 27:29; Mal 1:3; Rhuf 9:12a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
24A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi. 25A’r cyntaf a ddaeth allan yn goch #Pen 27:11, 16, 23drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau. 26Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, #Hos 12:3a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd #Pen 27:36ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt. 27A’r llanciau a gynyddasant: ac Esau oedd ŵr yn medru hela, a gŵr o’r maes; a Jacob oedd ŵr disyml, yn cyfanheddu mewn pebyll. 28Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o’i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.
29A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o’r maes, ac efe yn ddiffygiol. 30A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, #25:30 Heb. o’r coch, o’r coch yma.o’r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom. 31A dywedodd Jacob, Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth‐fraint. 32A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha les a wna’r enedigaeth‐fraint hon i mi? 33A dywedodd Jacob, Twng i mi heddiw. Ac efe a dyngodd iddo; ac #Heb 12:16efe a werthodd ei enedigaeth‐fraint i Jacob. 34A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys; ac efe a fwytaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y diystyrodd Esau ei enedigaeth‐fraint.

Dewis Presennol:

Genesis 25: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda